Yn Ôl Luc 12:1-59

  • Lefain y Phariseaid (1-3)

  • Ofni Duw, nid dynion (4-7)

  • Cydnabod undod â Christ (8-12)

  • Dameg y dyn cyfoethog ffôl (13-21)

  • Stopio bod yn bryderus (22-34)

    • Praidd bychan (32)

  • Bod yn wyliadwrus (35-40)

  • Y goruchwyliwr ffyddlon a goruchwyliwr anffyddlon (41-48)

  • Nid heddwch, ond rhaniadau (49-53)

  • Yr angen i ddehongli’r amseroedd (54-56)

  • Torri dadleuon (57-59)

12  Yn y cyfamser, pan oedd tyrfa o filoedd o bobl wedi dod at ei gilydd, cymaint ohonyn nhw nes iddyn nhw sathru ar draed ei gilydd, dechreuodd drwy ddweud hyn yn gyntaf wrth ei ddisgyblion: “Gwyliwch rhag lefain y Phariseaid, sy’n rhagrith. 2  Ond does dim byd sydd wedi ei guddio’n ofalus na fydd yn dod i’r golwg, a dim byd sy’n gyfrinach na fydd yn cael ei ddatgelu. 3  Felly, bydd beth bynnag rydych chi’n ei ddweud yn y tywyllwch yn cael ei glywed yn y goleuni, a bydd yr hyn rydych chi’n ei sibrwd mewn ystafelloedd preifat yn cael ei bregethu o bennau’r tai. 4  Ar ben hynny, rydw i’n dweud wrthoch chi, fy ffrindiau, peidiwch ag ofni’r rhai sy’n lladd y corff ac ar ôl hynny sydd ddim yn gallu gwneud dim mwy. 5  Ond bydda i’n dangos ichi pwy i’w ofni: Ofnwch yr Un sydd â’r awdurdod nid yn unig i ladd ond hefyd i’ch taflu chi i mewn i Gehenna.* Yn wir, rydw i’n dweud wrthoch chi, ofnwch yr Un yma. 6  Mae pump aderyn y to yn gwerthu am ddwy geiniog,* onid ydyn nhw? Ond eto, dydy Duw ddim yn anghofio’r* un ohonyn nhw. 7  Ond mae hyd yn oed pob un blewyn o wallt eich pennau wedi ei rifo. Peidiwch ag ofni; rydych chithau’n werth mwy na llawer o adar y to. 8  “Rydw i’n dweud wrthoch chi, pwy bynnag sy’n fy nghydnabod i gerbron dynion, bydd Mab y dyn hefyd yn ei gydnabod yntau gerbron angylion Duw. 9  Ond pwy bynnag sy’n fy ngwadu i gerbron dynion, bydd ef yn cael ei wadu gerbron angylion Duw. 10  A phob un sy’n dweud gair yn erbyn Mab y dyn, bydd hynny’n cael ei faddau iddo, ond pwy bynnag sy’n cablu yn erbyn yr ysbryd glân, ni fydd hynny’n cael ei faddau iddo. 11  Pan fyddan nhw’n dod â chi i mewn o flaen cyfarfodydd cyhoeddus,* swyddogion y llywodraeth, ac awdurdodau, peidiwch â phryderu am sut byddwch chi’n siarad mewn amddiffyniad nac am beth byddwch chi’n ei ddweud, 12  oherwydd bydd yr ysbryd glân yn eich dysgu chi yn yr union awr honno y pethau dylech chi eu dweud.” 13  Yna dywedodd rhywun yn y dyrfa wrtho: “Athro, dweud wrth fy mrawd am rannu’r etifeddiaeth â mi.” 14  Dywedodd ef wrtho: “Ddyn, pwy sydd wedi fy mhenodi i’n farnwr neu’n ganolwr rhyngoch chi’ch dau?” 15  Yna dywedodd wrthyn nhw: “Cadwch eich llygaid ar agor a gwyliwch rhag bod yn farus, oherwydd hyd yn oed os oes gan rywun ddigonedd, dydy’r pethau sydd ganddo ddim yn rhoi bywyd iddo.” 16  Ar hynny, dywedodd ddameg wrthyn nhw, gan ddweud: “Roedd tir dyn cyfoethog yn cynhyrchu cnwd da. 17  Felly dechreuodd ef resymu yn ei galon, ‘Beth ddylwn i ei wneud nawr oherwydd does gen i unlle i gasglu fy nghnydau?’ 