Yn Ôl Marc 1:1-45
-
Ioan Fedyddiwr yn pregethu (1-8)
-
Bedydd Iesu (9-11)
-
Iesu’n cael ei demtio gan Satan (12, 13)
-
Iesu’n dechrau pregethu yng Ngalilea (14, 15)
-
Y disgyblion cyntaf yn cael eu galw (16-20)
-
Bwrw allan ysbryd aflan (21-28)
-
Iesu’n iacháu llawer yng Nghapernaum (29-34)
-
Gweddïo mewn lle unig (35-39)
-
Iacháu gwahanglaf (40-45)
1 Dechrau’r newyddion da am Iesu Grist, Fab Duw:
2 Yn union fel mae’n ysgrifenedig yn y proffwyd Eseia: “(Edrycha! Rydw i’n anfon fy negesydd o dy flaen di, a bydd ef yn paratoi’r ffordd i ti.)
3 Llais un yn galw yn yr anialwch: ‘Paratowch ffordd Jehofa!* Gwnewch ei lwybrau’n syth.’”
4 Roedd Ioan Fedyddiwr yn yr anialwch, yn pregethu am fedydd sy’n symbol o edifeirwch am faddeuant pechodau.
5 Ac roedd pobl o holl diriogaeth Jwdea a holl drigolion Jerwsalem yn mynd allan ato, ac roedden nhw’n cael eu bedyddio* ganddo yn Afon Iorddonen, gan gyffesu eu pechodau’n agored.
6 Nawr roedd Ioan yn gwisgo dillad o flew camel a belt lledr am ei ganol, ac roedd yn bwyta locustiaid a mêl gwyllt.
7 Ac roedd yn pregethu: “Mae rhywun cryfach na mi yn dod ar fy ôl i, a dydw i ddim yn deilwng i blygu i lawr a datod carrai* ei sandalau.
8 Gwnes i eich bedyddio chi â dŵr, ond fe fydd ef yn eich bedyddio chi â’r ysbryd glân.”
9 Yn ystod y dyddiau hynny, daeth Iesu o Nasareth yng Ngalilea ac fe gafodd ei fedyddio yn yr Iorddonen gan Ioan.
10 Ac wrth iddo ddod i fyny allan o’r dŵr, ar unwaith fe welodd y nefoedd yn cael eu hagor ac, fel colomen, yr ysbryd yn dod i lawr arno.
11 A daeth llais allan o’r nefoedd: “Ti yw fy Mab annwyl; rwyt ti wedi fy mhlesio i’n fawr iawn.”
12 Ac ar unwaith dyma’r ysbryd yn ei gymell i fynd i mewn i’r anialwch.
13 Felly arhosodd yn yr anialwch am 40 diwrnod, yn cael ei demtio gan Satan. Roedd ’na hefyd anifeiliaid gwyllt yn yr anialwch, ond roedd yr angylion yn gweini arno.
14 Nawr ar ôl i Ioan gael ei arestio, aeth Iesu i mewn i Galilea, yn pregethu newyddion da Duw
15 ac yn dweud: “Mae’r amser penodedig wedi cael ei gyflawni, ac mae Teyrnas Dduw wedi dod yn agos. Edifarhewch, a rhowch ffydd yn y newyddion da.”
16 Wrth iddo gerdded ar lan Môr Galilea, fe welodd ef Simon a brawd Simon, Andreas, yn bwrw eu rhwydi i’r môr, oherwydd pysgotwyr oedden nhw.
17 Felly dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Dewch ar fy ôl i, a bydda i’n eich gwneud chi’n bysgotwyr dynion.”*
18 Ac ar unwaith dyma nhw’n gadael eu rhwydi a’i ddilyn.
19 Ar ôl mynd ychydig ymhellach, fe welodd ef Iago fab Sebedeus a’i frawd Ioan, tra oedden nhw yn eu cwch yn trwsio eu rhwydi,
20 a heb oedi dyma’n eu galw nhw. Felly fe wnaethon nhw adael eu tad Sebedeus yn y cwch gyda’i weithwyr ac fe aethon nhw i ffwrdd ar ei ôl.
21 Ac fe aethon nhw i mewn i Gapernaum.
Unwaith i’r Saboth ddechrau, aeth ef i mewn i’r synagog a dechrau dysgu.
22 Ac roedden nhw’n rhyfeddu at ei ffordd o ddysgu, oherwydd ei fod yn eu dysgu nhw fel rhywun ag awdurdod, ac nid fel yr ysgrifenyddion.
