HANES BYWYD
O’n i’n Rhoi Jehofa’n Gyntaf Wrth Wneud Penderfyniadau
UN BORE braf ym 1984, o’n i wedi gadael fy nghartref clyd mewn rhan gyfoethog o Caracas, Feneswela, i fynd i ngwaith. Ar y ffordd, o’n i’n meddwl am erthygl ddiweddar o gylchgrawn y Tŵr Gwylio. Roedd yn trafod sut mae’n cymdogion yn meddwl amdanon ni. Wrth edrych ar y tai o nghwmpas, o’n i’n meddwl, ‘Ydy fy nghymdogion ond yn fy ngweld i fel banciwr llwyddiannus? Neu, a ydyn nhw’n fy ngweld i fel gweinidog Duw sy’n cynnal ei deulu drwy weithio mewn banc?’ Do’n i ddim yn hapus efo’r ateb mwyaf tebygol, felly wnes i benderfynu gwneud rhywbeth amdani.
Ces i fy ngeni ar Fai 19, 1940, yn Amioûn, Lebanon. Ychydig o flynyddoedd wedyn, symudodd y teulu i ddinas Tripoli, lle ces i fy magu mewn teulu cariadus, sefydlog a oedd yn adnabod Jehofa Dduw a’i garu. Fi oedd y fengaf o bump o blant, tair geneth a dau fachgen. Nid ennill arian oedd y peth pwysicaf i fy rhieni. Y peth pwysicaf oedd astudio’r Beibl, mynd i’r cyfarfodydd, a helpu eraill i ddod i nabod Duw.
Roedd ’na sawl Cristion eneiniog yn ein cynulleidfa. Michel Aboud oedd un ohonyn nhw, ac y fo oedd yn cynnal yr astudiaeth llyfr fel roedden ni’n ei galw bryd hynny. Roedd wedi dysgu’r gwir yn Efrog Newydd a dechreuodd y gwaith pregethu yn Lebanon ym 1921. Un peth sy’n sefyll allan yn fy nghof ydy’r cymorth a’r parch a roddodd i ddwy chwaer oedd wedi graddio o Ysgol Gilead—Anne a Gwen Beavor. Daethon nhw’n ffrindiau da inni. Ddegawdau wedyn, o’n i wrth fy modd i weld Ann yn yr Unol Daleithiau. Ychydig o amser wedyn, des i ar draws Gwen, a oedd wedi priodi Wilfred Gooch, ac roedden nhw’n gwasanaethu ym Methel Llundain.
TYSTIOLAETHU YN LEBANON
Doedd ’na ddim llawer o Dystion yn Lebanon pan o’n i’n ifanc, ond oedden ni wrthi’n
selog yn dysgu eraill am y Beibl. Mi wnaethon ni hynny er gwaethaf gwrthwynebiad gan arweinwyr crefyddol. Mae ’na rai digwyddiadau penodol yn sefyll allan yn fy meddwl.Un diwrnod, roedd fy chwaer Sana a minnau yn rhannu neges y Beibl mewn bloc o fflatiau. Ymddangosodd offeiriad ar y llawr lle roedden ni’n pregethu. Mae’n rhaid fod rhywun wedi ei ffonio. Dechreuodd yr offeiriad ddweud pethau cas wrth fy chwaer. Mi drodd yn dreisgar, a gwthiodd Sana lawr y grisiau, gan ei hanafu. Wnaeth rhywun ffonio’r heddlu, a phan gyrhaeddon nhw, ddaru nhw sicrhau bod rhywun yn gofalu am Sana. Aethon nhw â’r offeiriad i orsaf yr heddlu, lle wnaethon nhw ddarganfod ei fod yn cario gwn. Gofynnodd pennaeth yr heddlu iddo: “Beth ’dych chi’n trio ei wneud? Arwain crefydd, neu arwain gang?”
Rhywbeth arall sy’n sefyll allan yn fy nghof ydy pan wnaeth ein cynulleidfa rentio bws i fynd i dref anghysbell i bregethu. Roedden ni’n cael amser braf tan i’r offeiriad lleol glywed beth oedden ni’n ei wneud a chasglu torf at ei gilydd i ymosod arnon ni. Wnaethon nhw hyd yn oed daflu cerrig aton ni, a chafodd fy nhad ei frifo. Dw i’n cofio ei weld efo’i wyneb yn waed i gyd. Aeth yn ôl i’r bws gyda fy mam, a’r gweddill ohonon ni’n dilyn yn llawn pryder. Ond, wna i byth anghofio beth ddywedodd fy mam wrth dendio ar fy nhad: “Jehofa, plîs maddau iddyn nhw. Dydyn nhw ddim yn gwybod beth maen nhw’n ei wneud.”
