Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Aros yn Niwtral Mewn Byd Rhanedig

Aros yn Niwtral Mewn Byd Rhanedig

“Talwch felly bethau . . . Duw i Dduw.”—MATHEW 22:21.

CANEUON: 33, 137

1. Sut gallwn ni fod yn ufudd i Dduw a llywodraethau dynol?

MAE’R Beibl yn ein dysgu i fod yn ufudd i lywodraethau dynol, ond mae hefyd yn dweud y dylen ni fod yn ufudd i Dduw drwy’r amser. (Actau 5:29; Titus 3:1) Sut mae hyn yn bosibl? Rhoddodd Iesu egwyddor sy’n esbonio hyn. Dywedodd y dylen ni roi pethau “Cesar i Gesar, a phethau Duw i Dduw.” [1] (Gweler yr ôl-nodyn.) (Mathew 22:21) Rydyn ni’n rhoi pethau “Cesar i Gesar” drwy ufuddhau i gyfreithiau’r llywodraeth, drwy barchu swyddogion y llywodraeth, a thrwy dalu ein trethi. (Rhufeiniaid 13:7) Ond, pan fo’r llywodraeth yn gofyn inni wneud rhywbeth sy’n mynd yn groes i ewyllys Duw, rydyn ni’n gwrthod mewn ffordd barchus.

2. Sut rydyn ni’n dangos nad ydyn ni’n cymryd ochr yng ngwleidyddiaeth y byd?

2 Un ffordd o dalu pethau “Duw i Dduw” yw drwy beidio â chymryd ochr mewn dadleuon gwleidyddol. Rydyn ni’n niwtral yn hyn o beth. (Eseia 2:4) Gan fod Jehofa yn caniatáu i lywodraethau dynol reoli, nid ydyn ni’n eu gwrthwynebu. Hefyd, nid ydyn ni’n cymryd rhan mewn gweithgareddau gwladgarol na chenedlaetholgar. (Rhufeiniaid 13:1, 2) Nid ydyn ni’n ceisio newid llywodraethau na dylanwadu ar wleidyddion, a dydyn ni’n ddim yn pleidleisio mewn etholiadau gwleidyddol, na mynd yn wleidyddion ychwaith.

3. Pam dylen ni aros yn niwtral?

3 Mae Duw yn gofyn inni fod yn niwtral am sawl rheswm. Un rheswm yw ein bod ni’n efelychu Iesu, ac nid oedd ef yn “perthyn i’r byd.” Nid oedd Iesu byth yn cymryd ochr mewn gwleidyddiaeth nac mewn rhyfeloedd. (Ioan 6:15; 17:16) Rheswm arall yw ein bod ni’n cefnogi Teyrnas Dduw. Oherwydd nad ydyn ni’n cefnogi llywodraethau dynol, nid ydyn ni’n rhagrithio wrth gyhoeddi mai dim ond Teyrnas Dduw sy’n gallu datrys problemau dynolryw. Mae gau grefyddau yn cymryd ochr mewn gwleidyddiaeth, ac mae hyn yn gwahanu pobl. Ond oherwydd ein bod ni’n niwtral, rydyn ninnau a’n brodyr o gwmpas y byd yn unedig.—1 Pedr 2:17.

4. (a) Sut rydyn ni’n gwybod y bydd hi’n dod yn fwy anodd i aros yn niwtral? (b) Pam dylen ni ein paratoi ein hunain nawr i aros yn niwtral?

4 Efallai rydyn ni’n byw mewn gwlad lle nad yw pobl yn disgwyl inni gefnogi pleidiau gwleidyddol. Ond wrth i ddiwedd system Satan agosáu, bydd hi’n anoddach inni aros yn niwtral. Mae pobl heddiw eisoes yn ddigymod ac yn llawn balchder, a byddan nhw’n dod yn fwy rhanedig. (2 Timotheus 3:3, 4) Mewn rhai gwledydd, mae newidiadau gwleidyddol sy’n gallu digwydd dros nos eisoes wedi effeithio ar ein brodyr. Dyna pam mae angen inni baratoi nawr i aros yn niwtral hyd yn oed o dan amgylchiadau anodd. Gad inni drafod pedair ffordd o wneud hyn.

