GWERS 10
Sut Gallwch Chi Wybod Pa Grefydd Sy’n Iawn?
1. Ai dim ond un wir grefydd sydd?
Dim ond un grefydd yr oedd Iesu’n ei dysgu i’w ddisgyblion, sef y wir grefydd. Mae hi’n debyg i ffordd sy’n arwain at fywyd tragwyddol. Dywedodd Iesu am y ffordd honno: “Ychydig yw’r sawl sy’n ei chael.” (Mathew 7:14) Dim ond crefydd sy’n seiliedig ar ei Air y Beibl sy’n dderbyniol gan Dduw. Un ffydd sydd yn uno gwir addolwyr Duw.—Darllenwch Ioan 4:23, 24; 14:6; Effesiaid 4:4, 5.
Gwyliwch y fideo Ydy Duw yn Derbyn Addoliad o Bob Math?
2. Beth ddywedodd Iesu ynglŷn â gau Gristnogion?
Rhybuddiodd Iesu y byddai gau broffwydi’n llygru Cristnogaeth. Ar y tu allan, maen nhw i’w gweld yn debyg iawn i wir addolwyr. Mae eu heglwysi’n honni eu bod nhw’n dilyn Crist. Ond, fe allwch chi wahaniaethu rhwng y gwir a’r gau. Sut felly? Oherwydd gwir addoliad yn unig sy’n creu gwir Gristnogion sy’n meddu ar nodweddion a rhinweddau hawdd eu hadnabod.—Darllenwch Mathew 7:13-23.
3. Sut gallwch chi adnabod gwir addolwyr Duw?
Ystyriwch y pum nod adnabod canlynol:
-
Mae gwir addolwyr yn credu mai Gair Duw yw’r Beibl. Maen nhw’n ceisio byw yn unol â’i egwyddorion. Felly, mae gwir grefydd yn wahanol i grefydd sy’n seiliedig ar syniadau dynol. (Mathew 15:7-9) Nid yw gwir addolwyr yn pregethu un peth ac yn gwneud rhywbeth arall.—Darllenwch Ioan 17:17; 2 Timotheus 3:16, 17.
-
enw Duw drwy ei wneud yn hysbys. Helpodd pobl i adnabod Duw a dysgodd iddyn nhw weddïo am i enw Duw gael ei sancteiddio. (Mathew 6:9) Yn eich ardal chi, pa grefydd sy’n gwneud enw Duw’n hysbys?—Darllenwch Ioan 17:26; Rhufeiniaid 10:13, 14.
Mae gwir ddilynwyr Iesu’n parchu enw Duw, Jehofah. Fe wnaeth Iesu barchu -
Mae gwir Gristnogion yn pregethu am Deyrnas Dduw. Anfonodd Duw ei fab, Iesu, i bregethu’r newyddion da am y Deyrnas. Teyrnas Dduw yw’r unig obaith ar gyfer dynolryw. Daliodd Iesu ati i siarad am y Deyrnas hyd at ei farwolaeth. (Luc 4:43; 8:1; Ioan 18:36) Dywedodd y byddai ei ddilynwyr yn pregethu am y Deyrnas. Pe bai rhywun yn dod atoch chi ac yn siarad am Deyrnas Dduw, i ba grefydd y byddai’n perthyn, dybiwch chi?—Darllenwch Mathew 24:14.
-
Nid yw dilynwyr Iesu’n rhan o’r byd drwg hwn. Gallwch eu hadnabod oherwydd nad ydyn nhw’n ymhél â gwleidyddiaeth y byd, nac unrhyw wrthdaro cymdeithasol. (Ioan 17:16; 18:36) Hefyd, dydyn nhw ddim yn efelychu agweddau ac arferion niweidiol y byd.—Darllenwch Iago 4:4.
-
Mae gan wir Gristnogion gariad mawr tuag at ei gilydd. Mae Gair Duw yn dysgu Cristnogion i barchu pobl o bob cenedl. Mae gau grefyddau’n aml wedi cefnogi rhyfeloedd y byd yn frwd, ond mae gwir addolwyr yn gwrthod gwneud hynny. (Micha 4:1-3) Mae gwir Gristnogion yn defnyddio eu hamser a’u hadnoddau i helpu ac i galonogi pobl eraill.—Darllenwch Ioan 13:34, 35; 1 Ioan 4:20.
4. Ydych chi’n gallu dweud pa un yw’r wir grefydd?
Pa grefydd sy’n seilio ei dysgeidiaeth i gyd ar Air Duw? Pa grefydd sy’n anrhydeddu enw Duw, ac yn cyhoeddi’r Deyrnas fel unig obaith y ddynoliaeth? Pa grŵp sy’n dangos cariad ac yn gwrthod cymryd rhan mewn rhyfeloedd? Beth yw eich barn chi?—Darllenwch 1 Ioan 3:10-12.