HANES BYWYD
Ceisio Adlewyrchu Esiamplau Da
“Wyt ti’n gwybod faint ydy fy oed i?” gofynnais. “Mi ydw i’n gwybod yn iawn beth yw dy oedran di,” atebodd Izak Marais, a’m ffoniodd o Patterson, Efrog Newydd, tra oeddwn i’n byw yn Colorado. Gad imi egluro beth ddigwyddodd cyn y sgwrs honno.
GANWYD fi yn Wichita, Kansas, UDA, ar 10 Rhagfyr 1936. Y fi oedd y cyntaf o bedwar o blant. Roedd fy rhieni, William a Jean, yn addoli Jehofa. Fy nhad oedd yn arwain yn y gynulleidfa. Cafodd fy mam y gwirionedd gan ei mam hithau, Emma Wagner. Dysgodd Emma y gwirionedd i lawer o unigolion, gan gynnwys Gertrude Steele, a oedd yn genhades yn Puerto Rico am flynyddoedd. * Felly, roedd gen i lawer o esiamplau da i’w hefelychu.
COFIO ESIAMPLAU DA
Un nos Sadwrn, a minnau’n bum mlwydd oed, roedd fy nhad a minnau’n cynnig y Tŵr Gwylio a’r Consolation (a elwir heddiw Awake!) i bobl ar y stryd. Bryd hynny, roedd y wlad yn ymladd yn yr Ail Ryfel Byd. Daeth doctor meddw draw a gweiddi’n gas ar fy nhad oherwydd ei niwtraliaeth Gristnogol a’i alw’n llwfrgi ac yn gonshi. Gwthiodd y doctor ei wyneb yn agos iawn at wyneb fy nhad gan ddweud, “Pam na wnei di fy nharo i, y llwfrgi?” Roeddwn i wedi dychryn ond roeddwn i’n edmygu fy nhad. Daliodd ati i gynnig y cylchgronau i’r dorf a oedd wedi ymgasglu. Wedyn, cerddodd milwr heibio, a gwaeddodd y doctor arno, “Gwna rywbeth am y llwfrgi ’ma!” Deallodd y milwr fod y dyn wedi meddwi, felly dywedodd wrtho, “Dos adre’ i sobri!” A dyma’r ddau ohonyn nhw’n gadael. Wrth edrych yn ôl, rwy’n ddiolchgar fod Jehofa wedi gwneud fy nhad yn ddewr. Roedd ganddo ddau siop farbwr ac roedd y doctor yn un o’i gwsmeriaid!
Pan oeddwn i’n wyth, gwerthodd fy rhieni eu cartref a’u siopau barbwr. Adeiladon nhw gartref symudol bach a symud i Colorado oherwydd bod angen mwy o gyhoeddwyr yno. Setlon ni wrth ymyl Grand Junction, lle roedd fy rhieni’n arloesi ac yn gweithio’n rhan amser yn ffermio. Gyda bendith Jehofa, ynghyd â’u gwaith caled, sefydlwyd cynulleidfa. Yno, ar 20 Mehefin 1948, cefais fy medyddio gan fy nhad mewn nant mynydd.
Bedyddiodd fy nhad eraill hefyd a oedd wedi derbyn y gwirionedd, gan gynnwys Billie Nichols a’i wraig. Yn hwyrach ymlaen, aethon nhw ar y gylchdaith, fel y gwnaeth eu mab a’i wraig yntau hefyd.Cawson ni ein calonogi drwy gymdeithasu â rhai a oedd wedi ymroi’n llwyr i waith y Deyrnas, yn enwedig y teulu Steele—Don ac Earlene, Dave a Julia, a Si a Martha—a gafodd ddylanwad mawr ar fy mywyd. Dangoson nhw imi sut y gall rhoi’r Deyrnas yn gyntaf ddod â llawenydd.
