Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Marek M. Berezowski/Anadolu Agency via Getty Images

BYDDWCH YN WYLIADWRUS!

Blwyddyn Ers Dechrau’r Rhyfel yn Wcráin—Pa Obaith Mae’r Beibl yn ei Gynnig?

Blwyddyn Ers Dechrau’r Rhyfel yn Wcráin—Pa Obaith Mae’r Beibl yn ei Gynnig?

 Ddydd Gwener 24 Chwefror, 2023, bydd hi’n flwyddyn ers i’r rhyfel ddechrau yn Wcráin. Yn ôl rhai adroddiadau, mae tua 300,000 o filwyr o Wcráin a Rwsia wedi cael eu lladd neu eu hanafu, ac mae tua 30,000 o bobl gyffredin wedi marw yn y rhyfel. Ond gall y ffigwr fod yn uwch.

 Yn anffodus, nid yw’n ymddangos bod terfyn i’r rhyfel hwn ar y gorwel.

  •   “Mae bron i flwyddyn ers i fyddin Rwsia fynd i mewn i Wcráin, ond does dim arwydd bod y gwrthdaro yn dod i ben. Nid yw’r naill ochr na’r llall i’w gweld yn ennill y rhyfel, ac mae’n annhebygol y byddan nhw’n gallu eistedd o gwmpas y bwrdd i gael datrys y sefyllfa.”—NPR (National Public Radio), Chwefror 19, 2023.

 Mae llawer yn teimlo’n drist iawn o weld y boen a’r dioddef y mae’r rhyfel hwn ac eraill yn eu hachosi i bobl ddiniwed ledled y byd. Pa obaith mae’r Beibl yn ei gynnig? A ddaw diwedd ar ryfel ryw ddydd?

Rhyfel i roi diwedd ar bob rhyfel

 Mae’r Beibl yn sôn am ryfel a fydd yn achub y ddynolryw yn hytrach na’i dinistrio. Enw’r rhyfel hwnnw ydy Armagedon, ac mae’n cael ei ddisgrifio fel “rhyfel dydd mawr Duw’r Hollalluog.” (Datguddiad 16:14, 16) Bydd Duw yn defnyddio’r rhyfel hwnnw i roi terfyn ar lywodraeth ddynol sydd wedi achosi cymaint o ryfeloedd erchyll. I ddysgu sut y bydd Armagedon yn dod â heddwch parhaol i’r byd, gweler yr erthyglau canlynol: