“Peidiwch Stopio’r Arfer o Roi Croeso i Bobl Ddieithr”
“Peidiwch stopio’r arfer o roi croeso i bobl ddieithr.”—HEB. 13:2, beibl.net.
CANEUON: 124, 79
1, 2. (a) Pa anawsterau y mae llawer o ddieithriaid yn eu hwynebu heddiw? (Gweler y llun agoriadol.) (b) Pa gyngor a roddodd yr apostol Paul, a pha gwestiynau sy’n codi?
DROS 30 o flynyddoedd yn ôl, daeth Osei, [1] dyn ifanc nad oedd yn Dyst eto, i Ewrop o Ghana. Dywedodd: “Mi wnes i ddod i sylweddoli’n fuan iawn nad oedd llawer o ots gan bobl amdana’ i. Roedd y tywydd hefyd yn dipyn o sioc. Pan adewais y maes awyr a theimlo’r oerni am y tro cyntaf yn fy mywyd, dechreuais grio.” Oherwydd iddo stryffaglu gyda’r iaith, roedd Osei yn ddi-waith am dros flwyddyn. Yn bell oddi cartref, teimlodd yn unig ac yn hiraethus.
2 Meddylia am sut y byddet ti’n hoffi cael dy drin petaet tithau mewn sefyllfa debyg. Oni fyddet ti’n gwerthfawrogi cael croeso cynnes yn Neuadd y Deyrnas, beth bynnag yw dy gefndir neu liw dy groen? Yn wir, mae’r Beibl yn annog Cristnogion diffuant i beidio â “stopio’r arfer o roi croeso i bobl Heb. 13:2, beibl.net) Felly, gad inni ystyried y cwestiynau canlynol: Beth yw agwedd Jehofa tuag at ddieithriaid? Pam efallai y dylen ni newid ein hagwedd tuag at bobl ddiarth? A sut gallwn ni helpu estroniaid i deimlo’n gartrefol yn ein cynulleidfa?
ddieithr.” (AGWEDD JEHOFA TUAG AT BOBL DDIARTH
3, 4. Yn ôl Exodus 23:9, sut roedd Duw yn disgwyl i’r Israeliaid drin estroniaid, a pham?
3 Ar ôl i Jehofa achub ei bobl o’r Aifft, rhoddodd gyfreithiau iddyn nhw a oedd yn dangos ystyriaeth i’r llawer o estroniaid yn eu plith. (Ex. 12:38, 49; 22:21) Fel arfer, mae estroniaid o dan anfantais, ond roedd Jehofa wedi darparu ar eu cyfer. Un o’r darpariaethau hynny oedd yr hawl i loffa, neu i gasglu bwyd.—Lef. 19:9, 10.
4 Yn hytrach na gorfodi ei bobl i barchu estroniaid, roedd Jehofa yn apelio at empathi’r Israeliaid. (Darllen Exodus 23:9.) Onid oedden nhw hefyd wedi bod yn estroniaid yn y gorffennol? Hyd yn oed cyn i’r Hebreaid gael eu caethiwo, mae’n debyg fod yr Eifftiaid wedi cadw draw oddi wrthyn nhw oherwydd balchder hiliol a rhagfarn grefyddol. (Gen. 43:32; 46:34; Ex. 1:11-14) Tra oedd yr Israeliaid yn estroniaid, cawson nhw brofiadau chwerw, ond roedd Jehofa yn disgwyl iddyn nhw drin rhywun diarth “fel brodor [o’u] plith.”—Lef. 19:33, 34.
5. Beth fydd yn ein helpu ni i adlewyrchu agwedd Jehofa tuag at bobl o gefndir estron?
5 Heddiw, gwelwn fod gan Jehofa yr un gofal am bobl o gefndir estron sy’n mynychu ein cyfarfodydd. (Deut. 10:17-19; Mal. 3:5, 6) Os ydyn ni’n myfyrio ar yr her y maen nhw’n ei hwynebu, er enghraifft gwahaniaethu ar sail hil neu’r rhwystr iaith, byddwn ni’n edrych am ffyrdd i ddangos caredigrwydd a chydymdeimlad.—1 Pedr 3:8.
