CÂN 68
Hau Had y Deyrnas
-
1. Tyrd, dere, ymuna â’r gweithwyr,
Ateba’r gwahoddiad yn glou.
Mae’r Meistr yn barod i’n helpu
I wneud yr holl waith mae e’n moyn.
Gall un hadyn bach sy’n dod o dy law
Egino ar bridd sydd yn dda.
Parha i hau had y gwirionedd yn hael,
Ac yng nghalon sy’n fwyn, tyfu wna.
-
2. Er mwyn i had lwyddo a ffynnu,
Rhaid troi, trin, a dyfrio y tir.
Rhaid inni addasu ein dulliau
I’w dysgu i garu y gwir.
Amheuon a gwyd, a phwysau a ddaw,
Ond rhoi cymorth cyson a wnawn.
Wrth weld had y Deyrnas yn tyfu yn fwy
Yn eu calon bob dydd, llawenhawn.
(Gweler hefyd Math. 13:19-23; 22:37.)