Yn Ôl Luc 4:1-44
4 Yna aeth Iesu, yn llawn o’r ysbryd glân, i ffwrdd oddi wrth yr Iorddonen, ac fe gafodd ei arwain o un lle i’r llall gan yr ysbryd yn yr anialwch
2 am 40 diwrnod, yn cael ei demtio gan y Diafol. Ac ni wnaeth fwyta dim byd yn ystod y dyddiau hynny, felly pan oedden nhw wedi dod i ben, roedd yn teimlo’n llwglyd.
3 Gyda hynny, dywedodd y Diafol wrtho: “Os wyt ti’n fab i Dduw, dyweda wrth y garreg hon am droi’n dorth o fara.”
4 Ond atebodd Iesu ef: “Mae’n ysgrifenedig, ‘Nid ar fara yn unig y dylai dyn fyw.’”
5 Felly cymerodd y Diafol ef i fyny a dangos iddo mewn chwinciad holl deyrnasoedd y byd.
6 Yna dywedodd y Diafol wrtho: “Fe wna i roi i ti awdurdod dros yr holl deyrnasoedd hyn a’u gogoniant, oherwydd fe gafodd ei roi i mi, ac rydw i’n ei roi i bwy bynnag rydw i’n ei ddymuno.
7 Os gwnei di, felly, fy addoli i un waith, fe gei di’r cwbl.”
8 Atebodd Iesu drwy ddweud wrtho: “Mae’n ysgrifenedig, ‘Jehofa dy Dduw y dylet ti ei addoli, ac ef yn unig y dylet ti ei wasanaethu.’”
9 Yna arweiniodd y Diafol ef i mewn i Jerwsalem a’i osod ar ben wal uchaf* y deml a dweud wrtho: “Os wyt ti’n fab i Dduw, tafla dy hun i lawr oddi yma,
10 oherwydd mae’n ysgrifenedig, ‘Bydd yn rhoi gorchymyn i’w angylion amdanat ti, i dy warchod di,’
11 a, ‘Byddan nhw’n dy gario di yn eu dwylo, fel na fyddi di’n taro dy droed yn erbyn carreg.’”
12 Atebodd Iesu ef: “Mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud, ‘Paid â gosod Jehofa dy Dduw ar brawf.’”
13 Felly, ar ôl gorffen yr holl demtio, gadawodd y Diafol ef hyd nes i gyfle arall godi.
14 Nawr aeth Iesu yn nerth yr ysbryd yn ôl i mewn i Galilea. Ac aeth adroddion da amdano ar led drwy’r holl wlad o amgylch.
15 Hefyd, dechreuodd ddysgu yn eu synagogau, ac roedd pawb yn ei glodfori.
16 Yna fe aeth i Nasareth, lle roedd wedi cael ei fagu, ac yn ôl ei arfer ar ddydd y Saboth, aeth i mewn i’r synagog a safodd ar ei draed i ddarllen.
17 Felly cafodd sgrôl y proffwyd Eseia ei rhoi iddo, ac agorodd ef y sgrôl a dod o hyd i’r man lle roedd yn ysgrifenedig:
18 “Mae ysbryd Jehofa arna i, oherwydd fe wnaeth fy eneinio i gyhoeddi newyddion da i’r rhai tlawd. Fe wnaeth fy anfon i gyhoeddi i’r caethion y bydden nhw’n cael eu rhyddhau ac y byddai’r rhai dall yn cael eu golwg yn ôl, ac i roi rhyddid i’r rhai sydd wedi cael eu sathru,
19 i bregethu am flwyddyn ffafr Jehofa.”
20 Gyda hynny, fe gaeodd y sgrôl, ei rhoi hi yn ôl i’r swyddog, ac eistedd; ac roedd llygaid pawb yn y synagog yn syllu arno.
21 Yna dechreuodd ddweud wrthyn nhw: “Heddiw mae’r ysgrythur hon rydych chi newydd ei chlywed wedi cael ei chyflawni.”
22 A dechreuon nhw i gyd ddweud pethau da amdano a rhyfeddu at y geiriau apelgar a oedd yn dod allan o’i geg, ac roedden nhw’n dweud: “Onid mab Joseff ydy hwn?”
23 Ar hynny, dywedodd ef wrthyn nhw: “Mae’n siŵr y byddwch chi’n dweud bod yr ymadrodd hwn yn cyfeirio ata i, ‘Feddyg, iachâ dy hun. Rydyn ni wedi clywed beth sydd wedi digwydd yng Nghapernaum, felly gwna’r un pethau yma hefyd yn dy fro dy hun.’”