MEITHRIN YR UN SAFBWYNT Â JEHOFA YNGLŶN Â LLYWODRAETHAU DYNOL

5. Beth yw barn Jehofa ynglŷn â llywodraethau dynol?

5 Y ffordd gyntaf o baratoi i aros yn niwtral heddiw yw meithrin yr un agwedd â Jehofa ynglŷn â llywodraethau dynol. Pan greodd Jehofa ddynolryw, nid oedd yn rhoi’r hawl iddyn nhw reoli dros fodau dynol eraill. (Jeremeia 10:23) Mae’n ystyried pawb yn un teulu. Ond mae cenedlaetholdeb llywodraethau dynol wedi gwahanu pobl. Ni all hyd yn oed llywodraethau sy’n ymddangos yn dda ddatrys pob problem. Hefyd, maen nhw wedi dod yn elynion i Deyrnas Dduw a sefydlwyd ym 1914. Yn fuan iawn, bydd y Deyrnas hon yn cael gwared ar bob llywodraeth ddynol.—Darllen Salm 2:2, 7-9.

Paratoa nawr i aros yn niwtral hyd yn oed mewn sefyllfa anodd

6. Sut dylen ni drin y rhai sydd ag awdurdod yn y llywodraeth?

6 Mae Duw yn caniatáu i lywodraethau dynol fodoli oherwydd eu bod nhw’n cadw rhywfaint o heddwch a threfn. Mae hyn yn caniatáu inni bregethu’r newyddion da. (Rhufeiniaid 13:3, 4) Mae Duw yn gofyn inni weddïo dros y rhai mewn awdurdod er mwyn inni fedru ei addoli mewn heddwch. (1 Timotheus 2:1, 2) Pan ydyn ni’n cael ein trin yn annheg, gallwn ofyn i swyddogion y llywodraeth am help. Dyna beth wnaeth Paul. (Actau 25:11) Er bod y Beibl yn dweud mai Satan sy’n rheoli llywodraethau dynol, nid yw hyn yn golygu bod y Diafol yn rheoli pob unigolyn mewn awdurdod yn y llywodraeth. (Luc 4:5, 6) Felly, ni ddylen ni roi’r argraff fod swyddog yn y llywodraeth yn cael ei reoli gan y Diafol. Mae’r Beibl yn egluro na ddylen ni ddwyn gwarth ar eraill.—Titus 3:1, 2.

7. Pa feddylfryd sydd angen inni ei osgoi?

7 Rydyn ni’n ufudd i Dduw drwy beidio â ffafrio gwleidyddion na grwpiau gwleidyddol, hyd yn oed pe byddai eu syniadau yn gallu bod o fantais inni. Gall hyn fod yn anodd. Er enghraifft, dychmyga fod pobl yn gwrthryfela yn erbyn llywodraeth sydd wedi achosi cymaint o ddioddefaint, hyd yn oed i Dystion Jehofa. Wrth gwrs, ni fyddet ti’n ymuno â’r gwrthryfelwyr, ond a fyddet ti’n cydymdeimlo â nhw gan obeithio y byddan nhw’n llwyddo? (Effesiaid 2:2) Os ydyn ni eisiau aros yn niwtral, dylen ni osgoi teimlo bod un ochr yn gywir, neu’n well na’r llall. Byddai hyn yn amlwg yn yr hyn rydyn ni’n ei ddweud a’i wneud.

BYDDA’N “GALL” OND ETO’N “DDINIWED”

8. Pan fo’n anodd aros yn niwtral, sut gallwn ni fod yn “gall” ond eto’n “ddiniwed”?

8 Yr ail ffordd o aros yn niwtral yw bod yn “gall fel seirff ac yn ddiniwed fel colomennod.” (Darllen Mathew 10:16, 17.) Rydyn ni’n “gall” wrth feddwl am broblemau o flaen llaw. Ac rydyn ni’n “ddiniwed” drwy aros yn niwtral yn ystod y sefyllfaoedd hynny. Gad inni drafod rhai o’r sefyllfaoedd dan sylw a gweld beth gallwn ni ei wneud i aros yn niwtral.

