Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Oeddet Ti’n Gwybod?

Oeddet Ti’n Gwybod?

Pa mor bwysig oedd cerddoriaeth yn Israel gynt?

ROEDD cerddoriaeth yn bwysig iawn i’r Israeliaid. Mae’r Beibl yn cyfeirio nifer o weithiau at bobl yn canu a chwarae offerynnau. Yn ddiddorol, mae tua un degfed o’r Ysgrythurau yn ganeuon, er enghraifft llyfrau’r Salmau , Caniad Solomon, a Galarnad. Mae’r llyfr Music in Biblical Life yn dweud bod y Beibl yn “creu darlun clir o gymdeithas lle roedd cerddoriaeth yn rhan annatod o fywyd bob dydd.”

Cerddoriaeth yn rhan o fywyd. Chwaraeodd yr Israeliaid gerddoriaeth i fynegi eu teimladau. (Esei. 30:29) Yn ystod coroniadau, dathliadau, a buddugoliaethau milwrol, roedd y merched yn dawnsio ac yn canu’n llawen wrth chwarae tambwrinau. (Barn. 11:34; 1 Sam. 18:​6, 7; 1 Bren. 1:​39, 40) Hefyd, ar ôl i rywun farw, canodd yr Israeliaid i fynegi eu galar. (2 Cron. 35:25) Mae’n glir bod yr Israeliaid yn caru cerddoriaeth yn fawr iawn.

Cerddoriaeth yn y llys brenhinol. Roedd cerddoriaeth yn gwneud i frenhinoedd Israel lawenhau. Gwnaeth y Brenin Saul alw Dafydd i’w balas i chwarae’r delyn iddo. (1 Sam. 16:​18, 23) Yn hwyrach ymlaen pan oedd Dafydd yn frenin, gwnaeth greu offerynnau cerdd, ysgrifennu caneuon hyfryd, a threfnu’r gerddorfa a chwaraeodd yn nheml Jehofa. (2 Cron. 7:6; Amos 6:5) Roedd dynion a merched yn gwasanaethu fel cantorion yn llys y Brenin Solomon.—Preg. 2:8.

Cerddoriaeth mewn addoliad. Y ffordd bwysicaf defnyddiodd yr Israeliaid gerddoriaeth oedd i addoli Jehofa. Gwnaeth 4,000 o gerddorion berfformio yn y deml yn Jerwsalem gan ddefnyddio symbalau, telynau, trwmpedau, ac offerynnau llinynnol. (1 Cron. 23:5; 2 Cron. 5:12) Yn ogystal â’r cerddorion crefftus hyn, roedd ’na eraill a oedd yn addoli Jehofa gyda cherddoriaeth. Gwnaeth llawer o’r Israeliaid ganu Caneuon yr Esgyniadau wrth deithio i ddathliadau blynyddol yn Jerwsalem. (Salm 120-134) Ac yn ôl rhai ysgrifau Iddewig, canon nhw rai o’r Salmau a yn ystod y Pasg.

Mae cerddoriaeth yn dal yn bwysig iawn i bobl Dduw. (Iago 5:13) Mae canu yn rhan o’n haddoliad. (Eff. 5:19) Rydyn ni’n agosáu at ein brodyr a’n chwiorydd wrth inni ganu gyda’n gilydd. (Col. 3:16) Ac mae’n helpu ni aros yn gryf yn ystod treialon. (Act. 16:25) Mae cerddoriaeth yn ffordd hyfryd i fynegi ein ffydd a dangos ein cariad tuag at Jehofa.

a Mae Iddewon yn cyfeirio at Salmau 113 i 118 fel yr Halel, a oedd yn cael eu canu i foli Jehofa.