CWESTIYNAU POBL IFANC
Sut Gallaf Osgoi Gorflino?
Ydy hi’n bosib dy fod ti’n gwneud gormod? Os felly, gall yr erthygl hon dy helpu!
Pam mae’n digwydd?
Cael dy orlwytho. “Ym mhob agwedd o fywyd,” meddai dynes ifanc o’r enw Julie, “cawn ein hannog i ddal ati i wella, i wneud cynnydd, i ddal i osod nodau uwch a chael canlyniadau gwell. Mae bod o dan y fath bwysau drwy’r adeg yn anodd!”
Technoleg. Gyda ffonau clyfar, tabledi, a dyfeisiau eraill, rydyn ni ar gael drwy’r amser—sydd yn ein rhoi ni o dan bwysau, a dros amser yn gallu ein llethu.
Diffyg cwsg. “Rhwng ysgol, gwaith, ac amser hamdden, mae llawer o bobl ifanc yn codi’n gynnar ac yn aros i fyny yn hwyr, wedi eu dal mewn cylch diddiwedd,” meddai dynes ifanc o’r enw Miranda. Yn aml mae’r patrwm hwnnw yn arwain at orflino.
Pam mae’n bwysig?
Mae’r Beibl yn canmol bod yn weithgar. (Diarhebion 6:6-8; Rhufeiniaid 12:11) Ond nid yw’n awgrymu gweithio i’r fath raddau nes bod popeth arall mewn bywyd yn dioddef—gan gynnwys dy iechyd.
“Un tro, sylweddolais o’n i heb fwyta am ddiwrnod cyfan am fy mod wedi canolbwyntio gymaint ar fy holl gyfrifoldebau. Dysgais dyw hi ddim yn talu i fod yn rhy awyddus i dderbyn pob aseiniad, a hynny ar draul fy iechyd.”—Ashley.
Am reswm da, dywed y Beibl: “Mae ci byw yn well ei fyd na llew marw.” (Pregethwr 9:4) Gallai gwthio dy hun wneud iti feddwl bod gen ti nerth fel llew—o leiaf am gyfnod. Ond gall gorflino gael effaith niweidiol ar dy iechyd.
Beth fedri di ei wneud?
Dysgu i ddweud na. Dywed y Beibl: “Pobl wylaidd ydy’r rhai doeth.” (Diarhebion 11:2) Mae pobl ostyngedig yn deall eu terfynau a dim yn gwneud mwy nag y maen nhw’n gallu.
“Y math o berson sy’n debyg o orflino yw’r un sydd ddim yn gallu dweud na ac sy’n ceisio gwneud popeth sy’n cael ei gynnig iddo. Dydy hynny ddim yn beth gostyngedig. Ac yn hwyr neu’n hwyrach, mae’n arwain at losgi allan.”—Jordan.
Cael digon o orffwys. Dywed y Beibl: “Mae un llond llaw gyda gorffwys yn well na dau lond llaw o ganlyniad i orweithio. Ydy, mae fel ceisio rheoli’r gwynt!” (Pregethwr 4:6) Gelwir cwsg yn “fwyd i’r ymennydd,” ond nid yw’r rhan fwyaf o bobl ifanc yn cael yr wyth i ddeg awr y noson o gwsg maen nhw eu hangen.
“Oedd fy rhaglen yn gallu bod braidd yn wallgof, a phryd hynny do’n i ddim yn cael digon o gwsg. Ond weithiau mae awr ychwanegol o gwsg jest y peth sydd ei angen arna’ i er mwyn gweithio’n galetach a bod yn hapus y diwrnod wedyn.”—Brooklyn.
Trefnu pethau. Dywed y Beibl: “Mae llwyddiant yn dod o gynllunio gofalus a gwaith caled.” (Diarhebion 21:5) Mae dysgu sut i reoli dy amser a dy weithgareddau yn un o’r sgiliau sydd am dy helpu di drwy gydol dy fywyd.
“Weithiau, ni sy’n dod â straen arnon ni ein hunain. Cawn osgoi hyn drwy ddefnyddio dyddiadur. Pan fydd hwnnw o’n blaenau, mae’n haws i weld lle i addasu ein rhaglen er mwyn osgoi gorflino.”—Vanessa.