9. Pa ofal dylen ni ei gymryd wrth siarad â phobl?

9 Sgyrsiau. Mae angen bod yn hynod o ofalus pan fydd pobl yn trafod materion gwleidyddol. Er enghraifft, wrth drafod Teyrnas Dduw, ni fyddwn ni’n dweud ein bod ni’n cytuno neu’n anghytuno â syniadau grwpiau neu arweinwyr gwleidyddol. Yn hytrach na thrafod sut byddai pobl yn datrys problemau’r byd, defnyddia’r Beibl i ddangos sut bydd Teyrnas Dduw yn eu datrys. Os bydd rhai yn dymuno dadlau dros bynciau fel priodasau hoyw neu erthyliad, dywed wrthyn nhw yr hyn mae Gair Duw yn ei ddweud gan esbonio dy fod ti’n ceisio glynu wrth y Beibl yn dy fywyd personol. Petai rhywun yn dweud bod angen newid neu ddileu rhai cyfreithiau, nid ydyn ni’n cymryd ochr, ac nid ydyn ni’n mynnu bod yr unigolyn yn newid ei safbwynt.

Cymhara’r hyn rwyt ti’n ei glywed â’r “geiriau iachusol” sydd yn y Beibl

10. Sut gallwn ni sicrhau ein bod ni’n aros yn niwtral wrth wylio neu ddarllen rhywbeth yn y cyfryngau?

10 Y cyfryngau. Weithiau, mae stori ar y newyddion yn cael ei hadrodd mewn ffordd unochrog. Gall hyn fod yn wir yn enwedig mewn gwledydd lle mae’r cyfryngau yn cael eu rheoli gan y llywodraeth. Petai’r cyfryngau neu newyddiadurwyr yn cymryd ochr, mae’n bwysig nad ydyn ni’n dechrau meddwl yr un ffordd â nhw. Er enghraifft, gofynna i ti dy hun, ‘Ydw i’n mwynhau gwrando ar newyddiadurwr penodol oherwydd fy mod i’n cytuno â’i wleidyddiaeth?’ I’th helpu di i aros yn niwtral, mae’n bwysig iti osgoi gwylio neu ddarllen adroddiadau sy’n cymryd ochr mewn materion gwleidyddol. Yn hytrach, ceisia ddod o hyd i adroddiadau diduedd. A chymhara’r hyn rwyt ti’n ei glywed â’r “geiriau iachusol” sydd yn y Beibl.—2 Timotheus 1:13.

11. Sut gall aros yn niwtral fod yn anodd pan fo pethau materol yn bwysig iawn inni?

11 Materoliaeth. Pan fo arian ac eiddo yn bwysig iawn inni, gall fod yn anodd aros yn niwtral. Ar ôl 1970, roedd llawer o’r Tystion ym Malawi yn gorfod rhoi’r gorau i bopeth roedd ganddyn nhw oherwydd iddyn nhw wrthod ymuno â grŵp gwleidyddol. Ond nid oedd rhai yn fodlon rhoi’r gorau i’w bywyd cyfforddus. Dywedodd chwaer o’r enw Ruth, “Cafodd rhai ohonyn nhw eu halltudio gyda ni, ond, yn nes ymlaen, ymunon nhw â’r blaid wleidyddol a mynd adref oherwydd nad oedden nhw eisiau dioddef bywyd anghyfforddus mewn gwersyll ffoaduriaid.” Ond mae agwedd y rhan fwyaf o bobl Dduw yn wahanol. Maen nhw’n aros yn niwtral, hyd yn oed petai hynny’n golygu llai o arian neu’n achosi iddyn nhw golli popeth sydd ganddyn nhw.—Hebreaid 10:34.

