At yr Hebreaid 7:1-28

  • Melchisedec, brenin ac offeiriad unigryw (1-10)

  • Rhagoriaeth offeiriadaeth Crist (11-28)

    • Crist yn gallu achub yn llwyr (25)

7  Oherwydd fe wnaeth y Melchisedec hwn, brenin Salem, offeiriad y Duw Goruchaf, gyfarfod ag Abraham wrth iddo ddod yn ôl o ladd y brenhinoedd ac fe wnaeth ei fendithio ef, 2  a rhoddodd Abraham iddo un rhan o ddeg* o’r cwbl. Yn gyntaf, o’i gyfieithu, ei enw ydy “Brenin Cyfiawnder,” ac yna hefyd brenin Salem, hynny yw, “Brenin Heddwch.” 3  Does ganddo ddim tad, ddim mam, ddim achau; does ganddo ddim dechrau dyddiau na diwedd bywyd. Yn hyn o beth, mae’n debyg i Fab Duw, ac mae’n aros yn offeiriad am byth. 4  Edrychwch mor fawr oedd y dyn hwn y gwnaeth Abraham, y penteulu,* roi iddo un rhan o ddeg o’r cyfoeth gorau a gafodd ei ennill ar ôl brwydr. 5  Yn wir, yn ôl y Gyfraith, mae’r rheini o blith meibion Lefi sy’n derbyn eu swydd fel offeiriaid wedi cael eu gorchymyn i gasglu’r degwm gan y bobl, hynny yw, gan eu brodyr, er mai disgynyddion Abraham ydy’r rhain. 6  Ond mae’r dyn hwn, dyn nad oedd o deulu Lefi, wedi cymryd y degwm gan Abraham ac wedi bendithio’r un a oedd â’r addewidion. 7  Nawr does dim dadl fod y lleiaf yn cael ei fendithio gan y mwyaf. 8  Y Lefiaid a dderbyniodd y degwm, dynion ydy’r rhain sy’n marw. Ond ynglŷn â’r dyn arall a dderbyniodd y degwm, mae’r ysgrythurau yn tystiolaethu ei fod ef yn fyw. 9  A gallai rhywun ddweud bod Lefi, sy’n derbyn y degwm, wedi talu’r degwm drwy Abraham, 10  oherwydd doedd Lefi heb gael ei eni eto o’i gyndad pan wnaeth Melchisedec gyfarfod ag ef. 11  Roedd yr offeiriadaeth o linach Lefi yn rhan o Gyfraith Moses a roddwyd i’r Israeliaid. Os oedd yr offeiriaid o linach Lefi yn gallu achosi i bobl fod yn berffaith, oes angen o hyd inni gael offeiriad fel Melchisedec? Onid ydy’n ddigon inni gael offeiriad fel Aaron? 12  Oherwydd, gan fod yr offeiriadaeth yn cael ei newid, mae’n rhaid newid y Gyfraith hefyd. 13  Oherwydd mae’r dyn sy’n cael ei ddisgrifio gan y pethau hyn wedi dod o lwyth arall, llwyth nad oes neb ohono wedi gwasanaethu wrth yr allor. 14  Oherwydd mae’n glir fod ein Harglwydd yn ddisgynnydd o lwyth Jwda, ond eto ddywedodd Moses ddim byd am offeiriaid yn dod o’r llwyth hwnnw. 15  Ac mae hyn yn dod hyd yn oed yn fwy clir pan fydd offeiriad arall sy’n debyg i Melchisedec yn codi, 16  un sy’n gwasanaethu fel offeiriad, nid oherwydd y llwyth y daeth ohono yn ôl gofynion y Gyfraith, ond oherwydd bod ganddo’r grym sy’n rhoi iddo fywyd na all gael ei ddinistrio. 17  Oherwydd mewn un ysgrythur mae’n dweud: “Rwyt ti’n offeiriad am byth yn yr un ffordd â Melchisedec.” 18  Felly, mae’r gorchymyn blaenorol yn cael ei roi o’r neilltu oherwydd ei fod yn wan ac yn aneffeithiol. 19  Oherwydd nid pwrpas y Gyfraith oedd cael gwared ar bechod yn llwyr, ond mae Duw wedi rhoi gobaith gwell inni, a thrwy’r gobaith hwnnw rydyn ni’n gallu agosáu ato. 20  Hefyd, ni chafodd hyn ei wneud heb i lw gael ei dyngu 21  (oherwydd, yn wir, mae ’na ddynion sydd wedi dod yn offeiriaid a dydy Duw ddim wedi tyngu llw ynglŷn â nhw, ond mae ’na ddyn y mae Duw wedi tyngu llw ynglŷn ag ef pan ddywedodd: “Mae Jehofa wedi tyngu llw, ac ni fydd yn newid ei feddwl,* ‘Rwyt ti’n offeiriad am byth’”), 22  felly, mae Iesu yn gwarantu cyfamod gwell. 23  Ar ben hynny, roedd rhaid i lawer o offeiriaid ddod, un ar ôl y llall, oherwydd bod marwolaeth yn eu rhwystro nhw rhag parhau i wasanaethu, 24  ond oherwydd ei fod ef yn parhau i fyw am byth, ni fydd neb yn dod yn offeiriad ar ei ôl. 25  Felly mae hefyd yn gallu achub yn llwyr y rhai sy’n mynd at Dduw drwyddo ef, oherwydd ei fod yn fyw drwy’r amser i ymbil drostyn nhw. 26  Oherwydd mae’n addas inni gael y fath archoffeiriad sy’n ffyddlon, yn ddiniwed, yn bur, wedi ei wahanu oddi wrth y pechaduriaid, ac wedi ei ddyrchafu uwchben y nefoedd. 27  Yn wahanol i’r archoffeiriaid hynny, does dim angen iddo offrymu aberthau bob dydd, yn gyntaf dros ei bechodau ei hun ac yna dros rai’r bobl, oherwydd ei fod wedi gwneud hyn unwaith ac am byth pan roddodd ei hun yn aberth. 28  Oherwydd mae’r Gyfraith yn penodi fel archoffeiriaid ddynion sydd â gwendidau, ond fe wnaeth y llw, a gafodd ei wneud ar ôl y Gyfraith, benodi Mab, sydd wedi cael ei wneud yn berffaith am byth.

Troednodiadau

Neu “ddegwm.”
Neu “y patriarch.”
Neu “ac ni fydd yn difaru.”