Ar achlysur arall, aethon ni’n ôl i Amioûn i weld ein perthnasau. Aethon ni i weld Taid, a phwy oedd yno hefyd, ond esgob. Roedd yr esgob yn gwybod bod fy rhieni yn Dystion Jehofa, ond mi wnaeth o bigo arna i, er fy mod i ond yn chwe mlwydd oed. “Ti,” meddai fo, “pam wyt ti heb gael dy fedyddio?” Dywedais i mod i ond yn blentyn, ac i gael fy medyddio o’n i angen gwybod mwy am y Beibl a chael ffydd gref. Doedd o ddim yn hoffi hynny, felly mi ddywedodd o wrth fy Nhaid mod i wedi bod yn ddigywilydd.
Ond doedd hi ddim i gyd yn ddrwg. Fel arfer, mae pobl Lebanon yn gyfeillgar ac yn groesawus. Felly, cawson ni lawer o sgyrsiau pleserus am y Beibl, a chynnal nifer sylweddol o astudiaethau Beiblaidd.
PENDERFYNU SYMUD I WLAD ARALL
Tra o’n i’n dal yn yr ysgol, daeth brawd ifanc o Feneswela i Lebanon. Daeth o i’n cyfarfodydd ni a wnaeth o ddechrau canlyn fy chwaer, Wafa. Ymhen amser, wnaethon nhw briodi a symud i Feneswela. Yn ei llythyrau, wnaeth Wafa drio perswadio fy nhad i symud y teulu i gyd i Feneswela, am ei bod hi’n methu ni gymaint. Ac mi wnaeth hi lwyddo yn y pen draw!
Wnaethon ni landio yn Feneswela ym 1953, a setlo yn Caracas, yn agos i balas yr arlywydd. A finnau’n hogyn ifanc, o’n i wastad yn cyffroi i weld car crand yr arlywydd yn mynd heibio. Ond doedd hi ddim yn hawdd i
fy rhieni addasu i wlad, iaith, diwylliant, bwyd, a hinsawdd newydd. A dweud y gwir, oedden nhw jest yn dechrau cael eu traed danyn nhw pan ddigwyddodd rhywbeth ofnadwy.TRASIEDI YN TARO
Dechreuodd fy nhad deimlo’n sâl. Oedd hyn yn rhyfedd iawn i ni achos roedd o wedi bod yn berson cryf ac iach ar hyd ei oes. Oedd o byth yn sâl. Yna cafodd ei ddiagnosio â chanser y pancreas. Cafodd lawdriniaeth, ond yn drist iawn, buodd o farw yr wythnos wedyn.
Mae’n amhosib disgrifio pa mor anodd oedd hynny i ni o ystyried ein hamgylchiadau. Dim ond 13 oed oeddwn i. Oedden ni mewn sioc, oedd hi fel petai ein byd bach ni wedi ei chwalu. Am beth amser, oedd fy mam yn ei chael hi’n anodd derbyn y ffaith nad oedd ei gŵr yno bellach, ond fesul tipyn, daethon ni i weld bod rhaid i fywyd fynd yn ei flaen, a gyda help Jehofa, wnaethon ni lwyddo. Pan wnes i adael yr ysgol fawr yn Caracas yn 16 oed, o’n i wir eisiau helpu i gynnal fy nheulu.
Yn y cyfamser, wnaeth fy chwaer Sana briodi Rubén Araujo, oedd wedi graddio o Ysgol Gilead ac wedi dychwelyd i Feneswela. Gwnaethon nhw benderfynu symud i Efrog Newydd. Pan wnaeth fy nheulu benderfynu y byddwn i’n astudio yn y brifysgol, o’n i’n gallu gwneud hynny yn fanno, a chael rhywle i fyw. Roedd fy chwaer a’m brawd yng nghyfraith yn ddylanwad mawr ar fy nghynnydd ysbrydol tra o’n i’n byw efo nhw. Yn ogystal â hynny, roedd ’na lawer o frodyr aeddfed yn ein cynulleidfa Sbaeneg yn Brooklyn, gan gynnwys Milton Henschel a Frederick Franz. Oedd gen i feddwl mawr o’r ddau ohonyn nhw; roedden nhw’n gwasanaethu ym Methel Brooklyn.
