Profon Nhw Gariad y Gynulleidfa
MAE Yomara a’i brodyr—Marcelo ac Hiver—yn byw mewn pentref bach yn Gwatemala. Dechreuodd Yomara astudio’r Beibl gyda Thystion Jehofa, ac yn y pen draw gwnaeth ei brodyr ymuno yn yr astudiaeth. Ond roedd hyn yn dipyn o her iddyn nhw oherwydd bod y tri ohonyn nhw’n ddall ac yn methu darllen braille. Felly byddai’r cyhoeddwr a oedd yn astudio gyda nhw yn darllen paragraffau’r wers iddyn nhw yn ogystal â’r holl adnodau o’r Beibl.
Roedd mynychu’r cyfarfodydd yn heriol hefyd. Ar eu pennau eu hunain, doedden nhw ddim yn gallu teithio i’r Neuadd y Deyrnas agosaf, oedd yn 40 munud i ffwrdd. Ond dyma’r brodyr lleol yn trefnu i fynd â nhw i bob un o’r cyfarfodydd. Ac wrth i’r tri ohonyn nhw ddechrau cael rhannau yn y cyfarfodydd canol wythnos, roedd y brodyr yn eu helpu nhw i ddysgu eu cyflwyniadau ar gof.
Ym mis Mai 2019, dechreuodd cyfarfodydd gael eu cynnal yn eu pentref. Erbyn hynny roedd cwpl a oedd yn arloesi’n llawn amser wedi symud i mewn i’r pentref. Doedd y cwpl ddim yn gwybod sut i ddarllen nac ysgrifennu braille, ond er hynny roedden nhw eisiau dysgu Yomara, Marcelo, ac Hiver i wneud hynny. Felly aethon nhw i’r llyfrgell i ddod yn gyfarwydd â’r system braille er mwyn dysgu eraill sut i’w defnyddio.
O fewn ychydig fisoedd, roedd Yomara a’i brodyr yn gallu darllen braille yn rhugl, ac felly gwnaethon nhw fwy o gynnydd ysbrydol. a Erbyn heddiw, mae’r tri ohonyn nhw’n arloesi’n llawn amser ac mae Marcelo yn un o weision y gynulleidfa. Drwy’r wythnos maen nhw’n brysur iawn yn gwneud pethau ysbrydol ac mae eu brwdfrydedd yn heintus.
Mae’r tri yn ddiolchgar am gefnogaeth a chariad y gynulleidfa. Dywedodd Yomara: “Ers y tro cyntaf inni gwrdd â’r Tystion, maen nhw wedi dangos cariad Cristnogol go iawn inni.” Mae Marcelo yn ychwanegu: “Mae ffrindiau arbennig gyda ni yn y gynulleidfa leol, ac rydyn ni’n rhan o frawdoliaeth fyd-eang sydd wedi ei chlymu at ei gilydd mewn cariad.” Mae Yomara a’i brodyr yn dyheu am y diwrnod pan fyddan nhw’n gweld y ddaear yn cael ei throi’n baradwys.—Salm 37:10, 11; Esei. 35:5.
a Mae’r llyfryn Learn to Read Braille wedi ei ddylunio i helpu rhywun sydd yn ddall neu’n rhannol ddall i ddysgu darllen ac ysgrifennu braille.