At y Rhufeiniaid 3:1-31

  • “Bydd Duw yn cael ei brofi’n wir” (1-8)

  • Iddewon a Groegiaid yn euog o bechod (9-20)

  • Cyfiawnder drwy ffydd (21-31)

    • Pawb yn methu adlewyrchu gogoniant Duw (23)

3  Beth yw’r fantais o fod yn Iddew? Neu pa werth sydd ’na i enwaediad? 2  Mae ’na lawer o fanteision. Yn gyntaf oll, rhoddodd Duw ei neges gysegredig* yng ngofal yr Iddewon. 3  Ond beth petai rhai ohonyn nhw’n anffyddlon? Ydy eu diffyg ffydd yn golygu nad ydy Duw yn ffyddlon? 4  Ddim o gwbl! Hyd yn oed os ydy pob dyn yn cael ei brofi’n gelwyddog, bydd Duw yn cael ei brofi’n wir, yn union fel mae’r Ysgrythurau’n dweud: “Byddi di’n cael dy brofi’n gywir yn dy eiriau ac yn ennill pan fyddi di’n cael dy farnu.” 5  Mae ein hanghyfiawnder yn dangos yn fwy clir fod Duw yn gywir. Felly ydy Duw’n anghywir pan mae’n dangos ei ddicter? (Rydw i’n siarad fel mae rhai pobl yn meddwl.) 6  Nac ydy! Dydy Duw ddim yn anghywir! Fel arall, sut bydd Duw yn barnu’r byd? 7  Hefyd, os ydy fy nghelwydd yn dangos bod yr hyn mae Duw’n ei ddweud yn wir ac yn dod â mwy o ogoniant iddo, efallai bydd rhai yn gofyn, ‘Pam rydw i’n cael fy marnu fel pechadur?’ 8  A pham na ddylen ni ddweud, “Fe fyddwn ni’n gwneud pethau drwg er mwyn i bethau da ddigwydd”? Dyna beth mae rhai dynion yn honni’n anghywir ein bod ni’n ei ddweud. Bydd y dynion sy’n dweud y pethau hyn yn cael eu barnu yn unol â chyfiawnder. 9  Ydyn ni Iddewon mewn lle gwell na phobl eraill? Ddim o gwbl! Oherwydd rydyn ni wedi dangos yn barod bod Iddewon a Groegiaid i gyd yn euog o bechod. 10  Yn union fel mae’r Ysgrythurau’n dweud: “Does ’na ddim dyn cyfiawn, dim hyd yn oed un. 11  Does ’na neb sydd ag unrhyw ddealltwriaeth. Does ’na neb sy’n chwilio am Dduw. 12  Mae pob dyn wedi troi i ffwrdd oddi wrtho Ef; mae pob un ohonyn nhw wedi dod yn ddi-werth. Does ’na neb sy’n dangos caredigrwydd, dim hyd yn oed un.” 13  “Mae eu geiriau yn farwol.* Maen nhw’n defnyddio eu tafodau i ddweud celwyddau.” “Mae’r hyn sy’n dod allan o’u gwefusau fel gwenwyn nadroedd.”* 14  “Mae eu ceg yn llawn melltith a dicter.”* 15  “Maen nhw’n dreisgar ac yn farwol.”* 16  “Ym mhob peth maen nhw’n ei wneud, maen nhw’n achosi trychineb a gofid. 17  Dydyn nhw ddim yn gwybod am ffyrdd heddwch.” 18  “Does ganddyn nhw ddim parch tuag at Dduw.”* 19  Nawr rydyn ni’n gwybod bod popeth yn y Gyfraith yn berthnasol i’r rhai sydd o dan y Gyfraith. Ei phwrpas ydy stopio pobl rhag gwneud esgusodion a dangos bod y byd cyfan yn euog o flaen Duw ac yn haeddu cael ei gosbi. 20  Felly does neb yn gallu cael ei alw’n gyfiawn gan Dduw am wneud beth mae’r gyfraith yn ei orchymyn. Mewn gwirionedd, mae’r gyfraith yn gwneud inni ddeall pechod yn fwy eglur. 21  Ond nawr mae Duw wedi datgelu ei gyfiawnder mewn ffordd sydd ddim yn cynnwys y Gyfraith, fel y rhagfynegodd y Gyfraith a’r Proffwydi. 22  Mae cyfiawnder Duw wedi cael ei ddatgelu drwy ffydd yn Iesu Grist i bawb sy’n dangos y ffydd hon. Oherwydd does ’na ddim un genedl sy’n well nag un arall.* 23  Mae pawb wedi pechu ac yn methu adlewyrchu* gogoniant Duw. 24  Fel rhodd am ddim iddyn nhw, mae Duw wedi eu galw nhw’n gyfiawn drwy ddangos ei garedigrwydd rhyfeddol a threfnu i Grist Iesu dalu’r pris* i’w rhyddhau nhw. 25  Gwnaeth Duw roi Iesu yn offrwm i’n cymodi ni â Duw* drwy ffydd yn ei waed. Gwnaeth Duw hyn i ddangos ei gyfiawnder ei hun. Nid yn unig y mae’n dangos ei amynedd drwy faddau pechodau a gafodd eu gwneud yn y gorffennol 26  ond y mae hefyd yn dangos ei gyfiawnder ei hun inni nawr drwy alw’n gyfiawn y person sydd â ffydd yn Iesu. 27  Felly, oes ’na unrhyw reswm inni frolio? Ddim o gwbl. A ddylen ni frolio am ufuddhau i’r Gyfraith? Na ddylen ni, dim ond am ddilyn cyfraith ffydd. 28  Oherwydd rydyn ni’n gwybod bod dyn yn cael ei alw’n gyfiawn drwy ffydd, nid trwy geisio gwneud beth mae’r Gyfraith yn ei orchymyn. 29  Neu a ydy Duw yn Dduw i’r Iddewon yn unig? Onid ydy ef hefyd yn Dduw i bobl yr holl genhedloedd? Ydy, mae’n Dduw i bobl yr holl genhedloedd. 30  Gan fod ’na un Duw yn unig, bydd ef yn galw pobl sydd wedi cael eu henwaedu yn ogystal â phobl sydd heb gael eu henwaedu yn gyfiawn oherwydd eu ffydd. 31  Felly, ydyn ni’n gwanhau’r* Gyfraith drwy ein ffydd? Ddim o gwbl! I’r gwrthwyneb, rydyn ni’n cadarnhau’r Gyfraith.

Troednodiadau

Neu “ei ddatganiadau cysegredig.”
Llyth., “Bedd agored yw eu gwddf.”
Neu “asbiaid.”
Neu “chwerwder.”
Llyth., “Mae eu traed yn gyflym i dywallt gwaed.”
Llyth., “Does dim ofn Duw o flaen eu llygaid.”
Llyth., “Oherwydd does dim gwahaniaeth.”
Neu “syrthio’n fyr o.”
Neu “pridwerth.”
Neu “fel offrwm i adfer ein perthynas â Duw.”
Neu “canslo’r; tanseilio’r.”