Barnwyr 11:1-40

  • Y Barnwr Jefftha yn cael ei yrru i ffwrdd, yna’n dod yn bennaeth (1-11)

  • Jefftha yn rhesymu ag Ammon (12-28)

  • Llw Jefftha a’i ferch (29-40)

    • Bywyd sengl ei ferch (38-40)

11  Nawr roedd Jefftha o Gilead yn filwr dewr; roedd yn fab putain, a Gilead oedd tad Jefftha. 2  Ond cafodd gwraig Gilead feibion hefyd. Unwaith i feibion ei wraig dyfu i fyny, gwnaethon nhw yrru Jefftha allan a dweud wrtho: “Fyddi di ddim yn cael etifeddiaeth yn nhŷ ein tad oherwydd rwyt ti’n fab i ddynes* arall.” 3  Felly gwnaeth Jefftha ffoi oddi wrth ei frodyr a setlo yng ngwlad Tob. Ac aeth dynion a oedd heb waith gyda Jefftha, a’i ddilyn. 4  Ymhen amser, brwydrodd yr Ammoniaid yn erbyn Israel. 5  A phan frwydrodd yr Ammoniaid yn erbyn Israel, aeth henuriaid Gilead at Jefftha yn syth i ddod ag ef yn ôl o wlad Tob. 6  Dywedon nhw wrth Jefftha: “Tyrd i’n harwain ni er mwyn inni allu brwydro yn erbyn yr Ammoniaid.” 7  Ond dywedodd Jefftha wrth henuriaid Gilead: “Onid oeddech chi’n fy nghasáu i gymaint nes ichi fy ngyrru i allan o dŷ fy nhad? Pam rydych chi wedi dod ata i nawr pan ydych chi mewn helynt?” 8  Atebodd henuriaid Gilead: “Dyna pam rydyn ni wedi dod yn ôl atat ti nawr. Os byddi di’n mynd gyda ni i frwydro yn erbyn yr Ammoniaid, byddi di’n dod yn bennaeth ar Gilead i gyd.” 9  Felly dywedodd Jefftha wrth henuriaid Gilead: “Os ydych chi’n dod â fi yn ôl i frwydro yn erbyn yr Ammoniaid, ac os ydy Jehofa yn eu trechu nhw drosto i, yna yn sicr, gwna i eich arwain chi!” 10  Felly dywedodd henuriaid Gilead wrth Jefftha: “Gad i Jehofa fod yn dyst* rhyngon ni os nad ydyn ni’n gwneud fel rwyt ti’n dweud.” 11  Felly aeth Jefftha gyda henuriaid Gilead, a gwnaeth y bobl ei benodi yn bennaeth arnyn nhw ac yn arweinydd ar y fyddin. A dyma Jefftha yn ailadrodd ei holl eiriau o flaen Jehofa ym Mispa. 12  Yna anfonodd Jefftha negeswyr at frenin yr Ammoniaid gan ddweud: “Beth sydd gen ti yn fy erbyn* i wneud iti ddod i ymosod ar fy ngwlad?” 13  Felly dywedodd brenin yr Ammoniaid wrth negeswyr Jefftha: “Rydw i wedi dod i frwydro yn dy erbyn di am fod Israel wedi cymryd fy ngwlad pan ddaethon nhw allan o’r Aifft, o Arnon i Jaboc, mor bell â’r Iorddonen. Nawr, rho’r wlad yn ôl imi ac yna bydd ’na heddwch.” 14  Ond anfonodd Jefftha negeswyr yn ôl at frenin yr Ammoniaid 15  i ddweud wrtho: “Dyma mae Jefftha yn ei ddweud: ‘Wnaeth Israel ddim cymryd gwlad y Moabiaid na gwlad yr Ammoniaid, 16  oherwydd pan ddaethon nhw allan o’r Aifft, cerddodd Israel drwy’r anialwch mor bell â’r Môr Coch, a daethon nhw at Cades. 17  Yna anfonodd Israel negeswyr at frenin Edom yn dweud: “Plîs gad inni groesi dy dir,” ond wnaeth brenin Edom ddim gwrando. Hefyd, anfonon nhw neges at frenin Moab, ond wnaeth ef ddim rhoi caniatâd iddyn nhw. Felly arhosodd Israel yn Cades. 18  Pan gerddon nhw drwy’r anialwch, gwnaethon nhw osgoi gwlad Edom a gwlad Moab. Gwnaethon nhw deithio i’r dwyrain o wlad Moab a gwersylla yn ardal afon Arnon; wnaethon nhw ddim dod o fewn ffiniau Moab, oherwydd afon Arnon oedd ffin Moab. 19  “‘Ar ôl hynny anfonodd Israel negeswyr at Sihon brenin yr Amoriaid oedd yn rheoli yn Hesbon, a dywedodd Israel wrtho: “Plîs gad inni groesi dy dir er mwyn inni fynd i’n lle ni’n hunain.” 20  Ond doedd Sihon ddim yn trystio Israel i fynd drwy ei diriogaeth, felly casglodd Sihon ei holl bobl at ei gilydd a gwersylla yn Jahas a brwydro yn erbyn Israel. 