Mae Bywyd yn Werth ei Fyw!
MAE’R erthyglau blaenorol yn dangos sut gall gwahanol drychinebau wneud inni deimlo nad yw bywyd yn werth ei fyw. Wrth wynebu problemau personol, efallai i chi ofyn i chi’ch hun, ‘Ydy bywyd yn werth ei fyw?’ neu ‘Oes ’na unrhyw un yn poeni amdana’ i?’ Ond cofiwch fod Duw yn teimlo poen eich gofid. Rydych chi’n werthfawr yn ei olwg.
Roedd ysgrifennwr Salm 86 yn ymddiried yn Nuw: “Dw i mewn trafferthion ac yn galw arnat, am mai ti sy’n gallu fy ateb i.” (Salm 86:7) Ond efallai ichi ofyn, ‘Sut bydd Duw yn fy ateb i pan fydda’ i “mewn trafferthion ac yn galw” arno?’
Mae’n debyg na fydd Duw yn cael gwared ar eich problemau yn syth, ond er hynny, mae ei Air y Beibl yn dangos ei fod yn gallu eich helpu i ymdopi drwy roi heddwch meddwl ichi: “Peidiwch gadael i ddim byd eich poeni chi. Gweddïwch, a gofyn i Dduw am bopeth sydd arnoch ei angen, a byddwch yn ddiolchgar bob amser. Byddwch chi’n profi’r heddwch perffaith mae Duw’n ei roi—y daioni sydd tu hwnt i bob dychymyg—yn gwarchod eich calonnau a’ch meddyliau.” (Philipiaid 4:6, 7) Ystyriwch yn ofalus sut gall yr adnodau canlynol ein sicrhau fod Duw yn gofalu’n dyner amdanon ni.
Mae Duw yn Gofalu Amdanoch Chi
“Mae Duw’n gofalu am bob un aderyn bach. Dych chi’n llawer mwy gwerthfawr na haid fawr o adar y to!”—Luc 12:6, 7.
YSTYRIWCH: Er bod llawer yn ystyried adar bach y to yn ddiwerth, mae Duw yn gofalu am bob un, iddo ef mae pob un yn greadur byw sy’n werthfawr yn ei olwg. Mae pobl yn llawer mwy gwerthfawr i Dduw nac adar y to. O blith creadigaeth ddaearol Duw mae bodau dynol yn unigryw. Crëwyd nhw yn ei “ddelw” gyda’r gallu i feithrin ac efelychu ei rinweddau hyfryd.—Genesis 1:26, 27.
‘O ARGLWYDD, rwyt ti’n fy archwilio i, ac yn gwybod popeth amdana i. Ti’n gwybod beth sydd ar fy meddwl. Archwilia fi, O Dduw, a deall fel dw i’n poeni.’—Salm 139:1, 2, 23.
YSTYRIWCH: Mae Duw yn eich deall i’r dim—eich teimladau a’ch pryderon mwyaf dirgel. Efallai na fydd eraill yn deall y boen yn eich calon, ond mae Duw yn eich caru ac eisiau eich helpu. Mae hynny’n gwneud bywyd yn werth ei fyw!
Mae ’na Ystyr i’ch Bywyd
“O ARGLWYDD, clyw fy ngweddi; gwrando arna i’n gweiddi am help. . . . Gwranda arna i! Rho ateb buan i mi pan dw i’n galw. . . . Mae e’n gwrando ar weddi y rhai sydd mewn angen.”—Salm 102:1, 2, 17.
YSTYRIWCH: Mae Jehofa wedi sylwi ar bob deigryn ers cychwyn dioddefaint dynolryw. (Salm 56:8) Mae hyn yn cynnwys eich dagrau chi. Mae Duw yn cofio eich holl dreialon a phob un o’ch dagrau am eich bod chi’n werthfawr iddo.
“Paid bod ag ofn, achos dw i gyda ti. Paid dychryn—fi ydy dy Dduw di! Dw i’n dy nerthu di ac yn dy helpu di . . . Fi, yr ARGLWYDD, ydy dy Dduw di, . . . yn dweud wrthot ti: ‘Paid bod ag ofn. Bydda i’n dy helpu di.’”—Eseia 41:10, 13.
YSTYRIWCH: Mae Duw yn barod i’ch helpu chi. Os byddwch yn syrthio, bydd Duw yn eich codi chi.
Mae ’na Obaith am Ddyfodol Gwell
“Mae Duw wedi caru’r byd cymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bwy bynnag sy’n credu ynddo beidio mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol.”—Ioan 3:16.
YSTYRIWCH: Mae Duw yn eich caru chi i’r fath raddau fel yr oedd yn fodlon rhoi ei Fab, Iesu, yn aberth drosoch chi. Mae’r aberth hwn yn rhoi’r gobaith ichi o fyw bywyd hapus llawn pwrpas am byth. *
Os ydych chi’n wynebu cyfnod cythryblus ac yn teimlo nad yw bywyd yn werth ei fyw, astudiwch Air Duw yn ofalus a meithrin ffydd yn y dyfodol y mae Duw yn ei addo. Yna cewch hapusrwydd a sicrhad fod bywyd yn werth ei fyw.
^ I ddysgu mwy am sut gallwch chi elwa ar aberth Iesu, gwyliwch y fideo Cofio Marwolaeth Iesu ar www.mr1310.com/cy. Edrychwch o dan AMDANON NI > COFFADWRIAETH.