GWLEDYDD A PHOBLOEDD
Ymweld â Seland Newydd
TUA 800 mlynedd yn ôl, teithiodd llwythau’r Maori filoedd o filltiroedd ar draws y môr i ymgartrefu yn Seland Newydd. Yno, gwnaethon nhw ddarganfod tiroedd a oedd yn hollol wahanol i ynysoedd trofannol Polynesia, sef eu hen gartref. Dyma wlad o fynyddoedd a rhewlifoedd, tarddellau thermol, ac eira. Daeth grŵp arall o ymsefydlwyr i Seland Newydd tua phum canrif yn ddiweddarach, o Ewrop bell y tro hwn. Heddiw, mae’r rhan fwyaf o bobl Seland Newydd yn cydnabod eu traddodiadau Eingl-Sacsonaidd a Pholynesaidd. Mae bron i 90 y cant o’r boblogaeth yn byw mewn dinasoedd. Yr hyn sy’n arwyddocaol am Wellington yw mai hithau yw’r brif ddinas fwyaf deheuol yn y byd.
Oherwydd harddwch rhyfeddol ac amrywiol y golygfeydd, does dim syndod fod tua thair miliwn o bobl yn
ymweld â Seland Newydd bob blwyddyn er gwaethaf ei lleoliad anghysbell.Mae gan Seland Newydd gymysgfa ryfedd o fywyd gwyllt, gyda mwy o rywogaethau o adar sydd ddim yn gallu hedfan nag unrhyw le arall yn y byd. Mae’n gartref i’r tuatara, ymlusgiad sy’n debyg i fadfall ac sy’n gallu byw hyd at 100 o flynyddoedd! Yr unig famaliaid brodorol ydy’r ychydig o rywogaethau o ystlumod, a rhai mamaliaid dyfrol mawr, gan gynnwys morfilod a dolffiniaid.
Mae Tystion Jehofa wedi bod yn pregethu yn Seland Newydd am 120 o flynyddoedd bron. Maen nhw’n dysgu am y Beibl mewn o leiaf 19 o ieithoedd, gan gynnwys ieithoedd Polynesia, fel y Niweeg, y Raratongeg, y Samöeg, a’r Tongeg.