23 Yn fwyaf sydyn, dyma ddyn yn eu synagog a oedd o dan rym ysbryd aflan yn gweiddi:
24 “Beth rwyt ti eisiau gynnon ni, Iesu’r Nasaread? Wyt ti wedi dod i’n dinistrio ni? Rydw i’n gwybod yn union pwy wyt ti, Un Sanctaidd Duw!”
25 Ond gwnaeth Iesu ei geryddu, gan ddweud: “Bydda’n ddistaw, tyrd allan ohono!”
26 Ac ar ôl i’r ysbryd aflan weiddi nerth ei ben ac achosi i’r dyn gael ffit, fe ddaeth allan ohono.
27 Wel, roedd y bobl wedi synnu gymaint nes iddyn nhw ddechrau trafod y peth ymhlith ei gilydd, gan ddweud: “Beth ydy hyn? Dysgeidiaeth newydd! Mae’n gorchymyn yn awdurdodol hyd yn oed yr ysbrydion aflan, ac maen nhw’n ufudd iddo.”
28 Felly gwnaeth yr adroddiad amdano ledaenu’n gyflym i bob cyfeiriad trwy holl ardal Galilea.
29 Ar hynny, gadawon nhw’r synagog a mynd i gartref Simon ac Andreas gyda Iago ac Ioan.
30 Nawr roedd mam yng nghyfraith Simon yn gorwedd i lawr yn sâl oherwydd twymyn, a gwnaethon nhw sôn wrtho amdani hi yn syth.
31 Aeth Iesu ati hi, a chymryd ei llaw a’i chodi hi i fyny. Dyma’r dwymyn yn ei gadael hi, a dechreuodd hi weini arnyn nhw.
32 Ar ôl iddi nosi, pan oedd yr haul wedi machlud, dechreuodd y bobl ddod â phawb a oedd yn sâl ac a oedd a chythreuliaid ynddyn nhw ato;
33 ac roedd pobl yr holl ddinas wedi dod at ei gilydd wrth y drws.
34 Felly fe wnaeth iacháu llawer o bobl a oedd yn sâl oherwydd gwahanol afiechydon, a bwrw allan lawer o gythreuliaid, ond nid oedd yn gadael i’r cythreuliaid siarad, oherwydd eu bod nhw’n gwybod mai’r Crist oedd ef.*
35 Yn gynnar yn y bore, tra oedd hi’n dal yn dywyll, cododd Iesu a mynd allan i le unig, a dechreuodd weddïo yno.
36 Fodd bynnag, gwnaeth Simon a’r rhai oedd gydag ef chwilio’n daer amdano
37 a dod o hyd iddo, a dywedon nhw wrtho: “Mae pawb yn chwilio amdanat ti.”
38 Ond dywedodd ef wrthyn nhw: “Gadewch inni fynd i rywle arall, i mewn i’r trefi cyfagos, er mwyn imi bregethu yno hefyd, oherwydd dyma pam rydw i wedi dod.”
39 Ac fe aeth, yn pregethu yn eu synagogau drwy hyd a lled Galilea ac yn bwrw cythreuliaid allan.
40 Daeth dyn gwahanglwyfus ato hefyd, ac aeth y dyn ar ei liniau yn ymbil arno, gan ddweud wrtho: “Os wyt ti eisiau, gelli di fy ngwneud i’n lân.”
41 Ar hynny, teimlodd Iesu drueni drosto, ac estynnodd ei law a chyffwrdd â’r dyn, gan ddweud: “Rydw i eisiau! Bydda’n lân.”
42 Ar unwaith diflannodd y gwahanglwyf oddi arno, ac roedd y dyn yn lân.
43 Yna fe wnaeth ei rybuddio’n llym a’i anfon i ffwrdd ar unwaith,
44 gan ddweud wrtho: “Sicrha nad wyt ti’n dweud dim wrth neb, ond dos i ddangos dy hun i’r offeiriad ac offryma’r pethau y gwnaeth Moses eu gorchymyn er mwyn iti gael dy lanhau, fel tystiolaeth iddyn nhw.”
45 Ond ar ôl i’r dyn fynd i ffwrdd, dechreuodd gyhoeddi’r peth yn fawr iawn a lledaenu’r hanes yn eang, fel nad oedd Iesu’n gallu mynd i mewn i unrhyw ddinas bellach heb ddenu sylw, ond fe arhosodd y tu allan mewn llefydd unig. Ond eto roedden nhw’n dal i ddod ato o bob ochr.
Troednodiadau
^ Neu “trochi.”
^ Neu “lasyn.”
^ Neu “pobl.”
^ Neu efallai, “roedden nhw’n gwybod pwy oedd ef.”