21  Gyda hynny dyma Jehofa, Duw Israel, yn rhoi Sihon a’i holl bobl yn nwylo’r Israeliaid, felly gwnaeth Israel eu trechu nhw a meddiannu holl dir yr Amoriaid oedd yn byw yn yr ardal honno. 22  Felly gwnaethon nhw feddiannu holl diriogaeth yr Amoriaid o afon Arnon i afon Jaboc, ac o’r anialwch i’r Iorddonen. 23  “‘Jehofa, Duw Israel, wnaeth yrru’r Amoriaid allan o flaen ei bobl Israel, ac a wyt ti nawr am eu gyrru nhw allan? 24  Onid wyt ti’n meddiannu beth bynnag mae dy dduw Cemos yn ei roi iti? Felly hefyd rydyn ni’n meddiannu tir pwy bynnag mae Jehofa ein Duw yn ei yrru allan o’n blaenau ni. 25  Nawr, a wyt ti’n well na Balac fab Sippor, brenin Moab? A wnaeth ef erioed gystadlu ag Israel, neu a wnaeth ef erioed frwydro yn eu herbyn nhw? 26  Tra oedd Israel yn byw yn Hesbon a’i threfi cyfagos, ac yn Aroer a’i threfi cyfagos, ac yn yr holl ddinasoedd sydd ar lannau afon Arnon am 300 o flynyddoedd, pam na wnest ti geisio eu cymryd nhw yn ôl yn ystod y cyfnod hwnnw? 27  Dydw i ddim wedi pechu yn dy erbyn di, ond rwyt ti’n ymosod arna i, a dydy hynny ddim yn iawn. Gad i Jehofa y Barnwr farnu heddiw rhwng pobl Israel a phobl Ammon.’” 28  Ond gwrthododd brenin yr Ammoniaid wrando ar y neges anfonodd Jefftha ato. 29  Daeth ysbryd Jehofa ar Jefftha ac aeth drwy Gilead a Manasse i Mispe yn Gilead, ac o Mispe yn Gilead aeth yn ei flaen at yr Ammoniaid. 30  Yna, gwnaeth Jefftha addo ar lw i Jehofa: “Os gwnei di roi’r Ammoniaid yn fy llaw, 31  yna bydda i’n rhoi i Jehofa bwy bynnag sy’n dod allan o ddrws fy nhŷ i fy nghyfarfod i pan ydw i’n dod yn ôl mewn heddwch o’r rhyfel yn erbyn yr Ammoniaid, a bydda i’n ei gynnig fel offrwm llosg.” 32  Felly, aeth Jefftha i frwydro yn erbyn yr Ammoniaid, a gwnaeth Jehofa eu rhoi nhw yn ei law. 33  Tarodd nhw i lawr o Aroer yr holl ffordd i Minith, mor bell ag Abel-ceramim. Gwnaeth ef ladd nifer enfawr ohonyn nhw. Concrodd Jefftha 20 dinas. Felly gwnaeth yr Israeliaid drechu’r Ammoniaid. 34  O’r diwedd, daeth Jefftha yn ôl i’w gartref ym Mispa ac edrycha! roedd ei ferch yn dod allan i’w gyfarfod yn chwarae’r tambwrîn ac yn dawnsio! Nawr hi oedd ei unig blentyn, ar wahân iddi hi doedd ganddo ddim mab na merch. 35  Pan welodd hi, rhwygodd ei ddillad a dweud: “O na, fy merch! Rwyt ti wedi torri fy nghalon,* oherwydd bydd rhaid imi dy anfon di i ffwrdd. Rydw i wedi gwneud addewid* i Jehofa, ac alla i ddim mynd yn ôl ar fy ngair.” 36  Ond dywedodd hi wrtho: “Dad, os wyt ti wedi gwneud addewid i Jehofa, gwna i mi fel rwyt ti wedi addo, oherwydd mae Jehofa wedi dy helpu di i ddial ar dy elynion, yr Ammoniaid.” 37  Yna dywedodd hi wrth ei thad: “Ga i ofyn rhywbeth gen ti? Gad imi fod ar fy mhen fy hun am ddeufis, a mynd i ffwrdd i’r mynyddoedd i wylo gyda’r merched* sy’n ffrindiau imi, oherwydd fydda i ddim yn priodi.” 38  Gyda hynny, dywedodd: “Dos di!” Felly anfonodd hi i ffwrdd am ddeufis, ac aeth hi i’r mynyddoedd gyda’i ffrindiau i wylo dros y ffaith na fyddai hi’n priodi. 39  Ar ddiwedd y ddau fis, aeth hi yn ôl at ei thad. Wedyn gwnaeth ef gadw at ei addewid ynglŷn â hi. Wnaeth hi erioed gysgu gyda dyn. A daeth hyn yn arfer* yn Israel: 40  Am bedwar diwrnod bob blwyddyn, byddai merched* ifanc Israel yn mynd at ferch Jefftha o Gilead i’w chanmol hi.

Troednodiadau

Neu “i fenyw.”
Llyth., “yr un sy’n clywed.”
Llyth., “Beth i fi ac i ti?”
Llyth., “Rwyt ti wedi fy ngwneud i’n isel iawn.”
Llyth., “Rydw i wedi agor fy ngheg.”
Neu “menywod.”
Neu “yn ddefod.”
Neu “menywod.”