SYMUD ETO
Pan oeddwn i’n 19, gofynnodd Bud Hasty, sef ffrind i’r teulu, imi arloesi gydag ef yn ne’r Unol Daleithiau. Gofynnodd arolygwr y gylchdaith inni fynd i Ruston, Louisiana, lle roedd nifer o Dystion wedi mynd yn anweithredol. Y cyfarwyddyd oedd i gynnal pob cyfarfod, ni waeth faint oedd yn bresennol. Daethon ni o hyd i leoliad addas ar gyfer cynnal y cyfarfodydd. Roedden ni’n cynnal pob cyfarfod, ond, am sbel, dim ond y ddau ohonon ni oedd yn mynychu. Roedden ni’n cymryd ein tro i gyflwyno’r rhannau, tra oedd y llall yn ateb pob cwestiwn. Os oedd angen dangosiad, roedd y ddau ohonon ni ar y llwyfan a neb yn y gynulleidfa! Ond, o’r diwedd, dechreuodd hen chwaer fynychu. Yn y pen draw, dechreuodd rhai a oedd yn astudio’r Beibl ddod i’r cyfarfodydd, ynghyd â rhai anweithredol, a chyn bo hir roedd gennyn ni gynulleidfa lewyrchus.
Un diwrnod, gwnaeth Bud a minnau gwrdd ag un o weinidogion Eglwys Crist a oedd yn trafod adnodau anghyfarwydd imi. Roedd hyn wedi fy nychryn a gwneud imi feddwl yn ddyfnach am fy nghredoau. Am wythnos, roeddwn i’n llosgi’r gannwyll yn hwyr er mwyn dod o hyd i’r atebion. Roedd hynny’n fy helpu i brofi’r gwir i mi fy hun, ac roeddwn i’n edrych ymlaen at gwrdd â gweinidog arall.
Yn fuan ar ôl hynny, gofynnodd arolygwr y gylchdaith imi symud i El Dorado, Arkansas, i helpu’r gynulleidfa honno. Tra oeddwn i yno, roedd yn rhaid imi fynd yn ôl i Colorado yn aml er mwyn ymddangos gerbron y bwrdd consgriptio. Ar un o’r teithiau hynny, roedd rhai o’m cyd-arloeswyr a minnau’n teithio yn fy nghar, ond cafodd y car ei ddifetha ar ôl damwain yn Texas. Gwnaethon ni ffonio brawd, a daeth yntau i’n nôl ni a mynd â ni i’w gartref ac wedyn i’r cyfarfod. Sonion nhw yn y cyfarfod am yr hyn oedd wedi digwydd, a gwnaeth y brodyr ein helpu ni’n ariannol. Hefyd, gwerthodd y brawd fy nghar am $25.
Roedden ni’n medru cael pàs i Wichita, lle roedd ffrind teuluol agos, E.F. “Doc” McCartney, yn arloesi. Roedd ganddo efeilliaid, Frank a Francis, sy’n ffrindiau pennaf imi hyd heddiw. Roedd ganddyn nhw hen gar y gwnaethon nhw ei werthu imi am $25, yr union swm a gefais am fy hen gar i. Hwn oedd y tro cyntaf imi weld llaw Jehofa yn darparu beth roeddwn i’n ei angen oherwydd fy mod i wedi rhoi’r Deyrnas yn gyntaf. Yn ystod yr ymweliad hwn, cefais fy nghyflwyno gan y McCartneys i chwaer ysbrydol o’r enw Bethel Crane. Roedd ei mam, Ruth, yn Dyst selog iawn yn Wellington, Kansas, a wnaeth barhau i arloesi hyd nes iddi gyrraedd ei 90au. Gwnaeth fi a Bethel briodi mewn llai na blwyddyn, ym 1958, a daeth hi gyda mi i El Dorado er mwyn arloesi.
