Beth Mae’n ei Olygu i Fod yn Ysbrydol? Ac Ydy Hynny yr Un Fath â Bod yn Grefyddol?
Ateb y Beibl
Yn y Beibl, mae bod yn ysbrydol yn cyfeirio at awydd cryf i blesio Duw ac i ddysgu sut mae ef yn meddwl. Mae rhywun ysbrydol yn gwneud ei orau i fyw ei fywyd yn unol â safonau Jehofa ac i ddilyn arweiniad yr ysbryd glân. a—Rhufeiniaid 8:5; Effesiaid 5:1.
Mae’r Beibl yn aml yn esbonio sut fath o berson ydy rhywun ysbrydol drwy ei gymharu â rhywun sydd ddim yn ysbrydol. Er enghraifft, yn wahanol i rywun ysbrydol, “dydy dyn corfforol ddim yn derbyn y pethau sy’n ymwneud ag ysbryd Duw,” neu ddysgeidiaethau Duw. (1 Corinthiaid 2:14-16) Ac yn wahanol i bobl ysbrydol, mae pobl sydd ond yn meddwl amdanyn nhw eu hunain yn dueddol o fod yn genfigennus a chweryla yn hytrach na bod yn hael ac y heddychlon. (1 Corinthiaid 3:1-3) Ac mae’r rhai sy’n sarhau ac yn chwalu ffrindiau yn cael eu galw’n ‘ddynion anifeilaidd, heb fod ganddyn nhw ysbryd Duw.’—Jwdas 19; Diarhebion 16:28. b
Yn yr erthygl hon
Pam mae gynnon ni angen ysbrydol?
Mae’r gallu gynnon ni i fod yn bobl ysbrydol am fod Duw wedi ein creu ni ar ei ddelw. (Genesis 1:27) Felly, does dim syndod fod cymaint o bobl yn gwerthfawrogi pethau na allan nhw eu gweld na’u cyffwrdd, ac eisiau dysgu amdanyn nhw.
Mae’n naturiol inni ddangos rhinweddau tebyg i rai Jehofa c Dduw, fel heddwch a thrugaredd. (Iago 3:17) Ar ben hynny, mae Duw yn rhoi ei ysbryd glân i’r rhai sy’n trio dilyn ei orchmynion.—Actau 5:32.
Pam mae hi’n bwysig i fod yn ysbrydol?
Mae bod yn ysbrydol yn arwain at “fywyd a heddwch” sydd yn anrhegion hynod o werthfawr oddi wrth Dduw.—Rhufeiniaid 8:6.
Bywyd: Mae Duw yn addo y bydd pobl ysbrydol yn byw am byth.—Ioan 17:3; Galatiaid 6:8.
Heddwch: Mae’r rhai sydd ond yn canolbwyntio ar eu hanghenion corfforol yn elynion i Dduw. Ond ar y llaw arall, mae pobl sy’n trio bod yn fwy ysbrydol yn cael heddwch â Duw. Mae Duw yn bendithio’r agwedd honno gyda’i heddwch “sydd y tu hwnt i bob deall,” hynny ydy, heddwch mewnol sy’n arwain at hapusrwydd mewn bywyd.—Philipiaid 4:6, 7; Mathew 5:3; Rhufeiniaid 8:7.
Sut galla i fod yn berson ysbrydol?
Dysgwch am orchmynion Duw a’u dilyn. Gallwch chi wneud hyn drwy ddarllen y Beibl. Defnyddiodd Duw ei ysbryd glân i gymell dynion i gofnodi ei feddyliau yn y llyfr hwnnw. (2 Pedr 1:21) Bydd yr hyn rydych chi’n ei ddysgu yn eich helpu chi i addoli Duw mewn ffordd sy’n ei blesio wrth ichi gael eich arwain gan yr ysbryd glân.—Ioan 4:24.
Gweddïwch am help Duw. (Luc 11:13) Bydd Duw yn eich helpu i ddangos rhinweddau sy’n gyffredin mewn pobl ysbrydol, ac yn rhoi’r doethineb ichi allu delio â phroblemau bywyd.—Galatiaid 5:22, 23; Iago 1:5.
Cymdeithaswch â phobl ysbrydol. Byddan nhw’n eich annog chi i fod yn berson ysbrydol. (Rhufeiniaid 1:11, 12) Ar y llaw arall, gall treulio amser â phobl sydd ddim yn meddwl fel Duw eich gwanhau chi yn ysbrydol.—Iago 4:4.
Ydw i angen crefydd i fod yn ysbrydol?
