GWERS 12
Roedd Nai Paul yn Ddewr
Gad inni ddysgu am ddyn ifanc a achubodd fywyd ei ewythr. Yr apostol Paul oedd ewythr y dyn ifanc. Dydyn ni ddim yn gwybod beth oedd enw’r dyn ifanc, ond rydyn ni yn gwybod ei fod wedi gwneud rhywbeth dewr iawn. Hoffet ti glywed am yr hyn a wnaeth?—
Roedd Paul mewn carchar yn Jerwsalem. Cafodd ei arestio oherwydd iddo bregethu am Iesu. Roedd rhai dynion drwg yn casáu Paul, felly, fe wnaethon nhw gynllwynio yn ei erbyn. Fe ddywedon nhw: ‘Gad inni ofyn i gapten y fyddin ddod â Paul gerbron y llys. Fe wnawn ni guddio ar ochr y ffordd, a phan fydd Paul yn mynd heibio, fe wnawn ni ei ladd!’
Clywodd nai Paul am y cynllwyn. Beth fyddai’n ei wneud? Aeth i’r carchar ac adrodd y cwbl wrth Paul. Ar unwaith, dywedodd Paul wrtho i ddweud wrth y capten am y cynllwyn drwg. A fyddai siarad â’r capten wedi bod yn hawdd i nai Paul?— Na fyddai, oherwydd roedd y capten yn ddyn pwysig iawn. Ond roedd nai Paul yn ddewr, a siaradodd â’r capten.
Roedd y capten yn gwybod yn union beth i’w wneud. Gorchmynnodd ef i bron 500 o filwyr amddiffyn Paul! Dywedodd wrthynt am fynd â Paul i Gesarea y noson honno. A gafodd bywyd Paul ei achub?— Do, doedd y dynion drwg ddim yn medru ymosod arno! Methodd eu cynllwyn drwg.
Beth gelli di ei ddysgu o’r stori yma?— Rwyt tithau hefyd yn medru bod yn ddewr fel nai Paul. Mae angen inni fod yn ddewr pan fyddwn ni’n siarad ag eraill am Jehofa. A fyddi di’n ddewr a dal ati i siarad am Jehofa?— Os gwnei di, efallai y byddi di’n achub bywyd rhywun.