Pwy Yw Brenin Teyrnas Dduw?
Trefnodd Duw i fanylion am yr Un a fyddai’n Frenin ar Deyrnas Dduw gael ei gofnodi yn y Beibl. Byddai’r Brenin hwn yn
-
Cael ei ddewis gan Dduw. “Dw i wedi gosod fy mrenin . . . Cei etifeddu’r cenhedloedd. Bydd dy ystad di yn ymestyn i ben draw’r byd.”—Salm 2:6, 8.
-
Un o ddisgynyddion y Brenin Dafydd. “Mae plentyn wedi cael ei eni i ni; mab wedi cael ei roi i ni. . . Fydd ei lywodraeth ddim yn stopio tyfu, a bydd yn dod â llwyddiant di-ben-draw i orsedd Dafydd a’i deyrnas. Bydd yn ei sefydlu a’i chryfhau.”—Eseia 9:6, 7.
-
Cael ei eni ym Methlehem. “Bethlehem . . . , ohonot ti y daw un fydd yn teyrnasu . . . Bydd e’n cael ei anrhydeddu gan bawb i ben draw’r byd.”—Micha 5:2, 4.
-
Cael ei wrthod a’i ladd. “Cafodd ei ddirmygu, a wnaethon ni mo’i werthfawrogi. . . . Cafodd ei anafu am ein bod ni wedi gwrthryfela, cafodd ei sathru am ein bod ni ar fai.”—Eseia 53:3, 5.
-
Cael ei atgyfodi a’i ogoneddu. “Fyddi di ddim yn fy ngadael i yn y Bedd. Fyddi di ddim yn caniatáu i dy un ffyddlon weld y pydew . . . Mae ’na hapusrwydd wrth dy law dde am byth.”—Salm 16:10, 11, Cyfieithiad y Byd Newydd.
Iesu Grist Sydd â’r Cymwysterau Perffaith
Yn holl hanes y ddynoliaeth, dim ond un sydd wedi ateb y disgrifiad manwl hwn, a hwnnw yw Iesu Grist. Yn wir, dywedodd angel wrth Mair, mam Iesu: “Bydd Jehofa Dduw yn rhoi iddo orsedd Dafydd ei dad, . . . a fydd ’na ddim terfyn ar ei Deyrnas.”—Luc 1:31-33.
Nid oedd Iesu erioed yn frenin ar y ddaear. Fe fydd yn llywodraethu o’r nefoedd yn Frenin ar Deyrnas Dduw. Pam mai Iesu yw’r dewis perffaith i fod yn frenin? Ystyriwch beth a wnaeth Iesu tra ei fod ar y ddaear.
-
Mathew 9:36; Marc 10:16) Pan ddywedodd dyn gwahanglwyfus wrtho: “Os wyt ti eisiau, gelli di fy ngweund i’n lân,” tosturiodd Iesu wrtho a’i iacháu.—Marc 1:40-42.
Roedd Iesu’n gofalu am bobl. Roedd Iesu yn helpu dynion a merched, yr hen a’r ifanc, ni waeth beth oedd eu cefndir neu eu safle mewn bywyd. ( -
Dangosodd Iesu sut y gallwn blesio Duw. Dywedodd: “Ni allwch chi wasanaethu Duw a Chyfoeth.” Dywedodd hefyd y dylen ni drin pobl eraill fel yr hoffen ni gael ein trin. Ar ben hynny, dangosodd fod gan Dduw ddiddordeb, nid yn unig yn ein gweithredoedd, ond hefyd yn ein meddyliau a’n teimladau. Felly i blesio Duw, mae angen inni reoli’r hyn sydd yn ein calonnau. (Mathew 5:28; 6:24; 7:12) Os ydyn ni eisiau bod yn hapus, dywedodd Iesu fod angen inni ddysgu beth sy’n plesio Duw a’i wneud.—Luc 11:28.
-
Dangosodd Iesu sut i garu pobl eraill. Roedd geiriau a gweithredoedd Iesu yn rymus. Fe wnaethon nhw gyffwrdd â chalonnau ei wrandawyr. “Roedd y tyrfaoedd wedi rhyfeddu at ei ffordd o ddysgu, oherwydd ei fod yn eu dysgu fel rhywun ag awdurdod ganddo.” (Mathew 7:28, 29) Dywedodd wrthyn nhw: “Parhewch i garu eich gelynion.” Gweddïodd hyd yn oed dros rai oedd yn gyfrifol am ei ladd: “Dad, maddau iddyn nhw, oherwydd dydyn nhw ddim yn gwybod beth maen nhw’n ei wneud.”—Mathew 5:44; Luc 23:34.
Mae gan Iesu’r cymwysterau perffaith i reoli’r byd yn effeithiol mewn modd caredig. Ond pryd mae Iesu yn dechrau teyrnasu?