Wrth i fy mlwyddyn gyntaf yn y brifysgol yn Efrog Newydd ddirwyn i ben, wnes i ddechrau cael amheuon am beth o’n i’n wneud efo fy mywyd. O’n i wedi darllen a meddwl o ddifri am erthyglau wnes i ddarllen yng nghylchgrawn y Tŵr Gwylio am Gristnogion yn cael amcanion ystyrlon. Welais i pa mor hapus oedd y rhai yn ein cynulleidfa oedd yn arloesi neu’n gweithio i’r Bethel. Oedd gen i awydd mawr bod yr un fath â nhw, ond o’n i heb gael fy medyddio eto. Cyn hir, wnes i sylweddoli’r pwysigrwydd o gysegru fy mywyd i Jehofa, felly wnes i hynny ac yn fuan wedyn wnes i gymryd y cam pwysig o gael fy medyddio ar Fawrth 30, 1957.
PENDERFYNIADAU PWYSIG
Ar ôl y penderfyniad pwysig hwnnw, wnes i feddwl am benderfyniad arall o’n i eisiau ei wneud, sef dechrau arloesi’n llawn amser. Oedd hyn yn dod yn fwy ac yn fwy deniadol imi, ond o’n i’n gallu gweld y byddai’n anodd. Sut byddwn i’n gallu astudio yn y brifysgol ac arloesi ar yr un pryd? Oedd llythyrau yn mynd yn ôl ac ymlaen rhwng Efrog Newydd a Feneswela, wrth imi geisio esbonio i fy mam a fy mrodyr a chwiorydd fy mod i wedi penderfynu
gadael y brifysgol, dychwelyd i Feneswela, a dechrau arloesi.Es i yn ôl i Caracas ym Mehefin 1957. Ond o’n i’n gallu gweld bod sefyllfa fy nheulu ddim yn dda. Oedden nhw angen rywun arall yn y teulu i ennill arian. Sut allwn i helpu? Ces i gynnig swydd mewn banc, ond o’n i wir eisiau arloesi. Wedi’r cyfan, dyna pam ddes i’n ôl yn y lle cyntaf. O’n i’n benderfynol o wneud y ddau, felly am sawl blwyddyn wnes i weithio’n llawn amser yn y banc, a wnes i wasanaethu fel arloeswr. O’n i erioed wedi bod mor brysur na mor hapus!
Ces i hyd yn oed fwy o lawenydd pan wnes i gyfarfod a phriodi Sylvia, chwaer hardd o’r Almaen oedd yn caru Jehofa’n fawr. Roedd hi wedi symud i Feneswela gyda’i rhieni. Ymhen amser, cawson ni ddau o blant, ein mab Michel (Mike), a’n merch, Samira. Wnes i hefyd ddechrau gofalu am fy mam. Daeth hi i fyw gyda ni, ac er oedd rhaid imi orffen fy ngwasanaeth fel arloeswr i ofalu am fy nheulu, wnes i gadw’r ysbryd arloesi. Wnaeth Sylvia a minnau arloesi’n gynorthwyol bryd bynnag oedden ni’n gallu yn ystod y gwyliau.
PENDERFYNIAD PWYSIG ARALL
Oedd y plant yn dal yn yr ysgol pan ges i’r profiad soniais i amdano ar ddechrau’r erthygl. Mae’n rhaid imi gyfaddef, oedd fy mywyd yn eithaf cyfforddus, ac roedd y bobl oedd yn gweithio yn y banciau yn fy mharchu. Ond eto, oedd hi’n well gen i petaswn i’n cael fy nabod fel un o weision Jehofa. O’n i’n methu stopio meddwl am hynny. Felly dyma fy ngwraig a minnau yn eistedd i lawr efo’n gilydd a thrafod ein sefyllfa ariannol. Petaswn i’n gorffen fy ngwaith yn y banc, byddwn i’n derbyn taliad sylweddol, a gan nad oedd gynnon ni ddyledion, ddaru ni sylweddoli petasen ni’n symleiddio ein bywyd, byddai digon o arian i gadw ni i fynd am sbel go hir.
