Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

RHAN 22

Yr Apostolion yn Pregethu’n Ddewr

Yr Apostolion yn Pregethu’n Ddewr

Er gwaethaf erledigaeth, mae’r gynulleidfa Gristnogol yn cynyddu

DDEG diwrnod ar ôl i Iesu esgyn i’r nef, roedd tua 120 o’i ddisgyblion wedi dod ynghyd mewn tŷ yn Jerwsalem ar adeg gŵyl Iddewig y Pentecost, 33 OG. Yn sydyn, fe glywon nhw sŵn fel gwynt mawr yn llenwi’r tŷ. Dechreuodd y disgyblion siarad mewn ieithoedd nad oedden nhw yn eu siarad gynt. Sut oedd hyn yn bosibl? Roedd Duw wedi rhoi ei ysbryd glân i’w ddisgyblion.

Roedd y ddinas yn llawn pobl a oedd wedi dod o wledydd eraill ar gyfer yr ŵyl. Roedden nhw’n synnu o glywed disgyblion Iesu yn siarad eu hieithoedd nhw yn rhugl. Esboniodd Pedr fod Joel wedi proffwydo y byddai Duw yn tywallt ei ysbryd a byddai hyn yn rhoi doniau gwyrthiol i bobl. (Joel 2:28, 29) Roedd gweld grym yr ysbryd glân ar waith yn dangos yn glir fod newid mawr wedi digwydd. O hyn ymlaen, y gynulleidfa Gristnogol newydd a fyddai’n cael bendith Duw yn hytrach nag Israel. Bellach, i wasanaethu Duw, roedd rhaid dod yn ddisgybl i Grist.

Cynyddodd y gwrthwynebiad a chafodd y disgyblion eu taflu i’r carchar. Ond yn ystod y nos, agorodd angel Jehofa ddrysau’r carchar a dweud wrth y disgyblion am ddal ati i bregethu. Ar doriad y dydd, aethon nhw’n syth i’r deml a dechrau dysgu’r newyddion da am Iesu. Roedd eu gelynion crefyddol yn gandryll, a chafodd y disgyblion orchymyn i beidio â phregethu. Ond, atebodd yr apostolion yn benderfynol: “Rhaid ufuddhau i Dduw yn hytrach nag i ddynion.”—Actau 5:28, 29.

Gwaethygodd yr erledigaeth. Cyhuddwyd disgybl o’r enw Steffan o gabledd a chafodd ei labyddio. Roedd dyn ifanc, Saul o Darsus, yn gwylio’r cyfan ac yn cymeradwyo’r llofruddiaeth. Aeth ymlaen wedyn i Ddamascus i arestio dilynwyr Crist. Ond, ar y ffordd, fflachiodd goleuni o’r nef o’i gwmpas a dyma lais yn dweud: “Saul, Saul, pam yr wyt yn fy erlid i?” Wedi ei ddallu, gofynnodd Saul: “Pwy wyt ti?” Atebodd y llais: “Iesu wyf fi.”—Actau 9:3-5.

Tridiau’n ddiweddarach, anfonodd Iesu ddisgybl o’r enw Ananias i adfer golwg Saul. Cafodd Saul ei fedyddio a dechreuodd bregethu am Iesu yn ddi-ofn. Daeth Saul i gael ei adnabod fel yr apostol Paul a daeth yn aelod selog o’r gynulleidfa Gristnogol.

Hyd yma, roedd disgyblion Iesu wedi bod yn cyhoeddi’r newyddion da i’r Iddewon a’r Samariaid yn unig. Nawr, ymddangosodd angel i’r dyn duwiol Cornelius a oedd yn swyddog yn y fyddin Rufeinig, a dweud wrtho am anfon ei weision i nôl yr apostol Pedr. Er nad oedd Cornelius na’i deulu yn Iddewon, fe aeth Pedr i bregethu wrthyn nhw. Tra oedd Pedr yn siarad, daeth yr ysbryd glân ar y credinwyr newydd hyn, a dywedodd Pedr y dylen nhw gael eu bedyddio yn enw Iesu. Roedd y ffordd i fywyd tragwyddol nawr yn agored i bobl o bob cenedl. Roedd y gynulleidfa yn barod i bregethu’r newyddion da ledled y byd.

—Yn seiliedig ar Actau 1:1–11:21.