Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 1

Beth Yw’r Newyddion Da?

Beth Yw’r Newyddion Da?

1. Beth yw’r newyddion oddi wrth Dduw?

Mae Duw yn dymuno i bobl fwynhau bywyd ar y ddaear. Fe greodd y ddaear a phopeth arni oherwydd ei gariad tuag at ddynolryw. Yn fuan, fe fydd yn gweithredu i sicrhau dyfodol gwell ar gyfer pobl ym mhob man. Bydd yn cael gwared ar bopeth sy’n gwneud i bobl ddioddef.​—Darllenwch Jeremeia 29:11.

Nid oes yr un llywodraeth erioed wedi llwyddo i ddileu trais, afiechydon, neu farwolaeth. Ond mae newyddion da ar gael. Cyn bo hir, bydd pob llywodraeth ddynol yn cael ei disodli gan lywodraeth Duw a bydd pawb yn mwynhau heddwch ac iechyd da.​—Darllenwch Eseia 25:8; 33:24; Daniel 2:44.

2. Pam mae’r newyddion da yn fater o frys?

Dim ond ar ôl i Dduw gael gwared ar bobl ddrwg y bydd dioddef yn dod i ben. (Seffaneia 2:3) Pa bryd y bydd hynny? Roedd Gair Duw yn rhagweld yr amgylchiadau sydd, erbyn hyn, yn peryglu’r ddynoliaeth. Mae’r hyn sy’n digwydd yn y byd heddiw yn dangos y bydd Duw yn gweithredu’n fuan.​—Darllenwch 2 Timotheus 3:1-5.

3. Beth dylen ni ei wneud?

Drwy ddarllen ei Air, y Beibl, mae rhywun yn dysgu am Dduw. Mae’r Beibl yn debyg i lythyr oddi wrth dad cariadus. Mae’n dweud wrthon ni am sut i gael bywyd gwell nawr a sut i gael bywyd tragwyddol ar y ddaear yn y dyfodol. Efallai na fydd pawb yn hapus eich bod chi’n astudio’r Beibl. Ond mae’r cyfle am ddyfodol gwell yn rhy dda i’w golli.​—Darllenwch Diarhebion 29:25; Datguddiad 14:6, 7.