HANES BYWYD
Rydw i’n Teimlo’n Ddiogel Gan Fy Mod i’n Trystio yn Jehofa
PAN mae pobl yn gofyn imi am fy mywyd, rydw i’n ateb trwy ddweud, “Rydw i fel siwtces yn nwylo Jehofa!” Mae fy siwtces i yn mynd ble bynnag rydw i eisiau ei gymryd, ac rydw i eisiau i Jehofa a’i gyfundrefn gwneud yr un peth gyda fi—fy arwain i unrhyw le ar unrhyw adeg. Rydw i wedi derbyn aseiniadau sydd wedi bod yn anodd ac, ar adegau, yn beryglus. Ond rydw i wedi dysgu pan ydw i’n trystio yn Jehofa, fydda i yn ddiogel.
DECHRAU TRYSTIO YN JEHOFA
Cefais fy ngeni ym 1948 mewn pentref bach yn ne-orllewin Nigeria. Yn ystod yr amser hwnnw, cafodd fy ewythr Moustapha, sef brawd iau fy nhad, ac yna Wahabi, sef fy mrawd hynaf, eu bedyddio fel Tystion Jehofa. Pan oeddwn i’n naw oed, gwnaeth fy nhad farw. Roeddwn i wedi torri fy nghalon. Dywedodd Wahabi y bydden ni’n gallu gweld dad unwaith eto yn yr atgyfodiad. Gwnaeth hynny fy ysgogi i astudio’r Beibl. Cefais fy medyddio ym 1963. Hefyd, cafodd fy nhri brawd eu bedyddio.
Ym 1965, gwnes i ymuno a fy mrawd hŷn Wilson yn Lagos, a gwnes i fwynhau treulio amser gyda’r arloeswyr llawn amser yng nghynulleidfa Igbobi. Gwnaeth eu sêl a’u llawenydd greu argraff fawr arna i, ac ym mis Ionawr 1968 gwnes i hefyd ddechrau arloesi.
Gwnaeth brawd a oedd yn gwasanaethu yn y Bethel, o’r enw Albert Olugbebi, drefnu cyfarfod arbennig gyda’r rhai ifanc er mwyn trafod yr angen ar gyfer arloeswyr arbennig yng ngogledd Nigeria. Rydw i’n dal yn cofio geiriau brwdfrydig y Brawd Olugbebi: “Rydych chi’n ifanc ac rydych chi’n gallu defnyddio eich amser a’ch egni ar gyfer Jehofa. Mae ’na gymaint o waith ichi ei wneud!” Roeddwn i eisiau bod yn union fel y proffwyd Eseia a mynd ble bynnag oedd Jehofa eisiau imi fynd. Felly, llenwais Esei. 6:8.
gais i wasanaethu fel arloeswr arbennig.—Ym mis Mai 1968, cefais fy aseinio fel arloeswr arbennig i’r ddinas Kano yng ngogledd Nigeria. Digwyddodd hyn yn ystod rhyfel Biaffra, a pharhaodd rhwng 1967 a 1970. Roedd yr ymladd wedi achosi cymaint o ddioddefaint a marwolaeth yng ngogledd Nigeria, ac yna symudodd i ddwyrain Nigeria. Ceisiodd brawd fy mherswadio i i beidio â mynd i ogledd Nigeria oherwydd doedd ef ddim eisiau imi gael fy mrifo. Ond, dywedais wrtho: “Diolch am dy gonsýrn. Ond os ydy Jehofa eisiau imi ei wasanaethu yn yr aseiniad yma, dw i’n siŵr y bydd yn fy helpu i.”
TRYSTIO YN JEHOFA MEWN ARDAL A OEDD WEDI EI DIFETHA GAN RYFEL
Peth trist iawn oedd gweld beth oedd wedi digwydd yn ystod y rhyfel yn Kano. Roedd y rhyfel cartref wedi difetha llawer o’r ddinas. Weithiau, pan oedden ni ar y weinidogaeth, roedden ni’n gweld cyrff pobl a oedd wedi cael eu lladd yn ystod y rhyfel. Er bod llawer o gynulleidfaoedd wedi bod yn Kano, roedd y rhan fwyaf o’r brodyr wedi ffoi. Dim ond rhyw 15 oedd ar ôl ac roedden nhw’n teimlo’n ofnus ac angen cael eu calonogi. Roedd y brodyr a chwiorydd hyn wrth eu boddau pan wnaeth y chwech ohonon ni arloeswyr arbennig gyrraedd yno. Gwnaeth y cyhoeddwyr ymateb yn dda i’n hanogaeth. Gwnaethon ni eu helpu nhw i drefnu cyfarfodydd a gweinidogaeth yn ogystal ag anfon adroddiadau i’r gangen ac archebu llenyddiaeth.
Dechreuon ni arloeswyr arbennig ddysgu’r iaith Hawseg. Wrth glywed y newyddion da yn eu hiaith nhw eu hunain, roedd y bobl leol yn gwrando arnon ni. Ond, doedd aelodau’r brif grefydd yn yr ardal ddim yn hoff iawn ohonon ni’n pregethu. Felly, roedd rhaid inni fod yn ofalus. Ar un achlysur, gwnaeth dyn redeg ar ôl brawd a minnau gyda chyllell yn ei law. Ond, rhedon ni’n gyflymach nag ef ac nad oedd yn gallu ein dal ni. Er bod pethau yn hynod o beryglus yno, roedd Jehofa yn ein cadw ni’n saff, a dechreuodd nifer y cyhoeddwyr dyfu. (Salm 4:8) Heddiw, mae dros 500 o gyhoeddwyr yn gwasanaethu mewn 11 o gynulleidfaoedd yn Kano.
GWRTHWYNEBIAD YN NIGER
Yn hwyrach ymlaen yn Awst 1968, ar ôl aros yn Kano am rai misoedd, cefais fy anfon i Niamey, prif ddinas Gweriniaeth Niger, gyda dau arloeswr arbennig arall. Yn ddigon sydyn, gwnaethon ni ddod i wybod bod Niger, yng ngorllewin Affrica, yn un o’r llefydd mwyaf poeth ar y ddaear. Yn ogystal â delio gyda’r gwres, roedd rhaid inni hefyd ddysgu’r iaith swyddogol, sef Ffrangeg. Er gwaethaf yr heriau hynny, gwnaethon ni drystio yn Jehofa a dechrau pregethu yn y brifddinas ochr yn ochr â’r ychydig o gyhoeddwyr a oedd yn byw yno. O fewn ychydig o amser, roedd bron iawn pawb yn Niamey a oedd yn gallu darllen, wedi derbyn copi o’r llyfr the The Truth That Leads to Eternal Life. Roedd pobl hyd yn oed yn dod i chwilio amdanon ni er mwyn derbyn copi o’r llyfr!
Yn ddigon sydyn, gwnaethon ni ddod i ddeall nad oedd yr awdurdodau yn hoffi Tystion Jehofa. Ym mis Gorffennaf 1969 gwnaethon ni i gyd fynd i gynulliad cylchdaith cyntaf yn y wlad gyda 20 yn mynychu. Roedden ni’n edrych ymlaen at fedyddio dau gyhoeddwr newydd. Ond, ar ddiwrnod cyntaf y cynulliad, gwnaeth yr heddlu dod a stopio’r rhaglen. Gwnaethon nhw fynd â’r arloeswyr arbennig a’r arolygwr cylchdaith i swyddfa’r heddlu. Ar ôl iddyn nhw ein holi ni, dywedon nhw wrthon ni i fynd yn ôl y diwrnod wedyn. Roedden ni’n gwybod y byddai’r awdurdodau yn gallu creu helynt, felly gwnaethon ni drefnu anerchiad bedydd yn nhŷ rhywun ac yna bedyddio’r cyhoeddwyr yn ddistaw bach mewn afon.
Ychydig o wythnosau wedyn, dywedodd y llywodraeth wrtho i a phum arloeswr arbennig arall i adael Niger. Dim ond 48 awr oedd gynnon ni i adael, ac roedd rhaid inni wneud trefniadau ni ein hunain. Gwnaethon ni wrando a mynd yn syth i swyddfa’r gangen yn Nigeria, lle gwnaethon ni dderbyn aseiniadau newydd.
Cefais fy aseinio i bentref Orisunbare, yn Nigeria, lle gwnes i fwynhau pregethau a chynnal astudiaethau Beiblaidd gyda’r grŵp bach o gyhoeddwyr a oedd yn byw yno. Ond ar ôl chwe mis, gwnaeth swyddfa’r gangen fy ngwahodd yn ôl i Niger ar fy mhen fy hun. Ar y cychwyn, roeddwn i mewn sioc ac yn nerfus, ond yna roeddwn ni’n edrych ymlaen at gyfarfod y brodyr yn Niger unwaith eto!
Gwnes i fynd yn ôl i Niamey. Y diwrnod ar ôl imi gyrraedd, gwnaeth dyn busnes o Nigeria sylweddoli fy mod i’n Dyst a dechreuodd ofyn cwestiynau imi am y Beibl. Gwnaethon ni astudio gyda’n gilydd, ac ar ôl iddo stopio ysmygu a goryfed, gafodd ei fedyddio. Roeddwn i’n hapus i bregethu gyda brodyr a chwiorydd yn rhannau gwahanol o Niger a gweld sut roedd pobl dros y blynyddoedd yn derbyn y gwir yno. Pan wnes i gyrraedd, roedd ’na 31 o Dystion yn y wlad, a phan wnes i adael roedd ’na 69.
“DYDYN NI DDIM YN GWYBOD LLAWER AM Y GWAITH PREGETHU YN GINI”
Ym mis Rhagfyr 1977, es yn ôl i Nigeria i gael hyfforddiant. Ar ddiwedd y cwrs tair wythnos, gofynnodd cydlynydd Pwyllgor y Gangen, Malcolm Vigo, imi ddarllen llythyr o’r gangen Sierra Leone. Roedd y brodyr yn chwilio am arloeswr iach a sengl a oedd yn siarad Saesneg a Ffrangeg er mwyn bod yn arolygwr cylchdaith yn Gini. Dywedodd y Brawd Vigo wrtho i fy mod i’n cael hyfforddiant am yr aseiniad. Pwysleisiodd nad oedd am fod yn aseiniad hawdd a chefais y cyngor hwn ganddo: “Meddylia am y peth cyn i ti dderbyn.” Dywedais ar unwaith: “Gan mai Jehofa sydd wedi fy anfon i, rydw i am fynd.”
Gwnes i hedfan i Sierra Leone i gyfarfod â’r brodyr yn swyddfa’r gangen. Dywedodd un aelod o bwyllgor y gangen wrtho i, “Dydyn ni ddim yn gwybod llawer am y gwaith pregethu yn Gini.” Er bod y gangen yn gyfrifol am y gwaith pregethu yn Gini, doedd cyfathrebu gyda’r cyhoeddwyr ddim yn bosib oherwydd y sefyllfa wleidyddol ddrwg yno. Roedden nhw wedi ceisio sawl gwaith i anfon brawd i ymweld â’r brodyr yn Gini, ond roedden nhw wedi methu. Yna, gwnaethon nhw ofyn imi deithio i brifddinas Gini, Conakry, i gael caniatâd gan y llywodraeth imi fyw yno.
“Gan mai Jehofa sydd wedi fy anfon i, rydw i am fynd”
Pan wnes i gyrraedd Conakry, es i i lysgenhadaeth Nigeria a chwrdd â’r llysgennad. Dywedais wrtho am fy awydd i bregethu yn Gini. Gwnaeth fy annog i beidio ag aros gan fy mod i’n gallu cael fy arestio neu fy mrifo. Dywedodd wrtho i, “Dos yn ôl i Nigeria a phregethu yno.” Ond dywedais wrtho, “Rydw i’n benderfynol o aros.” Felly, ysgrifennais lythyr yn gofyn i weinidog cartref Gini fy helpu, a dyna’n union a wnaeth ef.
Yn fuan ar ôl hynny, gwnes i fynd yn ôl i swyddfa gangen Sierra Leone a dweud wrth y brodyr am benderfyniad y gweinidog. Roedd y brodyr mor hapus i glywed sut roedd Jehofa wedi gwneud fy nhaith yn un llwyddiannus. Roedd y llywodraeth wedi gadael imi aros yn Gini!
O 1978 i 1989, gwnes i wasanaethu fel arolygwr cylchdaith yn Gini a Sierra Leone, ac fel dirprwy arolygwr cylchdaith yn Liberia. Ar y dechrau, roeddwn i’n mynd yn sâl yn aml. Roedd hyn weithiau yn digwydd mewn llefydd anghysbell. Ond, roedd y brodyr yn gwneud eu gorau glas i fynd â mi i’r ysbyty.
Ar un achlysur, gwnes i fynd yn hynod o sâl gyda malaria a llyngyr. Yn y pen draw, pan wnes i wella, clywais fod y brodyr wedi bod yn trafod lle i fy nghladdu i! Er bod fy mywyd yn y fantol, gwnes i byth meddwl i adael fy aseiniad. Hefyd, rydw i’n gwbl hyderus mai Duw ydy’r unig un sy’n gallu ein cadw ni’n wir ddiogel oherwydd petasen ni’n marw, mae ef yn gallu ein hatgyfodi.
TRYSTIO YN JEHOFA FEL CWPL
Ym 1988, gwnes i gyfarfod â Dorcas, chwaer ostyngedig ac ysbrydol a oedd yn arloesi. Ar ôl inni briodi, ymunodd Dorcas â mi yn y gwaith cylch. Mae Dorcas wedi bod yn wraig hunan-aberthol a chariadus. Rydyn ni wedi cerdded
gyda’n gilydd hyd at 15 milltir (25 km) rhwng cynulleidfaoedd gan gario ein bagiau. I gyrraedd cynulleidfaoedd oedd yn bellach i ffwrdd, gwnaethon ni ddefnyddio unrhyw fath o gludiant a oedd ar gael wrth inni deithio ar hyd ffyrdd mwdlyd a oedd yn llawn tyllau.Mae Dorcas yn ddewr iawn. Er enghraifft, ar adegau, roedd rhaid inni groesi dŵr a oedd yn llawn crocodeiliaid. Ar un siwrnai o bum diwrnod, roedd y pontydd dros afon wedi torri ac roedd rhaid inni ddefnyddio canŵs. Wrth i Dorcas sefyll i fynd allan o’r canŵ, syrthiodd i mewn i’r dŵr dwfn. Doedd yr un ohonon ni’n gallu nofio, ac roedd ’na crocodeiliaid yn yr afon. Ond, gwnaeth rhai dynion ifanc neidio i mewn a’u hachub hi. Gwnaeth y ddau ohonon ni ddioddef gyda hunllefau am ychydig ar ôl hynny, ond gwnaethon ni gario ymlaen.
Yn gynnar ym 1992, cawson ni “syrpréis” wrth ddysgu bod Dorcas yn disgwyl babi. A oedd hyn am wneud inni stopio yn ein gwasanaeth llawn amser? Meddylion ni: “Mae Jehofa wedi rhoi anrheg inni.” Felly, penderfynon ni i enw ein merch yn Jahgift. Pedair blynedd yn ddiweddarach, cafodd ein hail blentyn, Eric, ei eni. Mae’r ddau ohonyn nhw wedi bod yn anrhegion ysbrydol gan Jehofa. Gwasanaethodd Jahgift am ychydig o amser yn y swyddfa gyfieithu yn Conakry, ac mae Eric yn was y gynulleidfa.
Er bod Dorcas wedi gorfod stopio bod yn arloeswraig arbennig am gyfnod wrth fagu ein plant, gwnaeth hi barhau i fod yn arloeswraig llawn amser. Gyda help Jehofa gwnes i barhau i fod yn y gwasanaeth llawn amser arbennig. Ar ôl i’n plant dyfu i fyny, roedd Dorcas yn gallu ailddechrau yn y gwaith arloesi arbennig. Nawr, rydyn ni’n dau yn genhadon maes yn Conakry.
MAE JEHOFA YN EIN CADW NI’N DDIOGEL
Rydw i wedi mynd ble bynnag mae Jehofa wedi fy anfon i bob tro. Mae fy ngwraig a minnau wedi teimlo bendith a gofal Jehofa yn aml. Mae trystio yn Jehofa wedi ein helpu ni i osgoi llawer o’r problemau sy’n dod i’r rhai sy’n trystio ym mhethau materol. Mae Dorcas a minnau wedi dysgu o’n profiadau mai Jehofa, “Duw yr achubwr,” ydy’r un sydd yn ein cadw ni’n ddiogel. (1 Cron. 16:35) Dwi’n hyderus bydd Jehofa ein Duw yn cadw pawb sy’n trystio ynddo ef yn saff.—1 Sam. 25:29.