OES ANGEN INNI NEWID EIN HAGWEDD TUAG AT BOBL DDIARTH?
6, 7. Beth sy’n dangos bod Cristnogion y ganrif gyntaf wedi goresgyn rhagfarnau dyfnion?
6 Roedd Cristnogion y ganrif gyntaf yn dysgu sut i oresgyn rhagfarnau dyfnion a oedd yn gyffredin ymysg yr Iddewon. Ym Mhentecost 33 OG, estynnodd y rhai a oedd yn byw yn Jerwsalem groeso i’r Cristnogion newydd o wledydd estron. (Act. 2:5, 44-47) Roedd y gofal cariadus a ddangosodd y Cristnogion Iddewig i’w cyd-gredinwyr o wledydd eraill yn cadarnhau eu bod nhw’n deall ystyr y gair “lletygarwch,” sef “caredigrwydd tuag at bobl ddiarth.”
7 Ond wrth i’r gynulleidfa gynnar dyfu, mae’n ymddangos bod rhai wedi gwahaniaethu ar sail hil. Cwynodd yr Iddewon Groeg eu hiaith nad oedd eu gweddwon yn cael eu trin yn deg. (Act. 6:1) I dorri’r ddadl, penododd yr apostolion saith o ddynion i sicrhau nad oedd neb yn cael ei ddiystyru. Roedd gan y dynion hyn enwau Groeg, felly mae’n ymddangos bod yr apostolion eisiau tawelu unrhyw densiwn hiliol a fodolai rhwng y Cristnogion cynnar.—Act. 6:2-6.
8, 9. (a) Beth all fod yn arwydd ein bod ni’n anwesu rhagfarn neu falchder hiliol? (b) Beth sy’n rhaid inni ei ddadwreiddio o’n calonnau? (1 Pedr 1:22)
8 Mae ein diwylliant yn cael dylanwad mawr ar bob un ohonon ni. (Rhuf. 12:2) Hefyd, mae’n debygol ein bod ni wedi clywed ein cymdogion, ein cyd-weithwyr, neu ein cyd-ddisgyblion yn lladd ar bobl sy’n wahanol o ran cefndir, gwlad, neu liw croen. I ba raddau y mae’r agweddau rhagfarnllyd hyn yn effeithio arnon ni? Sut rydyn ni’n ymateb os yw rhywun yn gwneud hwyl am ben ein cenedl?
9 Am gyfnod, roedd yr apostol Pedr yn rhagfarnllyd tuag at bobl y cenhedloedd, ond, dros amser, dysgodd sut i newid ei agwedd. (Act. 10:28, 34, 35; Gal. 2:11-14) Os ydyn ninnau’n canfod unrhyw arlliw o ragfarn neu falchder hiliol ynon ni, dylen ni eu dadwreiddio o’n calonnau ni. (Darllen 1 Pedr 1:22.) Pwysig yw cofio nad yw’r un ohonon ni’n haeddu iachawdwriaeth; rydyn ni i gyd yn amherffaith, ni waeth befo ein cenedligrwydd. (Rhuf. 3:9, 10, 21-24) Felly, pam y dylen ni deimlo ein bod ni’n well nag unrhyw un arall? (1 Cor. 4:7) Dylen ni feithrin yr un agwedd â’r apostol Paul, a ysgrifennodd at ei gyd-addolwyr eneiniog gan ddweud eu bod nhw “ddim yn bobl estron mwyach, . . . [ond] yn perthyn i genedl Dduw!” (Eff. 2:19, beibl.net) Bydd ymdrechu i orchfygu agweddau rhagfarnllyd tuag at bobl o dras wahanol yn sicr o’n helpu ni i wisgo’r natur ddynol newydd.—Col. 3:10, 11.
DANGOS CAREDIGRWYDD TUAG AT BOBL DDIARTH
10, 11. Sut roedd Boas yn adlewyrchu agwedd Jehofa tuag at estroniaid?