12, 13. (a) Beth mae Jehofa yn ei feddwl am fodau dynol? (b) Sut rydyn ni’n gwybod os ydyn ni’n mynd yn or-falch o’n gwlad?

12 Balchder. Peth cyffredin yw clywed pobl yn brolio am eu hil, eu llwyth, eu diwylliant, eu dinas, neu eu gwlad. Ond nid yw Jehofa yn teimlo bod un person neu grŵp yn well na’r llall. Iddo ef mae pawb yn gyfartal. Wrth gwrs, mae Jehofa wedi creu pawb yn wahanol, a gallwn fwynhau a gwerthfawrogi’r amrywiaeth honno. Nid yw Jehofa eisiau inni roi’r gorau i’n diwylliant, ond nid yw’n dymuno inni feddwl ein bod ni’n well nag eraill ychwaith.—Rhufeiniaid 10:12.

13 Ni ddylen ni byth fod mor falch o’n gwlad fel ein bod ni’n meddwl ei bod hi’n well na gwledydd eraill. Os ydyn ni’n teimlo felly, gall fod yn anodd inni aros yn niwtral. Digwyddodd hyn yn y ganrif gyntaf. Nid oedd rhai o’r brodyr Hebraeg yn trin y gweddwon Groeg eu hiaith yn deg. (Actau 6:1) Sut gallwn wybod os ydyn ni’n meithrin balchder o’r fath? Os yw brawd neu chwaer o wlad arall yn awgrymu rhywbeth iti, wyt ti’n meddwl yn syth, ‘Rydyn ni’n gwneud pethau’n well yn fan’ma,’ ac anwybyddu’r syniad? Os felly, cofia’r cyngor pwysig hwn: “Byddwch yn ostyngedig, a pheidio meddwl eich bod chi’n well na phobl eraill.”—Philipiaid 2:3, beibl.net.

BYDD JEHOFA YN DY HELPU

14. Sut gall gweddïo ein helpu ni, a pha esiampl yn y Beibl sy’n profi hyn?

14 Y drydedd ffordd o aros yn niwtral yw dibynnu ar Jehofa. Gweddïa am yr ysbryd glân sy’n gallu rhoi amynedd a hunanreolaeth iti. Bydd y rhinweddau hyn yn dy helpu di petai’r llywodraeth yn gwneud rhywbeth sy’n annheg neu’n anonest. Gofynna i Jehofa am ddoethineb i adnabod sefyllfaoedd sy’n bygwth dy niwtraliaeth. Gofynna iddo dy helpu di i wneud y peth iawn o dan amgylchiadau o’r fath. (Iago 1:5) Efallai y byddi di’n cael dy garcharu neu dy gosbi mewn ffordd arall am fod yn ffyddlon i Jehofa. Os felly, gweddïa am ddewrder fel y gelli di egluro dy safiad mewn ffordd glir. Gelli di fod yn sicr bydd Jehofa yn dy helpu di i ddyfalbarhau.—Darllen Actau 4:27-31.

Dysga adnodau o’r Beibl a fydd yn dy helpu di i aros yn niwtral ac sy’n disgrifio’r byd newydd

15. Sut gall y Beibl ein helpu i aros yn niwtral? (Gweler hefyd y blwch “ Gwnaeth Gair Duw eu Gwneud Nhw’n Gadarn.”)

15 Mae Gair Duw yn ein hatgyfnerthu. Myfyria ar yr adnodau a fydd yn dy helpu di i aros yn niwtral. Ceisia ddysgu’r adnodau ar gof oherwydd y byddan nhw’n dy helpu di os nad oes gen ti Feibl wrth law. Gall y Beibl hefyd gryfhau dy obaith yn addewidion Duw. Mae angen y gobaith hwn arnon ni er mwyn dyfalbarhau yn wyneb erledigaeth. (Rhufeiniaid 8:25) Dewisa adnodau sy’n disgrifio’r hyn rwyt ti’n edrych ymlaen ato yn y byd newydd, a dychmyga dy fod ti yno.

