GWERS 9
Beth Yw’r Ffordd Orau o Baratoi ar Gyfer y Cyfarfodydd?
Os ydych chi’n astudio’r Beibl ag un o Dystion Jehofa, mae’n debyg eich bod chi’n edrych dros y deunydd o flaen llaw. Er mwyn elwa’n llawn ar y cyfarfodydd, peth da fyddai paratoi yn yr un modd. Bydd astudio’n gyson yn dwyn ffrwyth ichi.
Penderfynwch pa bryd y gallwch astudio ac ym mha le. Pa bryd yw’r amser gorau ichi ganolbwyntio? Ai’n gynnar yn y bore, cyn mynd i’r gwaith neu gyda’r nos ar ôl i’r plant fynd i’w gwelyau? Hyd yn oed os nad ydych chi’n gallu astudio am gyfnod hir, penderfynwch faint o amser y gallwch ei roi o’r neilltu a pheidiwch â gadael i bethau eraill dorri ar eich traws. Dewiswch rywle distaw a diffoddwch y radio, y teledu, y ffôn symudol neu unrhyw beth arall a allai dynnu eich sylw. Bydd gweddïo cyn astudio yn eich helpu chi i anghofio am eich pryderon ac i ganolbwyntio ar Air Duw.—Philipiaid 4:6, 7.
Ysgrifennwch nodiadau a byddwch yn barod i gyfrannu. Dechreuwch drwy fwrw bras olwg dros y deunydd. Ystyriwch deitl yr erthygl neu’r bennod a’r ffordd mae’r isbenawdau’n cysylltu â’r thema. Edrychwch ar y lluniau a’r cwestiynau adolygu i weld beth yw’r prif bwyntiau. Yna, darllenwch bob paragraff a chwiliwch am yr atebion i’r cwestiynau. Darllenwch yr adnodau y cyfeirir atyn nhw, ac ystyriwch sut maen nhw’n cefnogi’r hyn sy’n cael ei ddweud. (Actau 17:11) Ar ôl dod o hyd i’r ateb, tanlinellwch ychydig o eiriau neu ambell frawddeg allweddol a fydd yn dwyn yr ateb yn ôl i’ch cof. Wedyn, fe allwch chi godi eich llaw yn y cyfarfod a gwneud sylw byr yn eich geiriau eich hun.
Bydd astudio’r pynciau sy’n cael eu trafod yn ein cyfarfodydd yn cyfrannu at eich ‘trysorfa’ o wybodaeth Feiblaidd.—Mathew 13:51, 52.
-
Sut gallwch drefnu eich amser er mwyn paratoi’n rheolaidd ar gyfer y cyfarfodydd?
-
Sut gallwch chi baratoi er mwyn gwneud sylw yn y cyfarfodydd?