GWERS 25
Neuaddau’r Deyrnas —Pam Maen Nhw’n Cael Eu Hadeiladu a Sut?
Fel y mae’r enw Neuadd y Deyrnas yn ei awgrymu, Teyrnas Dduw yw’r brif ddysgeidiaeth Feiblaidd sy’n cael ei thrafod yno. Wedi’r cwbl, y Deyrnas oedd prif thema gweinidogaeth Iesu.—Luc 8:1.
Canolfannau pur addoliad ydyn nhw. O Neuadd y Deyrnas y mae’r gwaith o bregethu’r newyddion da yn cael ei drefnu. (Mathew 24:14) Mae Neuaddau’r Deyrnas yn amrywio o ran maint a chynllun, ond maen nhw i gyd yn adeiladau syml. Mae llawer yn cael eu defnyddio gan fwy nag un gynulleidfa. Dros y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi adeiladu miloedd ar filoedd o Neuaddau’r Deyrnas (pump bob dydd ar gyfartaledd) er mwyn darparu dros nifer cynyddol o gynulleidfaoedd. Sut mae hyn yn bosibl?—Mathew 19:26.
Maen nhw’n cael eu hadeiladu drwy ddefnyddio cyfraniadau o gronfa ganolog. Mae’r cyfraniadau yn cael eu hanfon i’r swyddfa gangen fel y gall cynulleidfaoedd fenthyg arian er mwyn adeiladu neu adnewyddu eu Neuaddau’r Deyrnas.
Maen nhw’n cael eu hadeiladu gan wirfoddolwyr o bob cefndir. Mewn llawer o wledydd mae Grwpiau Adeiladu Neuaddau’r Deyrnas wedi cael eu trefnu. Mae timau o wirfoddolwyr yn symud o un gynulleidfa i un arall, hyd yn oed i ardaloedd anodd eu cyrraedd. Maen nhw’n helpu’r cynulleidfaoedd lleol i adeiladu eu Neuaddau’r Deyrnas. Mewn gwledydd eraill mae Tystion cymwys wedi cael eu penodi i oruchwylio’r gwaith adeiladu ac adnewyddu Neuaddau’r Deyrnas yn yr ardal o dan eu gofal. Er bod llawer o grefftwyr o’r ardal yn cynnig eu sgiliau a’u llafur yn rhad ac am ddim, ar bob safle adeiladu mae’r rhan fwyaf o’r gwirfoddolwyr yn aelodau o’r gynulleidfa leol. Mae ysbryd Jehofa a brwdfrydedd ei bobl yn gwneud hyn i gyd yn bosibl.—Salm 127:1; Colosiaid 3:23.
-
Pam rydyn ni’n galw ein canolfannau addoli yn Neuaddau’r Deyrnas?
-
Sut mae’n bosibl adeiladu Neuaddau’r Deyrnas ar hyd a lled y byd?