GWAHODDIADAU CYFFROUS
Ar ôl ystyried yr esiamplau gwych roedden ni wedi eu gweld wrth dyfu i fyny, penderfynon ni fod yn barod i wneud unrhyw beth roedd cyfundrefn Jehofa yn ein gwahodd ni i’w wneud. Cawson ni ein haseinio i fod yn arloeswyr arbennig yn Walnut Ridge, Arkansas. Wedyn, ym 1962, roedden ni wrth ein boddau o dderbyn gwahoddiad i fynychu dosbarth 37 o Gilead. I’n mawr syndod, roedd Don Steele yn yr un dosbarth. Ar ôl graddio, cawson ni ein haseinio i Nairobi, Cenia. Wrth adael Efrog Newydd, daeth lwmp i’r gwddf, ond trodd y lwmp hwnnw yn llawenydd wrth inni gyfarfod â’n brodyr ym maes awyr Nairobi!
Daethon ni yn hoff iawn o’n bywyd yn Cenia, a’n gweinidogaeth hyfryd yno. Ein myfyrwyr cyntaf a ddaeth i mewn i’r gwir oedd Chris a Mary Kanaiya. Maen nhw’n dal yn gwasanaethu’n llawn amser yn Cenia. Y flwyddyn ganlynol, gofynnwyd inni symud i Kampala, Iwganda, a ninnau oedd y cenhadon cyntaf i fynd i’r wlad honno. Adeg gyffrous oedd honno, gan fod cymaint eisiau dysgu am wirioneddau’r Beibl, a daeth y bobl hynny’n gyd-addolwyr inni. Ond, ar ôl tair blynedd a hanner yn Affrica, gwnaethon ni adael er mwyn dechrau teulu. Aethon ni yn ôl i’r Unol Daleithiau. Y diwrnod y gadawon ni Affrica, roedd y lwmp yn fy ngwddf yn llawer mwy na’r un roedd gennyn ni pan adawon ni Efrog Newydd. Roedden ni’n wedi dod i garu pobl Affrica ac yn gobeithio dychwelyd ryw ddydd.
DERBYN ASEINIAD NEWYDD
Setlon ni ar lethr orllewinol Colorado, lle roedd fy rhieni’n byw. 17 mis ar ôl i Kimberly, ein merch gyntaf, gael ei geni, cawson ni Stephany. Roedden ni’n cymryd ein haseiniad newydd fel rhieni o ddifrif, a gwnaethon ni ein gorau i drwytho ein merched hyfryd yn y gwirionedd. Dymunon ni efelychu’r esiamplau da a osodwyd inni. Tra bo esiampl dda yn gallu cael dylanwad mawr ar blant, peth sobr yw meddwl nad yw hyn ynddo’i hun yn gwarantu y byddan nhw’n tyfu i fyny i wasanaethu Jehofa. Gadawodd fy mrawd a’m chwaer iau y gwir. Gobeithio y byddan nhw unwaith eto yn efelychu’r esiamplau da a osodwyd iddyn nhw.
Roedden ni’n mwynhau’n fawr iawn magu ein merched a phob amser yn ceisio gwneud pethau fel teulu. Gan ein bod ni’n byw wrth ymyl Aspen, Colorado, gwnaethon ni ddechrau sgio gyda’n gilydd. Roedd gwneud hynny’n rhoi amser inni gyfathrebu â’r merched wrth inni fynd i fyny ar y lifftiau sgio. Roedden ni’n gwersylla hefyd ac yn mwynhau sgwrsio o gwmpas y tân. Er eu bod nhw’n ifanc, roedden nhw’n gofyn cwestiynau fel, “Beth
byddwn i’n ei wneud pan ydw i’n hŷn?” a “Pa fath o berson y dylwn i briodi?” Ceision ni sicrhau bod y gwir yn gwreiddio yn eu calonnau nhw. Roedden ni’n eu hatgoffa nhw i gadw’r weinidogaeth lawn amser o’u blaenau, ac i briodi rhywun sy’n rhannu’r un nod. Gwnaethon ni geisio eu helpu nhw i weld ei bod hi’n beth doeth i osgoi priodi’n rhy ifanc. Roedden ni bob amser yn dweud, “Arhosa’n sengl nes dy fod ti o leiaf yn ddau ddeg tri.”Fel roedd ein rhieni wedi ei wneud gyda ni, buon ni’n gweithio’n galed i fynychu’r cyfarfodydd ac i gael rhan reolaidd yn y weinidogaeth fel teulu. Trefnon ni i rai a oedd yn gwasanaethu’n llawn amser aros yn ein cartref. Hefyd, roedden ni’n arfer siarad yn bositif am yr adeg pan oedden ni’n genhadon. Roedden ni’n dweud wrthyn nhw ein bod ni’n gobeithio y byddai’r pedwar ohonon ni’n gallu mynd i Affrica ryw ddydd gyda’n gilydd. Roedd y merched yn awyddus iawn i wneud hynny.