Dydy rhywun crefyddol ddim o reidrwydd yn berson ysbrydol. Mae’r Beibl yn dweud: “Os ydy rhywun yn meddwl ei fod yn grefyddol ond dydy ef ddim yn ffrwyno ei dafod, mae’n twyllo ei galon ei hun, ac mae ei addoliad yn ofer.”—Iago 1:26, troednodyn.
Er hynny, mae’r Beibl yn dangos fod pobl ysbrydol yn addoli Duw mewn ffordd sy’n ei blesio. Maen nhw’n cydnabod mai dim ond “un ysbryd”—ysbryd glân Duw—sy’n eu cymell nhw i addoli Duw fel “un corff.” Maen nhw’n ‘cadw undod yr ysbryd drwy’r heddwch sy’n ein clymu ni wrth ein gilydd.’—Effesiaid 4:1-4.
Camsyniadau am fod yn ysbrydol
Camsyniad: Mae bod yn berson ysbrydol yn cynnwys unrhyw ffordd o fyw sy’n helpu rhywun i deimlo’n fodlon, neu i gyrraedd ei botensial.
Ffaith: Dydy’r Beibl ddim yn annog pobl i geisio bod yn berson da heb Dduw. Mae’n dweud bod rhaid i rywun fyw mewn ffordd sy’n plesio Duw er mwyn bod yn berson ysbrydol. Drwy fyw yn ôl ewyllys Duw, a chydnabod Jehofa fel eu creawdwr, mae pobl ysbrydol yn teimlo’n hapus ac yn fodlon.—Salm 100:3.
Camsyniad: Gall rhywun fod yn berson ysbrydol drwy wadu ei hun i’r eithaf, neu drwy achosi poen iddo’i hun.
Ffaith: Mae rhywun sy’n cam-drin ei gorff yn meddwl mewn ffordd gorfforol, ac yn “dewis addoli yn eu ffordd nhw eu hunain.” (Colosiaid 2:18, 23) Mae’r Beibl yn cysylltu bod yn ysbrydol â llawenydd, nid poen.—Diarhebion 10:22, Cyfieithiad y Byd Newydd.
Camsyniad: Gall unrhyw gysylltiad â byd yr ysbrydion, gan gynnwys ysbrydegaeth a chwarae gyda’r ocwlt, helpu rhywun i fod yn berson ysbrydol.
Ffaith: Ysbrydegaeth ydy’r gred bod ysbrydion y meirw yn gallu cyfathrebu â’r byw. Ond mae’r Beibl yn dysgu bod y meirw yn anymwybodol, ac yn gwybod dim. (Pregethwr 9:5) Mewn gwirionedd, mae rhywun sy’n ymarfer ysbrydegaeth yn cyfathrebu ag ysbrydion sy’n elynion i Dduw. Mae ysbrydegaeth yn gwylltio Duw ac yn stopio rhywun rhag bod yn berson ysbrydol.—Lefiticus 20:6; Deuteronomium 18:11, 12.
Camsyniad: Gall pob creadur byw fod yn ysbrydol.
Ffaith: Mae popeth mae Duw wedi ei greu yn dod â chlod iddo. (Salm 145:10; Rhufeiniaid 1:20) Ond, yn wahanol i bobl, dydy anifeiliaid ddim yn gallu rhesymu, felly dydyn nhw ddim yn gallu dod yn ffrind i Dduw. Maen nhw’n gweithredu wrth reddf, ac yn cael eu cymell gan eu hanghenion corfforol. (2 Pedr 2:12) Yn ôl y Beibl, mae meddwl ac ymddwyn mewn ffordd anifeilaidd yn gwbl groes i fod yn berson ysbrydol.—Iago 3:15; Jwdas 19.
a Yn ieithoedd gwreiddiol y Beibl, mae’r geiriau am “ysbryd” yn golygu “anadl.” Ond maen nhw hefyd yn cyfeirio at yr hyn sy’n anweledig ac sy’n rhoi tystiolaeth o rym sy’n symud. Mae’r Beibl yn disgrifio Duw fel yr Ysbryd Goruchaf. Mae rhywun ysbrydol yn dewis dilyn arweiniad Duw a’i ysbryd glân.
b Pan mae’r Beibl yn sôn am rywun “corfforol,” mae’n golygu ei fod yn gwneud penderfyniadau ac yn gweithredu ar sail ei anghenion corfforol yn bennaf heb dalu llawer, os nad dim, sylw i safonau Duw.
c Mae’r Beibl yn dangos mai Jehofa yw enw Duw.—Salm 83:18, Beibl Cysegr-lân.