Cyrhaeddodd Hulda Ei Nod
MAE tair o’n chwiorydd yn byw ar ynys fach yn Indonesia o’r enw Sangir Besar. Maen nhw’n adnabyddus ar yr ynys am eu gweinidogaeth—yn helpu pobl i ddeall y Beibl. Ond rai blynyddoedd yn ôl, roedden nhw’n gweithio gyda’i gilydd ar y traeth yn gwneud rhywbeth hollol wahanol.
Yn gyntaf, roedden nhw’n cerdded i mewn i’r dŵr, yn dod o hyd i gerrig trwm, ac yna yn eu cario nhw’n ôl i’r traeth. Roedd rhai o’r cerrig yr un maint â phêl-droed. Nesaf, roedd pob chwaer yn eistedd ar stôl fach ac yn defnyddio morthwyl i dorri’r cerrig yn ddarnau a oedd yn llai nag wy iâr. Ar ôl hynny, rhoddon nhw’r cerrig mewn bwcedi plastig a’u cario nhw i fyny’r grisiau i’w cartref. Yna, roedd y cerrig yn cael eu rhoi mewn bagiau mawr a oedd yn cael eu llwytho ar gefn lorïau i’w cael eu defnyddio i adeiladu lonydd.
Enw un o’r chwiorydd hyn oedd Hulda. Roedd ei hamgylchiadau yn ei galluogi hi i dreulio fwy o amser yn gwneud y gwaith hwn. Fel arfer, roedd hi’n defnyddio’r arian roedd hi’n ei ennill i dalu am anghenion y teulu. Ond nawr, roedd hi eisiau hel arian am reswm ychwanegol. Roedd hi eisiau prynu tabled electronig er mwyn defnyddio’r ap JW Library®. Roedd Hulda’n gwybod byddai’r fideos a’r deunydd ychwanegol sydd ar yr ap yn ei helpu hi yn y weinidogaeth ac yn ei helpu i ddeall y Beibl yn well.
Gwnaeth Hulda weithio dwy awr bob bore am ddau fis a hanner, yn torri digon o gerrig i lenwi lorri fach. O’r diwedd, roedd ganddi ddigon o arian i brynu tabled.
“Er fy mod wedi blino’n lan ar ôl torri cerrig,” dywedodd Hulda, “gwnes i anghofio’r poen pan ddechreuais ddefnyddio’r tabled i fod yn fwy effeithiol yn y weinidogaeth ac i baratoi ar gyfer y cyfarfodydd. Ychwanegodd fod y tabled wedi ei helpu hi yn ystod y pandemig oherwydd bod holl weithgareddau’r gynulleidfa wedi cael eu cynnal ar lein. Rydyn ni mor hapus bod Hulda wedi cyrraedd ei nod.