Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

“Deled Dy Deyrnas”—Gweddi y Mae Miliynau yn ei Hadrodd

“Deled Dy Deyrnas”—Gweddi y Mae Miliynau yn ei Hadrodd

Ydych chi erioed wedi gweddïo am i Deyrnas Dduw ddod? Dros y canrifoedd mae miliynau wedi dweud y geiriau “deled dy Deyrnas.” Pam mae pobl yn adrodd y geiriau hyn? Y rheswm yw bod Iesu wedi gofyn i’w ddilynwyr weddïo am ddyfodiad Teyrnas Dduw.

Ar y dechrau, nid oedd dilynwyr Iesu yn deall popeth a ddywedodd am y Deyrnas. Un tro, gofynnon nhw: “Arglwydd, ai dyma’r adeg rwyt ti’n mynd i adfer y deyrnas i Israel?” (Actau 1:6, 7) A yw hynny’n golygu nad oes modd inni wybod beth yw Teyrnas Dduw a phryd y daw? Dim o gwbl!

Yn y rhifyn hwn o’r Tŵr Gwylio cewch atebion i’r cwestiynau canlynol:

  • Pam mae angen Teyrnas Dduw?

  • Pwy yw Brenin Teyrnas Dduw?

  • Pryd daw Teyrnas Dduw i reoli’r ddaear?

  • Beth bydd Teyrnas Dduw yn ei gyflawni?

  • Pam dylen ni ddewis cefnogi Teyrnas Dduw nawr?

  • Beth yw Teyrnas Dduw?