18  Yna dywedodd, ‘Dyma beth wna i: Bydda i’n tynnu i lawr fy ysguboriau ac yn adeiladu rhai mwy, ac yno bydda i’n casglu fy holl wenith a fy holl eiddo, 19  a bydda i’n dweud wrtho i fy hun: “Mae gen ti lawer o bethau da i bara am lawer o flynyddoedd; ymlacia, bwyta, yfa, mwynha dy hun.”’ 20  Ond dywedodd Duw wrtho, ‘Y dyn gwirion, heno rwyt ti’n mynd i farw. Pwy felly sy’n mynd i gael y pethau wnest ti eu storio?’ 21  Felly y bydd hi ar y dyn sy’n casglu trysor iddo ef ei hun ond sydd ddim yn gyfoethog yng ngolwg Duw.” 22  Yna dywedodd wrth ei ddisgyblion: “Dyna pam rydw i’n dweud wrthoch chi, stopiwch fod yn bryderus am eich bywydau o ran beth rydych chi’n mynd i’w fwyta neu am eich cyrff a beth rydych chi’n mynd i’w wisgo. 23  Oherwydd mae bywyd yn werth mwy na bwyd a’r corff yn fwy na dillad. 24  Ystyriwch y cigfrain: Dydyn nhw ddim yn hau hadau nac yn medi; does ganddyn nhw ddim ysgubor na stordy; ac eto mae Duw yn eu bwydo nhw. Onid ydych chithau’n werth llawer iawn mwy nag adar? 25  Pa un ohonoch chi sy’n gallu ychwanegu munud* at ei fywyd drwy fod yn bryderus? 26  Os, felly, dydych chi ddim hyd yn oed yn gallu gwneud hynny, pam rydych chi’n pryderu am y pethau eraill? 27  Ystyriwch sut mae’r lili yn tyfu: Dydyn nhw ddim yn llafurio nac yn gwnïo dillad; ac eto rydw i’n dweud wrthoch chi nad oedd hyd yn oed Solomon yn ei holl ogoniant yn edrych mor hardd ag un o’r rhain. 28  Nawr os mai dyma sut mae Duw yn dilladu planhigion y maes sy’n bodoli heddiw ac yfory’n cael eu taflu i’r ffwrn, gymaint yn fwy bydd ef yn eich dilladu chi, chi o ychydig ffydd! 29  Felly stopiwch fod yn bryderus am beth rydych chi’n mynd i’w fwyta a beth rydych chi’n mynd i’w yfed, a stopiwch fod ar bigau’r drain; 30  oherwydd dyma’r pethau mae’r cenhedloedd i gyd yn eu ceisio’n frwd, ond mae eich Tad yn gwybod bod angen y pethau hyn arnoch chi. 31  Yn lle hynny, daliwch ati i geisio ei Deyrnas, a bydd y pethau hyn yn cael eu rhoi ichi. 32  “Peidiwch ag ofni, fy mhraidd bychan, oherwydd bod eich Tad yn hapus i roi’r Deyrnas ichi. 33  Gwerthwch eich eiddo a rhowch i’r tlawd.* Gwnewch fagiau arian sydd ddim yn gwisgo allan, sef trysor yn y nefoedd sy’n para am byth, lle nad ydy lleidr yn gallu dod yn agos a lle nad ydy gwyfyn yn difetha. 34  Oherwydd le bynnag mae eich trysor chi, yno bydd eich calonnau chi hefyd. 35  “Rhowch eich dillad amdanoch chi a byddwch yn barod a gwnewch yn siŵr fod eich lampau’n llosgi, 36  a dylech chi fod fel dynion sy’n disgwyl i’w meistr ddod yn ôl o’r briodas, felly pan fydd ef yn dod ac yn cnocio ar y drws, fe fyddan nhw’n gallu agor y drws iddo ar unwaith. 37  Hapus yw’r caethweision hynny sy’n gwylio pan ddaw’r meistr! Yn wir, rydw i’n dweud wrthoch chi, bydd ef yn gwisgo dillad ar gyfer gwasanaethu ac yn gwneud iddyn nhw gymryd eu lle wrth y bwrdd ac yn dod atyn nhw ac yn gweini arnyn nhw. 38  Ac os yw’n dod yn yr ail wylfa,* hyd yn oed yn y drydedd,* ac mae’n gweld eu bod nhw’n barod, hapus ydyn nhw! 39  Ond meddyliwch am hyn: Petai perchennog y tŷ wedi gwybod ar ba awr roedd y lleidr yn dod, ni fyddai wedi gadael i’r lleidr dorri i mewn i’w dŷ. 40  Chithau hefyd, arhoswch yn barod, oherwydd ar awr nad ydych chi’n ei disgwyl, mae Mab y dyn yn dod.” 41  Yna dywedodd Pedr: “Arglwydd, wyt ti’n dweud y ddameg hon wrthon ni yn unig neu wrth bawb hefyd?” 