At y Colosiaid 2:1-23
2 Oherwydd rydw i eisiau i chi sylweddoli cymaint rydw i’n ceisio eich helpu chi a’r rhai yn Laodicea a phawb sydd heb fy ngweld i’n bersonol.
2 Mae hyn er mwyn i’w calonnau nhw gael eu cysuro, ac er mwyn iddyn nhw fod yn gwbl unedig mewn cariad, ac er mwyn iddyn nhw gael yr holl gyfoeth sy’n dod o’u dealltwriaeth glir a sicr, ac er mwyn iddyn nhw gael gwybodaeth gywir am gyfrinach gysegredig Duw, sef Crist.
3 Ynddo ef mae holl drysorau doethineb a gwybodaeth wedi eu cuddio’n ofalus.
4 Rydw i’n dweud hyn fel na fydd neb yn eich twyllo chi â dadleuon perswadiol.
5 Er fy mod i’n absennol yn y cnawd, rydw i gyda chi yn yr ysbryd, yn llawenhau wrth weld pa mor drefnus ydych chi a pha mor gadarn ydy eich ffydd yng Nghrist.
6 Felly, yn union fel rydych chi wedi derbyn Crist Iesu yr Arglwydd, parhewch i gerdded mewn undod ag ef,
7 i gael eich gwreiddio a’ch adeiladu ynddo ef ac i gael eich sefydlogi yn y ffydd, yn union fel y cawsoch chi’ch dysgu, ac i orlifo â diolchgarwch.
8 Gwyliwch nad oes neb yn eich cipio chi i gaethiwed drwy athroniaeth a thwyll gwag yn ôl traddodiad dynol, yn ôl pethau sylfaenol y byd ac nid yn ôl Crist;
9 oherwydd ynddo ef mae rhinweddau Duw i’w gweld yn llawn.
10 Felly dydych chi ddim yn brin o unrhyw beth drwy gyfrwng ef, yr un sy’n ben ar bob llywodraeth ac awdurdod.
11 Trwy eich perthynas ag ef, rydych chi wedi cael eich enwaedu, nid â dwylo dynol ond drwy gael gwared ar y corff pechadurus, oherwydd dyna’r enwaediad sy’n perthyn i’r Crist.
12 Oherwydd cawsoch chi eich claddu ag ef trwy gael eich bedyddio yn yr un ffordd ag ef, a thrwy eich perthynas ag ef y cawsoch chi eich atgyfodi gydag ef trwy eich ffydd yng ngwaith grymus Duw, yr un a wnaeth ei atgyfodi ef o’r meirw.
13 Ar ben hynny, er ichi fod yn farw yn eich pechodau a heb eich enwaedu yn y cnawd, fe wnaeth Duw chi yn fyw gydag ef. Yn garedig iawn, fe wnaeth ef faddau inni ein holl bechodau
14 a rhwbio allan y deddfau ysgrifenedig a oedd yn ein herbyn ni. Cymerodd ef y ddogfen ysgrifenedig honno allan o’r ffordd drwy ei hoelio hi ar y stanc dienyddio.*
15 Oherwydd hyn,* fe wnaeth ef ddinoethi’r llywodraethau a’r awdurdodau a’u gwneud nhw’n sioe o flaen y cyhoedd fel rhai wedi eu gorchfygu, gan eu harwain nhw mewn prosesiwn o fuddugoliaeth.
16 Felly, peidiwch â gadael i neb eich barnu chi ynglŷn â’r hyn rydych chi’n ei fwyta ac yn ei yfed neu ynglŷn â chadw gŵyl flynyddol neu ŵyl y lleuad newydd neu saboth.
17 Mae’r pethau hynny yn gysgod o’r pethau sy’n dod, ond mae’r realiti yn perthyn i’r Crist.
18 Peidiwch â gadael i’r wobr gael ei dwyn oddi arnoch chi gan ddyn sy’n cael pleser mewn ffug ostyngeiddrwydd ac mewn addoli angylion,* “gan sefyll ar”* y pethau y mae wedi eu gweld. Mewn gwirionedd, mae wedi cael ei chwyddo gan falchder heb reswm da oherwydd ei ffordd gnawdol o feddwl,
19 ac nid yw’n dal ei afael yn dynn yn y pen, sy’n rhoi i’r corff cyfan bopeth mae’n ei angen ac sy’n ei ddal wrth ei gilydd yn unedig drwy gyfrwng y cymalau a’r gewynnau ac sy’n gwneud i’r corff dyfu â’r twf sy’n dod o Dduw.
20 Os buoch chi farw gyda Christ ynglŷn â phethau sylfaenol y byd, pam rydych chi’n byw fel petasech chi’n dal i fod yn rhan o’r byd drwy ymostwng i’r deddfau:
21 “Peidiwch â chyffwrdd, peidiwch â blasu, peidiwch â theimlo,”
22 sy’n cyfeirio at bethau sydd i gyd yn darfod wrth eu defnyddio, yn ôl gorchmynion a dysgeidiaethau dyn?
23 Mae’r pethau hynny’n ymddangos yn ddoeth. Ond mae’r rhai sy’n gwneud y pethau hynny yn dewis addoli yn eu ffordd nhw eu hunain. Maen nhw’n gwneud i’w cyrff ddioddef oherwydd eu bod nhw eisiau i bobl ddweud eu bod nhw’n ostyngedig. Ond wrth frwydro yn erbyn chwantau’r cnawd, mae’r pethau hynny’n dda i ddim.
Troednodiadau
^ Neu efallai, “ef.”
^ Neu “yn addoli fel y mae angylion yn gwneud.”
^ Dyfyniad o ddefodau derbyn cyfrin paganaidd.