Gwaith Cyfieithu ym Mecsico a Chanolbarth America
Ym Mecsico a Chanolbarth America mae tua 290 o gyfieithwyr yn byw mewn chwech o wledydd. Maen nhw’n cyfieithu cyhoeddiadau Beiblaidd i dros 60 o ieithoedd. Pam yr holl ymdrech? Oherwydd unwaith mae pobl yn derbyn llenyddiaeth Feiblaidd mewn iaith sy’n hawdd ei deall, mae’r neges yn fwy tebygol o gyrraedd eu calonnau.—1 Corinthiaid 14:9.
Er mwyn codi ansawdd y cyfieithu, symudwyd rhai o’r cyfieithwyr a oedd yn gweithio yn swyddfa gangen Tystion Jehofa yn Ninas Mecsico i swyddfeydd yn yr ardaloedd lle mae eu hieithoedd yn cael eu siarad. A’r canlyniad? Mae’r cyfieithwyr yn cymdeithasu gyda siaradwyr brodorol o’r ieithoedd maen nhw’n cyfieithu iddyn nhw, sydd wedyn yn hwyluso’r nod o gynhyrchu llenyddiaeth hawdd ei deall.
Beth yw teimladau’r cyfieithwyr o brofi’r newidiadau hyn? Dywed Federico, cyfieithydd i’r iaith Guerrero Nahwatl: “Treuliais bron i ddeng mlynedd yn Ninas Mecsico, ac yn yr amser hynny, cwrddais â dim ond un teulu oedd yn siarad fy iaith i. Ond nawr, yn y trefi o gwmpas y swyddfa gyfieithu, mae bron pawb yn ei siarad!”
Mae Karin yn cyfieithu i’r Isel Almaeneg yn y swyddfa yn nhalaith Chihuahua ym Mecsico, dywedodd hi: “Mae byw yma ym mhlith y Mennoniaid wedi fy helpu i gadw gafael ar yr iaith fel maen nhw’n ei siarad. Rydyn ni’n byw ac yn gweithio mewn tref fach, ac wrth edrych allan trwy’r ffenest, galla’ i weld y bobl a fydd yn cael lles o’r gwaith cyfieithu rydyn ni’n ei wneud yma.”
Dywed Neyfi, sy’n byw yn y swyddfa gyfieithu ym Mérida, Mecsico: “Pan ydyn ni’n cynnal astudiaethau Beiblaidd ym Maieg, rydyn ni’n adnabod pa ymadroddion sy’n anodd eu deall i’r Maia. Felly rydyn ni’n chwilio am ffordd naturiol i drosi’r ymadroddion hynny yn ein gwaith cyfieithu.”
Sut mae’r bobl sy’n derbyn y llenyddiaeth yn elwa arni? Ystyriwch enghraifft: Tlapaneg yw mamiaith Elena, ac am tua 40 mlynedd roedd hi’n mynychu cyfarfodydd Tystion Jehofa. Roedd y cyfarfodydd mewn Sbaeneg, felly nid oedd hi’n gallu deall. “Ond, roeddwn i’n sicr o’m dymuniad i fod yn y cyfarfodydd,” meddai. Ond, wedi iddi astudio’r Beibl drwy ddefnyddio llyfrynnau yn Tlapaneg, tyfodd ei chariad at Dduw nes iddi gael ei bedyddio yn 2013. Dywed Elena, “Rwy’n diolch i Jehofa am adael imi ddeall y Beibl.”