10 Roedd Boas yn adlewyrchu agwedd Jehofa tuag at bobl ddiarth yn y ffordd yr oedd yn trin Ruth. Pan ddaeth i fwrw golwg ar ei gaeau yn ystod y cynhaeaf, sylwodd Boas ar ddynes estron weithgar yn lloffa y tu ôl i’w weithwyr. Pan glywodd ei bod hi wedi gofyn am ganiatâd i gasglu bwyd, er bod ganddi berffaith hawl i loffa, estynnodd Boas groeso hael iddi loffa hyd yn oed rhwng yr ysgubau.—Darllen Ruth 2:5-7, 15, 16.
11 Wrth iddo siarad â Ruth, gwelwn fod Boas yn ymwybodol o’i sefyllfa anodd. Er enghraifft, sicrhaodd nad oedd hi’n cael ei haflonyddu gan y gweithwyr drwy ofyn iddi weithio gyda grŵp o ferched eraill. Gwnaeth Boas yn siŵr fod gan Ruth ddigon o fwyd a dŵr, fel yr oedd gan ei weithwyr cyflogedig. Hefyd, doedd Boas ddim yn edrych i lawr arni; i’r gwrthwyneb, fe’i cysurodd hi.—Ruth 2:8-10, 13, 14.
12. Pa effaith bositif y gall caredigrwydd ei chael ar bobl ddiarth?
12 Roedd Boas nid yn unig yn edmygu cariad anhunanol Ruth tuag at ei mam-yng-nghyfraith, Naomi, ond roedd hefyd yn edmygu’r ffaith ei bod hi wedi dod i addoli Jehofa. Drwy garedigrwydd Boas, dangosodd Jehofa ei gariad ffyddlon tuag at Ruth, dynes a ddaeth “i geisio nodded dan ei adain.” (Ruth 2:12, 20; Diar. 19:17) Heddiw, gall ein caredigrwydd ni helpu i “bobl o bob math” adnabod y gwirionedd a chanfod pa mor fawr ydy cariad Jehofa tuag atyn nhw.—1 Tim. 2:3, 4, beibl.net.
13, 14. (a) Pam dylen ni wneud ymdrech i gyfarch pobl ddiarth yn y Neuadd? (b) Sut gelli di drechu swildod wrth siarad â phobl o wahanol ddiwylliannau?
13 Gallwn ddangos caredigrwydd tuag at estroniaid drwy eu croesawu yn y Neuadd. Efallai rydyn ni wedi sylwi bod mewnfudwyr newydd weithiau’n swil. O ganlyniad i’w magwraeth neu i’w statws cymdeithasol, gallen nhw deimlo’n israddol i hil neu genedl arall. Felly, dylen ni gymryd y cam cyntaf a dangos diddordeb diffuant ynddyn nhw. Os yw’r ap JW Language ar gael yn dy iaith di, mae’n medru dy helpu di i ddysgu sut i ddweud helo wrth bobl yn eu mamiaith.—Darllen Philipiaid 2:3, 4.
14 Efallai fod siarad â rhywun o
ddiwylliant arall yn anodd iti. I godi uwchlaw teimladau felly, gallet ti ddweud rhywbeth amdanat ti dy hun wrthyn nhw. Cyn bo hir, byddi di’n sylweddoli bod gennych chi fwy o bethau’n gyffredin nag yr oeddet ti’n ei ddisgwyl, a bod gan bob diwylliant ei gryfderau a’i wendidau ei hun.HELPU PAWB I DEIMLO’N GARTREFOL
15. Beth fydd yn ein helpu ni i ddeall teimladau pobl sydd newydd symud i’n gwlad ni?
15 Er mwyn helpu pawb i deimlo’n gartrefol yn y gynulleidfa, gofynna i ti dy hun, ‘Pe bawn i’n byw mewn gwlad estron, sut yr hoffwn i gael fy nhrin?’ (Math. 7:12) Bydda’n amyneddgar â’r rhai sy’n dod i arfer byw mewn gwlad newydd. I ddechrau, efallai na fyddwn ni’n deall eu ffordd o feddwl na’u hymateb. Ond yn lle disgwyl iddyn nhw fabwysiadu ein diwylliant ni, pam na wnei di eu derbyn yn union fel y maen nhw?—Darllen Rhufeiniaid 15:7.
