CÂN 75
“Dyma Fi! Anfon Fi!”
(Eseia 6:8)
-
1. Ble heddiw gwelir parch at Dduw?
Ar drai mae ffydd y ddynol ryw.
‘Duw, nid yw’n bod!’ a fynna rhai.
D’wed eraill, ‘Arno fo mae’r bai!’
Amddiffyn enw Duw, pwy wna?
I ganu moliant Duw, pwy â?
(CYTGAN)
‘Dduw, dyma fi! O anfon fi!
Cyhoeddi wnaf dy glod a’th fri.
Nid oes anrhydedd mwy na hyn oll.
Dyma fi! O anfon fi!’
-
2. Ar gynnydd mae’r di-gred, di-Dduw,
A chwyno maent, ‘Un araf yw!’
Addola eraill ddelwau pren,
A’u Cesar gosod maent yn ben.
Pwy â, a phwy a gwyd ei lais
I seinio’r rhybudd yn y maes?
CYTGAN)
‘Dduw, dyma fi! O anfon fi!
Rhoi’r rhybudd wnaf yn ddewr, yn hy.
Nid oes anrhydedd mwy na hyn oll.
Dyma fi! O anfon fi!’
-
3. Wrth weld drygioni yn dwysáu,
Galaru mae calonnau’r rhai
Sy’n chwilio am dangnefedd pur,
Sy’n ceisio dod o hyd i’r gwir.
Pwy â â gair cysurus Duw
I leddfu ac esmwytho’u briw?
(CYTGAN)
‘Dduw, dyma fi! O anfon fi!
I ddysgu’r addfwyn rai af i.
Nid oes anrhydedd mwy na hyn oll.
Dyma fi! O anfon fi!’
(Gweler hefyd Salm 10:4; Esec. 9:4.)