Doedd hi ddim yn hawdd gwneud y penderfyniad hwnnw, ond wnaeth fy ngwraig annwyl a fy mam ei gefnogi’n llwyr. Felly unwaith eto o’n i’n mynd i arloesi. O’n i’n hapus tu hwnt! O’n i jest yn barod i ddechrau arloesi, ond wedyn cawson ni newyddion annisgwyl.
SYRPRÉIS NEIS
Un diwrnod, er syndod mawr i’r ddau ohonon ni, dywedodd y doctor bod Sylvia’n feichiog. Oedd hynny’n achos llawenydd mawr! Ond eto, o’n i’n meddwl am fy mhenderfyniad i ddod yn arloeswr. A fyddai hynny’n dal yn bosib? Yn fuan, ddaru ni addasu yn feddyliol ac yn emosiynol, a dechrau edrych ymlaen at gael aelod arall o’r
teulu. Ond beth am fy nghynlluniau gofalus i arloesi?Ar ôl trafod beth i’w wneud, ddaru ni benderfynu cadw at y cynllun gwreiddiol. Cafodd ein mab Gabriel ei eni ym mis Ebrill 1985. Ond er hynny, wnes i adael y banc a dechrau arloesi’n llawn amser eto ym Mehefin 1985. Ymhen amser, ces i’r fraint o weithio ar Bwyllgor y Gangen. Ond doedd y gangen ddim yn Caracas, felly oedd rhaid imi deithio tua 50 milltir (80 km) ddau neu dri diwrnod yr wythnos.
SYMUD ETO
Roedd swyddfa’r gangen yn nhref La Victoria, felly wnaethon ni benderfynu fel teulu i symud yno er mwyn bod yn nes at y Bethel. Oedd hynny’n gam mawr inni. Dw i’n edmygu fy nheulu yn fawr iawn, ac alla i ddim diolch digon iddyn nhw. Roedd eu hagwedd yn help mawr. Oedd fy chwaer Baha yn fodlon gofalu am Mam. Oedd Mike wedi priodi, ond roedd Samira a Gabriel yn dal i fyw adref. Felly, roedd symud i La Victoria yn golygu eu bod nhw’n gadael eu ffrindiau yn Caracas. Hefyd, roedd Sylvia annwyl yn gorfod addasu i fyw mewn tref fach yn lle prifddinas brysur. Ac roedd pob un ohonon ni’n gorfod dod i arfer i fyw mewn tŷ llai. Roedd ’na lawer ynghlwm wrth symud o Caracas i La Victoria.
Ond, newidiodd pethau eto. Priododd Gabriel, a symudodd Samira i fyw ar ei phen ei hun. Yna, ces i a Sylvia ein gwahodd i ymuno â’r teulu Bethel yn 2007, braint ’dyn ni’n ei mwynhau hyd heddiw. Mae Mike, ein mab hynaf, yn gwasanaethu fel henuriad ac yn gallu arloesi gyda’i wraig Monica. Mae Gabriel yn henuriad hefyd, ac mae’n gwasanaethu yn yr Eidal gyda’i wraig, Ambra. Ac mae Samira, yn ogystal ag arloesi, yn gweithio i’r Bethel o bell.
BYDDWN I’N GWNEUD YR UN PENDERFYNIADAU ETO
Do, dw i wedi cael bywyd llawn penderfyniadau mawr. Ond dw i ddim yn difaru’r un ohonyn nhw. Byddwn i’n gwneud yr un penderfyniadau eto. Dw i’n gwerthfawrogi’n fawr y llu o aseiniadau a breintiau dw i wedi eu cael wrth wasanaethu Jehofa. Dros y blynyddoedd, dw i wedi dod i ddeall pa mor bwysig ydy hi i gadw cyfeillgarwch cryf â Jehofa. P’un a ydy’r penderfyniadau ’dyn ni angen eu gwneud yn fawr neu’n fach, gall Duw roi’r heddwch “sydd tu hwnt i bob dychymyg.” (Phil. 4:6, 7) Mae Sylvia a minnau yn mwynhau gwasanaethu yn y Bethel, a ’dyn ni’n teimlo bod Jehofa wedi bendithio ein penderfyniadau oherwydd ’dyn ni wastad wedi ei roi o yn gyntaf yn ein bywydau.