Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

RHAN 3

Sut i Ddatrys Problemau

Sut i Ddatrys Problemau

“Daliwch ati i ddangos cariad dwfn at eich gilydd, oherwydd mae cariad yn cael gwared â llwythi o bechodau.”—1 Pedr 4:8, beibl.net

Wrth i chi a’ch cymar ddechrau eich bywyd gyda’ch gilydd, fe fydd nifer o wahanol broblemau yn codi. Efallai y bydden nhw’n codi oherwydd eich bod chi’n meddwl, teimlo, ac edrych ar fywyd mewn ffordd wahanol. Neu, gall problemau ddod o’r tu allan i’r teulu, neu o ddigwyddiadau annisgwyl.

Fe all fod yn demtasiwn i osgoi’r gwirionedd, ond mae’r Beibl yn ein hannog ni i wynebu ein problemau. (Mathew 5:23, 24) Drwy roi egwyddorion y Beibl ar waith, byddwch yn darganfod yr atebion gorau i’ch problemau.

1 TRAFODWCH Y BROBLEM

MAE’R BEIBL YN DWEUD: “Y mae . . . amser i siarad.” (Pregethwr 3:1, 7) Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n treulio amser yn trafod y broblem. Byddwch yn onest am eich teimladau a’ch meddyliau ar y pwnc. “Dywedwch y gwir” i’ch cymar bob tro. (Effesiaid 4:25) Hyd yn oed pan fydd emosiynau cryf yn codi, peidiwch â ffraeo. Gall ateb distaw gadw’r sgwrs rhag cynyddu a throi’n chwerw.—Diarhebion 15:4; 26:20.

Hyd yn oed os ydych yn anghytuno, byddwch yn raslon, gan gofio dangos cariad a pharch tuag at eich cymar. (Colosiaid 4:6) Ceisiwch ddatrys y broblem cyn gynted â phosibl, a pheidiwch â rhoi’r gorau i gyfathrebu.—Effesiaid 4:26.

BETH GALLWCH CHI EI WNEUD?

  • Trefnwch amser addas i drafod y broblem

  • Pan ddaw eich tro chi i wrando, peidiwch â thorri ar draws. Fe ddaw eich cyfle i siarad

2 GWRANDEWCH A DEALL

MAE’R BEIBL YN DWEUD: “Byddwch wresog yn eich serch at eich gilydd . . . Rhowch y blaen i’ch gilydd mewn parch.” (Rhufeiniaid 12:10) Mae’r ffordd rydych yn gwrando yn bwysig iawn. Ceisiwch ddeall safbwynt eich cymar a ‘chydymdeimlo . . . yn ostyngedig.’ (1 Pedr 3:8; Iago 1:19) Peidiwch â chogio gwrando. Os yw’n bosibl, rhowch i un ochr yr hyn rydych yn ei wneud, a rhowch eich holl sylw i’ch cymar. Neu, gofynnwch a gewch chi drafod y broblem yn nes ymlaen. Os byddwch yn gweld eich cymar fel ffrind yn hytrach na gelyn, ni fyddwch yn “rhuthro i ddangos dig.”—Pregethwr 7:9.

BETH GALLWCH CHI EI WNEUD?

  • Daliwch ati i wrando gyda meddwl agored, hyd yn oed pan nad ydych yn hoffi’r hyn rydych yn ei glywed

  • Gwrandewch am y neges sydd y tu ôl i’r geiriau. Sylwch ar iaith y corff a thôn y llais

3 GWEITHREDWCH

MAE’R BEIBL YN DWEUD: “Ym mhob llafur y mae elw, ond y mae gwag-siarad yn arwain i angen.” (Diarhebion 14:23) Nid yw’n ddigon i gytuno ar sut i ddatrys y broblem. Mae’n rhaid gweithredu ar y penderfyniad rydych chi a’ch cymar wedi cytuno arno. Gall hyn olygu llawer o waith caled, ond fe fydd hi’n werth yr ymdrech. (Diarhebion 10:4) Os ydych yn gweithio gyda’ch gilydd fel tîm, fe gewch chi wobr dda am eich gwaith caled.—Pregethwr 4:9.

BETH GALLWCH CHI EI WNEUD?

  • Penderfynwch pa gamau ymarferol bydd y ddau ohonoch yn eu cymryd i ddatrys eich problem

  • Bob hyn a hyn, ystyriwch faint rydych wedi gwella