CWESTIYNAU POBL IFANC
Sut Galla’ i Gadw at Ddeiet Cytbwys?
Mae’n debyg dy fod ti’n gwybod bod deiet anghytbwys yn niweidiol i dy iechyd. Mae rhywun sydd ddim yn bwyta’n iach pan fyddai’n ifanc yn debygol o beidio â bwyta’n iach pan fyddai’n hŷn, felly mae’n dda i ddatblygu arferion bwyta’n iach nawr.
Beth yw deiet cytbwys?
Mae’r Beibl yn dweud y dylen ni “ymddwyn yn gyfrifol,” ac mae hynny’n cynnwys ein harferion bwyta. (1 Timotheus 3:2) Gyda’r egwyddor hon mewn cof, mae’n beth da i wybod bod . . .
Deiet cytbwys yn cynnwys pob grŵp bwyd. Mae’r pum grŵp bwyd yn cynnwys cynnyrch llaeth, proteinau, ffrwythau, llysiau, a grawn. Mae rhai pobl yn osgoi un neu fwy o’r grwpiau hyn, gan feddwl bydd hynny’n eu helpu i golli pwysau. Ond trwy wneud hynny, efallai na fydd dy gorff yn cael y maetholion sydd eu hangen.
Tria hyn: Gwna ymchwil neu siarad â dy ddoctor i ddysgu pam mae’n bwysig bwyta gwahanol fathau o fwyd. Er enghraifft:
Mae carbohydradau’n gallu rhoi egni iti. Mae proteinau yn helpu dy gorff i frwydro yn erbyn clefydau, a hefyd i adeiladu ac atgyweirio meinweoedd. Mae rhai brasterau—yn y maint cywir—yn gallu lleihau’r peryg o gael clefyd y galon a dy helpu i deimlo’n heini.
“Dw i’n ceisio bwyta prydau cytbwys o bob grŵp bwyd. Hefyd dw i ddim yn meddwl bod o’n beth drwg i gael bar o siocled neu tecawê o bryd i’w gilydd. Ond mae’n rhaid bwyta pethau eraill hefyd. Mae bod yn gytbwys wastad yn syniad da.”—Brenda.
Deiet cytbwys yn osgoi eithafion. Gall hynny gynnwys peidio â bwyta digon, yr arfer o newynu ac wedyn gorfwyta, neu wrthod bwyta’r pethau rwyt ti’n eu hoffi.
Tria hyn: Am fis, cymera sylw o beth rwyt ti’n ei fwyta. Pa mor aml wyt ti’n mynd i’r eithafion sy’n cael eu disgrifio uchod? Pa newidiadau gelli di eu gwneud er mwyn cadw at ddeiet cytbwys?
“O’n i’n cael rhai diwrnodau ble o’n i’n bwyta pethau llawn calorïau, a rhai diwrnodau pan o’n i ddim yn cael llawer o galorïau o gwbl. Yn y pen draw, penderfynais i stopio cyfri calorïau, i fod yn ofalus i beidio â gorfwyta, ac i stopio bwyta pan o’n i’n llawn. Cymerodd amser, ond nawr mae gen i ddeiet cytbwys.”—Hailey.
Sut galla’ i gadw at ddeiet cytbwys?
Meddylia o flaen llaw. Mae’r Beibl yn dweud: “Mae llwyddiant yn dod o gynllunio gofalus.” (Diarhebion 21:5) Mae’n rhaid meddwl o flaen llaw er mwyn llwyddo i fwyta’n iach.
“Mae angen cynllunio er mwyn bwyta’n iach, ac yn aml mae’n rhaid paratoi bwyd iach adref. Ond mae’r canlyniadau yn werth yr holl ymdrech, a gelli di hefyd arbed arian.”—Thomas.
Dewisa fwydydd iach. Mae’r Beibl yn dweud: “Paid colli golwg ar gyngor doeth.” (Diarhebion 3:21) Bydd cyngor doeth yn dy helpu di i fod yn greadigol a darganfod beth sy’n gweithio’n orau i ti.
“Wnes i ddechrau swopio un peth bob diwrnod am rywbeth iach. Er enghraifft, yn lle bwyta bar o siocled, wnes i fwyta afal. Cyn bo hir o’n i’n swopio llawer o bethau i fod yn iach yn ystod y diwrnod!”—Kia.
Bydda’n rhesymol gyda ti dy hun. Mae’r Beibl yn dweud: “Mwynha dy fwyd.” (Pregethwr 9:7) Dydy cael deiet cytbwys ddim yn golygu bod rhaid stopio mwynhau dy fwyd, neu obsesu am bob darn o fwyd rwyt ti’n ei fwyta. Hyd yn oed os wyt ti angen colli pwysau, cofia mai bod yn iach ydy dy nod. Bydda’n rhesymol yn dy ddisgwyliadau personol.
“Wnes i golli dwy stôn yn ddiweddar, a thrwy’r broses wnes i erioed llwgu fy hun, osgoi unrhyw grŵp bwyd, na theimlo’n euog am fwyta pwdin. Wnes i dderbyn y ffaith nad rhywbeth dros nos oedd hyn ond yn hytrach roedd rhaid imi newid fy agwedd tuag at fwyd.”—Melanie.