16, 17. (a) Pa gamau y gallwn ni eu cymryd er mwyn closio tuag at bobl o wahanol ddiwylliannau? (b) Ym mha ffyrdd ymarferol y gallwn ni helpu mewnfudwyr yn ein cynulleidfa ni?
16 Os ydyn ni’n gwneud ymchwil ar wlad a diwylliant y rhai sydd o gefndir arall, efallai y bydd hi’n haws inni sgwrsio â nhw. Syniad da fyddai rhoi amser o’r neilltu yn ystod ein haddoliad teuluol i ymchwilio diwylliant y bobl estron yn ein cynulleidfa neu yn ein tiriogaeth. Ffordd arall o glosio tuag at rai o gefndir gwahanol yw rhannu pryd o fwyd â nhw yn ein cartrefi. Gan fod Jehofa “wedi agor drws ffydd i’r Cenhedloedd,” a allwn ninnau hefyd agor drws ein cartrefi i ddieithriaid “sydd o deulu’r ffydd”?—Act. 14:27; Gal. 6:10; Job 31:32.
17 Drwy dreulio amser gyda mewnfudwyr, byddwn ni’n deall yn well eu hymdrechion i ddod i arfer â’n diwylliant. Diar. 3:27.
Ond efallai y byddwn ni’n sylweddoli fod angen help arnyn nhw i ddysgu’r iaith. A fedrwn ni eu helpu nhw i gysylltu ag asiantaethau sy’n rhoi cymorth ynglŷn â thai a swyddi? Gall cymryd camau o’r fath wneud byd o wahaniaeth i fywyd ein cyd-addolwyr.—18. Pa esiampl o barch a diolchgarwch y gall mewnfudwyr ei hefelychu heddiw?
18 Wrth gwrs, bydd mewnfudwyr eisiau gweithio’n galed i ddod yn gyfarwydd â diwylliant eu gwlad newydd. Gosododd Ruth esiampl dda yn hyn o beth. Yn gyntaf, dangosodd hi barch tuag at arferion ei gwlad newydd drwy ofyn am ganiatâd i loffa. (Ruth 2:7) Nid oedd hi’n cymryd yr hawl honno’n ganiataol, fel petai hi’n ei haeddu. Yn ail, roedd hi’n mynegi ei diolchgarwch am y caredigrwydd a dderbyniodd hi. (Ruth 2:13) Pan fydd mewnfudwyr yn dangos agwedd o’r fath, maen nhw’n llawer mwy tebygol o ennill parch y bobl leol a’r gynulleidfa.
19. Pa resymau sydd gennyn ni i estyn croeso i bobl ddiarth?
19 Rydyn ni’n llawenhau bod Jehofa wedi caniatáu i bobl o bob cefndir glywed y newyddion da. Efallai, ni chawson nhw’r cyfle i fedru astudio’r Beibl yn eu mamwlad nac i gymdeithasu’n agored â phobl Jehofa. Ond oherwydd bod hyn yn bosibl iddyn nhw nawr, dylen ni eu helpu nhw i beidio â theimlo eu bod nhw bellach yn ddieithriaid yn ein mysg. Mae ein caredigrwydd yn adlewyrchu’r cariad sydd gan Jehofa tuag atyn nhw, hyd yn oed pan na allwn ni eu helpu’n ymarferol neu’n faterol gymaint ag yr hoffen ni. Fel “efelychwyr Duw,” gad inni wneud ein gorau glas i estyn croeso i bobl ddiarth yn ein plith.—Eff. 5:1, 2.
^ [1] (paragraff 1) Newidiwyd yr enw.