Cawson ni astudiaeth deuluol reolaidd lle roedden ni’n actio allan gwahanol sefyllfaoedd a all godi yn yr ysgol. Roedden ni’n trefnu i’r merched chwarae rhan y Tystion yn ateb cwestiynau. Roedden nhw’n mwynhau dysgu fel hyn ac yn magu hyder. Wrth iddyn nhw dyfu, ar adegau roedden nhw’n cwyno am orfod cael yr astudiaeth. Un tro, mewn anobaith, dywedais wrthyn nhw i fynd yn ôl i’w hystafelloedd gan na fydden ni’n cael yr astudiaeth. Roedden nhw wedi synnu, ac yna dechreuon nhw grio a dweud eu bod nhw eisiau’r astudiaeth. Dyna pryd gwnaethon ni ddechrau sylweddoli ein bod ni’n llwyddo i’w helpu nhw i werthfawrogi pethau ysbrydol. Daethon nhw’n hoff iawn o’r astudiaeth, ac roedden ni’n caniatáu iddyn nhw eu mynegi eu hunain. Ar adegau, anodd oedd clywed nad oedden nhw’n cytuno â rhai elfennau o’r gwirionedd. Ond, roedden ni’n darganfod beth roedd yn eu calonnau nhw. Ar ôl inni resymu â nhw, roedden nhw’n hapus i dderbyn ffordd Jehofa o feddwl.
ADDASU I FWY O NEWIDIADAU
Aeth y cyfnod o fagu ein merched heibio’n gyflymach na’r disgwyl. Gyda help ac arweiniad cyfundrefn Jehofa, roedden ni’n gwneud ein gorau glas i’w magu nhw i garu Jehofa. Roedden ni’n ddiolchgar iawn pan ddechreuodd y merched arloesi ar ôl gadael yr ysgol uwchradd, a gwnaethon nhw feithrin sgiliau i’w cynnal eu hunain yn ariannol. Symudon nhw i Cleveland, Tennessee, gyda dwy chwaer arall i helpu cynulleidfa mewn angen. Roedden ni’n eu colli nhw gymaint, ond roedden ni’n falch eu bod nhw’n defnyddio eu bywydau i wasanaethu Jehofa yn llawn amser. Gwnaeth Bethel a minnau ddechrau arloesi unwaith eto, ac arweiniodd hyn at fwy o fendithion. Roedden ni’n dirprwyo dros arolygwr y gylchdaith o bryd i’w gilydd, ac yn gwneud gwaith cynhadledd.
Cyn symud i Tennessee, aeth y merched ar daith i Lundain, Lloegr, ac ymweld â’r swyddfa gangen yno. Gwnaeth Stephany, a oedd yn 19 mlwydd oed, gwrdd â Paul Norton, aelod ifanc o’r Bethel. Yn hwyrach ymlaen, gwnaeth Kimberly gwrdd ag un o’i gydweithwyr, Brian Llewellyn. Priododd Paul a Stephany—dim ond ar ôl iddi droi’n 23. A phriododd Brian a Kimberly flwyddyn wedi hynny—pan oedd hithau’n 25. Felly, gwnaethon nhw aros yn sengl tan oedden nhw o leiaf yn 23. Roedden ni’n hapus dros ben gyda’r gwŷr roedden nhw wedi eu dewis.
