Neidio i'r cynnwys

Helpu Pobl Ddall yn Affrica

Helpu Pobl Ddall yn Affrica

Nid yw pobl ddall mewn rhai gwledydd datblygol yn cael yr un cyfleoedd â deillion mewn llefydd eraill. Weithiau, nid ydyn nhw’n rhan o’r gymuned, nac yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw i gyflawni tasgau bob dydd y mae eraill yn eu cymryd yn ganiataol. Er enghraifft, gall fynd i’r farchnad i brynu bwyd, dal bws, a delio ag arian fod yn anodd iddyn nhw. Gall darllen fod yn broblem hefyd. Nid yw pawb yn darllen Braille. