AWGRYMIAD AR GYFER ASTUDIO
Tynnu Lluniau i Dy Helpu Di i Gofio
Efallai, fel llawer o bobl, rwyt ti’n ei chael hi’n anodd cofio’r hyn rwyt ti’n ei astudio. Ond, a wyt ti wedi sylwi dy fod ti’n gallu cofio eglurebau Iesu’n hawdd? Rwyt ti’n eu gweld nhw’n glir yn dy feddwl, ac mae hynny’n dy helpu di i’w cofio. Mewn ffordd debyg, gelli di gofio mwy o beth rwyt ti’n ei astudio drwy ddefnyddio dy ddychymyg. Sut gelli di wneud hynny? Drwy dynnu lluniau o’r hyn rwyt ti’n ei ddysgu.
Yn aml, mae pobl sy’n tynnu lluniau o’r hyn y maen nhw’n ei ddysgu yn cofio pethau’n well. Maen nhw’n gweld bod hyn yn eu helpu nhw i gofio geiriau unigol a hefyd i gofio prif bwyntiau a syniadau. Does dim rhaid i’r lluniau fod o safon dda, mae braslun syml yn ddigon. Hefyd, mae ’na dystiolaeth sy’n dangos bod hyn yn enwedig o fuddiol i bobl hŷn.
Y tro nesaf iti astudio, rho gynnig ar dynnu llun o’r hyn rwyt ti wedi ei ddysgu. Efallai byddi di’n synnu faint rwyt ti’n ei gofio!