CWESTIYNAU POBL IFANC
Sut Galla’ i Reoli Fy Amser?
Pam mae rheoli dy amser yn werth ei wneud?
-
Mae amser yn debyg i arian. Os wyt ti’n ei wastraffu, ni fydd ar gael pan fydd arnat ti ei angen. Ar y llaw arall, os wyt ti’n trefnu dy amser, bydd gen ti amser sbâr ar gyfer y pethau rwyt ti’n eu mwynhau!
Egwyddor o’r Beibl: “Mae’r person diog eisiau pethau, ond yn cael dim; ond bydd y person gweithgar yn cael popeth mae e eisiau.”—Diarhebion 13:4.
Y gwir yw: O reoli dy amser, cei di fwy o ryddid, nid llai.
-
Mae rheoli amser yn sgìl gwerthfawr a fydd yn help mawr iti fel oedolyn. Gall wneud y gwahaniaeth rhwng cadw swydd a’i cholli. Wedi’r cyfan, petaset ti’n rhedeg busnes, a fyddet ti’n cyflogi rhywun a oedd yn cyrraedd yn hwyr trwy’r amser?
Egwyddor o’r Beibl: “Os gellir eich trystio chi gyda phethau bach, gellir eich trystio chi gyda phethau mawr.”—Luc 16:10.
Y gwir yw: Mae’r gallu i reoli amser yn dweud rhywbeth am dy gymeriad.
Ond rhaid cyfaddef, nid yw rheoli amser yn beth hawdd. Ystyria rai o’r rhwystrau.
Rhwystr #1: Ffrindiau
“Os bydd ffrindiau’n gofyn imi fynd allan, dw i’n tueddu i fynd, hyd yn oed os nad oes amser gen i mewn gwirionedd. Bydda i’n meddwl, ‘O, galla’ i ddal i fyny’n sydyn pan ddo’ i adref.’ Ond weithiau dw i’n methu, ac mae pethau wedi mynd o chwith wedyn.”—Cynthia.
Rhwystr #2: Pethau sy’n tynnu dy sylw
“Mae’r teledu yn debyg i hwfer. Mae’r holl raglenni a ffilmiau yn dy sugno i mewn—mae’n anodd gwrthsefyll.”—Ivy.
“Dw i’n gallu gwastraffu oriau ar y dabled. Weithiau yr unig beth sy’n fy stopio yw pan fo’r batri’n marw, ac dw i’n teimlo’n euog wedyn.”—Marie.
Rhwystr #3: Gohirio
“Dw i’n gohirio gwneud fy ngwaith cartref ac unrhyw beth arall dw i angen ei wneud. Bydda i’n gwastraffu amser yn gwneud pethau dibwys nes bod hi’n ben set arna i—dim y ffordd orau i reoli fy amser.”—Beth.
Beth elli di ei wneud?
-
Rhestra’r pethau rwyt ti’n gorfod eu gwneud. Bydd hyn yn cynnwys dy waith cartref a’r gwaith rwyt ti’n ei wneud i helpu yn y tŷ. Noda faint o amser sydd ei angen i gwblhau pob tasg mewn wythnos arferol.
Egwyddor o’r Beibl: “Dw i eisiau i chi ddewis y peth gorau i’w wneud bob amser.”—Philipiaid 1:10.
-
Rhestra’r pethau rwyt ti’n hoffi eu gwneud yn dy amser sbâr. Efallai bydd hyn yn cynnwys rhwydweithio cymdeithasol a gwylio’r teledu. Eto, noda faint o oriau rwyt ti’n eu treulio yn gwneud y pethau hyn mewn wythnos arferol.
Egwyddor o’r Beibl: “Byddwch yn ddoeth. . . . Manteisiwch ar bob cyfle gewch chi.”—Colosiaid 4:5.
-
Gwna gynllun. Edrych ar y ddwy restr. A wyt ti’n rhoi digon o amser i’r pethau pwysig? Oes angen defnyddio llai o amser ar weithgareddau hamdden?
Awgrym: Gwna restr o bethau i’w gwneud a rhoi tic yn erbyn pob tasg rwyt ti’n ei orffen.
Egwyddor o’r Beibl: “Mae llwyddiant yn dod o gynllunio gofalus a gwaith caled.”—Diarhebion 21:5.
-
Cadw at y cynllun. Efallai bydd angen iti wrthod ambell i wahoddiad bob hyn a hyn er mwyn gwneud y pethau pwysig. Ond ar y cyfan, bydd mwy o amser sbâr gen ti, a byddi di’n ei fwynhau yn well.
Egwyddor o’r Beibl: “Mae’r person diog eisiau pethau, ond yn cael dim; ond bydd y person gweithgar yn cael popeth mae e eisiau.”—Diarhebion 13:4.
-
Gwobrwya dy hun–ond nid yn rhy fuan. Dywed merch ifanc o’r enw Tara: “Weithiau mi fydda’ i’n gwneud dau beth ar y rhestr, ac yna’n meddwl, ‘Iawn, mi alla’ i wylio’r teledu rŵan am chwarter awr a gwneud y pethau eraill wedyn.’ Ond mae’r chwarter awr yn troi’n hanner awr, ac yna’n awr, a chyn imi sylweddoli, dw i wedi gwastraffu dwy awr yn gwylio’r teledu!”
Beth yw’r ateb? Edrych ar adloniant fel gwobr ar ôl iti orffen y tasgau, nid fel rhan anhepgor o’r diwrnod.
Egwyddor o’r Beibl: “Y peth gorau all rhywun ei wneud ydy . . . mwynhau ei waith.”—Pregethwr 2:24.