DYSGU O WEISION FFYDDLON JEHOFA

16, 17. Beth gallwn ni ei ddysgu o esiamplau gweision ffyddlon Duw a wnaeth aros yn niwtral? (Gweler y llun agoriadol.)

16 Y bedwaredd ffordd o aros yn niwtral yw meddwl am esiamplau gweision Jehofa. Roedd llawer yng nghyfnod y Beibl yn ddewr, ac yn gwneud penderfyniadau doeth a oedd yn eu helpu i aros yn niwtral. Meddylia am Sadrach, Mesach, ac Abednego. Roedd y tri ohonyn nhw’n gwrthod addoli delw a gynrychiolodd lywodraeth Babilon. (Darllen Daniel 3:16-18.) Mae’r hanes hwn yn helpu llawer o Dystion heddiw i fod yn ddewr ac i wrthod addoli baner eu gwlad. Doedd Iesu ddim yn ymhél â gwleidyddiaeth nag â materion eraill a oedd yn gwahanu pobl. Roedd yn gwybod y byddai ei esiampl dda yn helpu ei ddisgyblion. Dywedodd: “Codwch eich calon, yr wyf fi wedi gorchfygu’r byd.”—Ioan 16:33.

17 Mae llawer o Dystion yr oes fodern wedi aros yn niwtral. Cafodd rhai eu harteithio, eu carcharu, a hyd yn oed eu lladd oherwydd eu ffydd. Gall eu hesiamplau ein helpu ni i fod yn ddewr. Dywedodd un brawd o Dwrci: “Brawd ifanc oedd Franz Reitar a gafodd ei ddienyddio oherwydd iddo wrthod ymuno â byddin Hitler. Roedd y llythyr a ysgrifennwyd ganddo at ei fam y noson cyn iddo farw yn dangos ei ffydd gref a’i hyder yn Jehofa, ac roeddwn i eisiau dilyn ei esiampl petawn i’n wynebu treial o’r fath.” [2]—Gweler yr ôl-nodyn.

18, 19. (a) Sut gall aelodau dy gynulleidfa dy helpu i aros yn niwtral? (b) Beth rwyt ti’n benderfynol o’i wneud?

18 Gall y brodyr yn dy gynulleidfa di dy helpu i aros yn niwtral. Gad i’r henuriaid wybod os wyt ti’n wynebu sefyllfa anodd. Gallan nhw roi cyngor da o’r Beibl iti. Os yw aelodau o’th gynulleidfa yn ymwybodol o’th sefyllfa, maen nhw’n gallu dy annog di. Gofynna iddyn nhw weddïo drosot ti. Ond dylen ninnau hefyd gefnogi ein brodyr a gweddïo drostyn nhw. (Mathew 7:12) Ar jw.org, ceir rhestr o frodyr sydd yn y carchar yn yr erthygl “Jehovah’s Witnesses Imprisoned for Their Faith—By Location,” o dan NEWSROOM > LEGAL DEVELOPMENTS. Dewisa rai o’r enwau, a gofynna i Jehofa helpu’r brodyr a’r chwiorydd hyn i aros yn ddewr ac yn ffyddlon iddo.—Effesiaid 6:19, 20.

19 Wrth inni agosáu at y diwedd, gallwn ddisgwyl y byddai llywodraethau yn pwyso ar bobl i gymryd ochr. Felly, dyna pam y mae’n bwysig inni baratoi nawr er mwyn aros yn niwtral yn y byd rhanedig hwn!

^ [1] (paragraff 1) Roedd Iesu yn siarad am y llywodraeth pan soniodd am Gesar. Bryd hynny, Cesar oedd y rheolwr a’r awdurdod dynol mwyaf.

^ [2] (paragraff 17) Gweler y llyfr Jehovah’s Witnesses—Proclaimers of God’s Kingdom, tudalen 662, a’r blwch “He Died for God’s Honor” ym mhennod 14 o’r llyfr God’s Kingdom Rules!