Mae ein merched wedi dweud bod yr esiamplau y gwnaethon ni, a’n rhieni, eu gosod iddyn nhw wedi eu helpu nhw i fod yn ufudd i orchymyn Iesu o ran ceisio’n “gyntaf Deyrnas Dduw,” hyd yn oed pan oedd pethau’n anodd arnyn nhw’n ariannol. (Math. 6:33) Yn Ebrill 1998, cafodd Paul a Stephany wahoddiad i fynychu dosbarth 105 o Gilead, ac yna eu haseinio i Malawi, Affrica. Ar yr un pryd, cafodd Brian a Kimberly eu gwahodd i weithio yn y Bethel yn Llundain, ac yn hwyrach ymlaen, fe’u trosglwyddwyd i’r Bethel yn Malawi. Roedden ni’n hapus iawn gan nad oes unrhyw ffordd well i bobl ifanc ddefnyddio eu bywydau.
GWAHODDIAD CYFFROUS ARALL
Yn Ionawr 2001, cefais yr alwad ffon a ddisgrifir ar gychwyn yr erthygl. Eglurodd y Brawd Marais, arolygwr Gwasanaethau Cyfieithu, fod y brodyr
yn trefnu cwrs mewn darllen a deall Saesneg ar gyfer cyfieithwyr ledled y byd, ac roedd y brodyr eisiau imi fod yn un o’r hyfforddwyr, a minnau’n 64 blwydd oed. Gwnaeth fy ngwraig Bethel a minnau weddïo am y mater a’i drafod gyda’n mamau oedrannus. Roedd ein mamau eisiau inni fynd, er bod hynny’n golygu na fydden ni ar gael i’w helpu. Gwnes i alw’n ôl a dweud ein bod ni’n hapus iawn i dderbyn y fraint.Wedyn, cafwyd bod canser ar fy mam. Dywedais wrthi y bydden ni’n aros a helpu fy chwaer Linda i edrych ar ei hôl. “Fyddwch chi ddim yn gwneud y ffasiwn beth,” dywedodd fy mam. “Byddaf yn teimlo’n waeth os nad wyt ti’n mynd.” Roedd Linda yn teimlo’r un ffordd. Roedden ni’n ddiolchgar iawn am eu hagwedd hunan-aberthol, ac am help y brodyr yn yr ardal honno! Y diwrnod ar ôl inni adael Canolfan Addysg y Watchtower yn Patterson, ffoniodd Linda i ddweud bod mam wedi marw. Fel y byddai hi wedi ein hannog ni i’w wneud, gwnaethon ni ymroi’n llwyr i’n haseiniad newydd.
Er mawr llawenydd inni, ein haseiniad cyntaf oedd i’r gangen yn Malawi, lle roedd ein merched a’u gwŷr yn gwasanaethu. Am aduniad oedd hwnnw! Wedyn, aethon ni i Simbabwe a Sambia. Ar ôl dysgu’r cwrs am dair blynedd a hanner, fe’n haseiniwyd yn ôl i Malawi i gofnodi profiadau’r Tystion a oedd wedi dioddef erledigaeth yno oherwydd eu niwtraliaeth Gristnogol. *
Unwaith eto, â lwmp yn y gwddf, yn 2005 aethon ni adref i Basalt, Colorado, lle mae Bethel a minnau’n arloesi. Yn 2006, symudodd Brian a Kimberly ddrws nesaf inni i fagu eu dwy ferch, Mackenzie ac Elizabeth. Mae Paul a Stephany yn dal yn Malawi, lle mae Paul yn gwasanaethu ar Bwyllgor y Gangen. Nawr, rwy’n 80 bron, ac yn teimlo’n llawen o weld y brodyr iau rwyf wedi gweithio â nhw dros y blynyddoedd yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb roedd gen i ar un adeg. Mae’r llawenydd sydd gennyn ni, i raddau helaeth, yn dod o ganlyniad i’r esiamplau da a gafodd eu gosod inni, esiamplau rydyn ni wedi ceisio eu hefelychu er lles ein plant a’n hwyresau.