Proffwydoliaeth 6. Gwaith Pregethu Byd-Eang
Proffwydoliaeth 6. Gwaith Pregethu Byd-Eang
“Bydd y newyddion da am deyrnasiad Duw yn cael ei gyhoeddi drwy’r byd i gyd.”—MATHEW 24:14.
● Mae Vaiatea yn byw ar un o Ynysoedd Twamotw, ynysoedd anghysbell yn y Môr Tawel. Er bod Twamotw yn cynnwys bron i 80 o ynysoedd wedi eu gwasgaru dros ardal o dros 310,000 milltir sgwâr (802,900 km sgwâr), dim ond tua 16,000 o bobl sy’n byw yno. Eto, mae Tystion Jehofa wedi galw ar Vaiatea a’i chymdogion. Pam? Oherwydd bod y Tystion eisiau rhannu’r newyddion da am Deyrnas Dduw gyda phawb—ni waeth lle maen nhw’n byw.
BETH MAE’R FFEITHIAU YN EI DDANGOS? Mae neges y Deyrnas yn cyrraedd pedwar ban y byd. Yn 2010 yn unig, treuliodd Tystion Jehofa dros 1.6 biliwn awr yn pregethu’r newyddion da mewn 236 o wledydd. Ar gyfartaledd, mae hynny’n 30 munud o waith pregethu bob diwrnod gan bob un o Dystion Jehofa. Dros y degawd diwethaf, maen nhw wedi cynhyrchu a dosbarthu mwy nag 20 biliwn darn o lenyddiaeth Feiblaidd.
BETH MAE POBL YN EI DDWEUD? Mae neges y Beibl wedi cael ei phregethu ers miloedd o flynyddoedd.
YDY HYNNY’N WIR? Mae’n wir fod llawer wedi pregethu rhywbeth am neges y Beibl. Ond, mae’r rhan fwyaf ond wedi gwneud hynny am amser byr ac ar raddfa lai. Yn wahanol i hyn, mae Tystion Jehofa yn pregethu ledled y byd i gannoedd o filiynau o bobl. Mae’r Tystion wedi dal ati yn eu gwaith pregethu er gwaethaf gwrthwynebiad cryf rhai o’r llywodraethau a chyfundrefnau mwyaf grymus a chreulon a fuodd erioed. * (Marc 13:13) Hefyd, dydy Tystion Jehofa ddim yn cael eu talu i bregethu. Yn hytrach, maen nhw’n gwirfoddoli eu hamser, ac yn cynnig eu llenyddiaeth am ddim. Mae eu gwaith yn cael ei gefnogi’n gyfan gwbl gan gyfraniadau gwirfoddol.
BETH RYDYCH CHI’N EI FEDDWL? Ydy’r “newyddion da am deyrnasiad Duw” yn cael ei bregethu’n fyd-eang? A allai cyflawniad y broffwydoliaeth hon olygu bod rhywbeth gwell ar y gorwel?
[Troednodyn]
^ Par. 6 Am fwy o wybodaeth, gweler y tair rhaglen ffeithiol “Faithful Under Trials,” “Purple Triangles,” a “Jehovah’s Witnesses Stand Firm Against Nazi Assault,” sy’n cael eu dosbarthu gan Dystion Jehofa.
[Broliant]
“Cyhyd â bod Jehofa yn caniatáu, wnawn ni barhau i bregethu’r newyddion da gyda sêl, gan ddefnyddio pob modd posib i gyrraedd pobl.”—BLWYDDLYFR TYSTION JEHOFA 2010.