24 Felly dywedodd: “Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi nad ydy’r un proffwyd yn cael ei dderbyn yn ei fro ei hun.
25 Er enghraifft, credwch chi fi, roedd ’na lawer o wragedd gweddw yn Israel yn nyddiau Elias pan oedd y nef wedi ei chau am dair blynedd a chwe mis, a newyn mawr wedi dod ar yr holl wlad.
26 Ond ni chafodd Elias ei anfon at yr un o’r merched* hynny, dim ond at wraig weddw yn Sareffath yng ngwlad Sidon.
27 Hefyd, roedd ’na lawer o bobl wahanglwyfus yn Israel yn amser Eliseus y proffwyd; ond ni chafodd yr un ohonyn nhw ei iacháu, dim ond Naaman y Syriad.”
28 Nawr wrth glywed y pethau hyn, roedd pawb yn y synagog yn llawn dicter,
29 a dyma nhw’n codi a’i ruthro y tu allan i’r ddinas, a’i arwain i gopa’r mynydd roedd eu dinas wedi ei hadeiladu arno, er mwyn ei daflu o’r clogwyn.
30 Ond aeth ef drwy ganol y dyrfa a mynd ymlaen ar ei ffordd.
31 Yna aeth i lawr i Gapernaum, dinas yng Ngalilea. Ac roedd ef yn eu dysgu nhw ar y Saboth,
32 ac roedden nhw’n rhyfeddu at ei ffordd o ddysgu, oherwydd roedd ef yn siarad gydag awdurdod.
33 Nawr yn y synagog roedd ’na ddyn ag ysbryd ynddo, cythraul aflan, a gwaeddodd ef yn uchel:
34 “A! Beth rwyt ti eisiau gynnon ni, Iesu’r Nasaread? Wyt ti wedi dod i’n dinistrio ni? Rydw i’n gwybod yn union pwy wyt ti, Un Sanctaidd Duw.”
35 Ond gwnaeth Iesu ei geryddu, gan ddweud: “Bydda’n ddistaw, tyrd allan ohono.” Felly ar ôl taflu’r dyn i lawr yn eu plith, daeth y cythraul allan ohono heb ei frifo.
36 Ar hynny, roedden nhw i gyd yn syfrdan a dechreuon nhw ddweud wrth ei gilydd: “Sut mae’n gallu siarad fel hyn? Oherwydd mae’n gorchymyn yr ysbrydion aflan gydag awdurdod a grym, ac maen nhw’n dod allan!”
37 Felly aeth y newyddion amdano ar led i bob cornel o’r wlad oddi amgylch.
38 Ar ôl iddo adael y synagog, aeth i mewn i dŷ Simon. Nawr roedd mam yng nghyfraith Simon yn dioddef o dwymyn uchel, a dyma nhw’n gofyn iddo ei helpu hi.
39 Felly safodd ef drosti hi a cheryddu’r dwymyn, a diflannodd y dwymyn. Ar unwaith, cododd hi a dechrau gweini arnyn nhw.
40 Ond pan oedd yr haul yn machlud, dyma bawb a oedd â rhai sâl yn eu tai yn dod â nhw ato, pa bynnag afiechyd oedd ganddyn nhw. Drwy osod ei ddwylo ar bob un ohonyn nhw, gwnaeth ef eu hiacháu nhw.
41 Hefyd, daeth cythreuliaid allan o lawer o bobl, yn gweiddi ac yn dweud: “Ti yw Mab Duw.” Ond gwnaeth Iesu eu ceryddu nhw, a doedd ef ddim yn gadael iddyn nhw siarad, oherwydd roedden nhw’n gwybod mai’r Crist oedd ef.
42 Fodd bynnag, wrth iddi wawrio, gadawodd ef a mynd i le unig. Ond dechreuodd y tyrfaoedd chwilio amdano a daethon nhw o hyd iddo, a dyma nhw’n ceisio ei stopio rhag mynd i ffwrdd oddi wrthyn nhw.
43 Ond dywedodd ef wrthyn nhw: “Mae’n rhaid imi gyhoeddi’r newyddion da am Deyrnas Dduw i ddinasoedd eraill hefyd, oherwydd dyna pam ges i fy anfon gan Dduw.”
44 Felly parhaodd ef i bregethu yn synagogau Jwdea.