42  A dywedodd yr Arglwydd: “Pwy yn wir yw’r goruchwyliwr* ffyddlon, yr un call,* a benodwyd gan ei feistr i fod yn gyfrifol am holl weision y tŷ, i barhau i roi iddyn nhw ddigon o fwyd i gwrdd â’u hanghenion ar yr amser iawn? 43  Hapus yw’r caethwas hwnnw os yw ei feistr yn dod ac yn ei weld yn gwneud y gwaith hwn! 44  Yn wir, rydw i’n dweud wrthoch chi, bydd yn ei benodi i fod yn gyfrifol am ei holl eiddo. 45  Ond petai’r caethwas hwnnw’n dweud yn ei galon, ‘Mae fy meistr yn oedi,’ ac yn dechrau curo ei gyd-weision ac yn bwyta ac yn yfed ac yn meddwi, 46  bydd meistr y caethwas hwnnw yn dod ar ddiwrnod nad yw’n ei ddisgwyl ac ar awr nad yw’n ei gwybod, a bydd ef yn ei gosbi â’r gosb fwyaf llym ac yn ei osod gyda’r rhai anffyddlon. 47  Yna bydd y caethwas hwnnw, a oedd yn deall ewyllys ei feistr ond heb fod yn barod na gwneud beth roedd ef wedi ei ofyn,* yn cael ei guro â llawer o chwipiadau. 48  Ond bydd yr un nad oedd yn deall, ond eto a wnaeth bethau a oedd yn haeddu’r chwip, yn cael ei guro ychydig o weithiau. Yn wir, pob un sydd wedi derbyn llawer, bydd llawer yn cael ei ofyn ganddo, a’r un sy’n gyfrifol am lawer, bydd llawer iawn mwy yn cael ei ofyn ganddo. 49  “Fe ddes i i gynnau tân ar y ddaear, a pha beth arall sydd ’na imi ddymuno os ydy’r tân eisoes wedi ei gynnau? 50  Yn wir, mae gen i fath arall o fedydd y mae’n rhaid imi ei brofi, ac fe fydda i’n dal i ofidio hyd nes imi ei gyflawni! 51  Ydych chi’n meddwl fy mod i wedi dod i roi heddwch ar y ddaear? Nage, rydw i’n dweud wrthoch chi, yn hytrach wnes i ddod i achosi rhaniadau. 52  O hyn ymlaen fe fydd ’na raniadau yn y teulu. Os oes ’na bum person yn y tŷ, bydd tri yn erbyn dau a dau yn erbyn tri. 53  Fe fydd ’na raniadau, tad yn erbyn mab a mab yn erbyn tad, mam yn erbyn merch a merch yn erbyn mam, mam yng nghyfraith yn erbyn merch yng nghyfraith a merch yng nghyfraith yn erbyn mam yng nghyfraith.” 54  Yna dywedodd wrth y tyrfaoedd hefyd: “Pan ydych chi’n gweld cwmwl yn codi yn y gorllewin, rydych chi ar unwaith yn dweud, ‘Mae ’na storm yn dod,’ ac mae hynny’n digwydd. 55  A phan ydych chi’n gweld gwynt y de yn chwythu, rydych chi’n dweud, ‘Fe fydd hi’n ofnadwy o boeth,’ ac mae hynny’n digwydd. 56  Ragrithwyr, rydych chi’n gwybod sut i ddehongli golwg y ddaear a’r awyr, ond pam nad ydych chi’n gwybod sut i ddehongli’r amser penodol hwn? 57  Pam nad ydych chi hefyd yn barnu drostoch chi’ch hunain beth sy’n gyfiawn? 58  Er enghraifft, pan wyt ti’n mynd at reolwr gyda dy wrthwynebwr cyfreithiol, tra eich bod chi ar y ffordd, dos ati i dorri’r ddadl gydag ef fel nad yw’n gallu dy alw di o flaen y barnwr, a’r barnwr yn dy roi di i swyddog y llys, a swyddog y llys yn dy daflu di i’r carchar. 59  Rydw i’n dweud wrthot ti, fyddi di ddim ar unrhyw gyfri yn dod allan o fanna nes iti dalu dy geiniog olaf.”*

Troednodiadau

Gweler Geirfa.
Llyth., “am ddwy asarion.”
Neu “anwybyddu.”
Neu efallai, “o flaen synagogau.”
Neu “cufydd.”
Neu “rhowch roddion sy’n deillio o drugaredd.” Gweler Geirfa.
O tua 9:00 p.m. tan hanner nos.
O hanner nos tan tua 3:00 a.m.
Neu “rheolwr tŷ; stiward.”
Neu “un doeth.”
Neu “gwneud yn ôl ei ewyllys.”
Llyth., “y lepton olaf.”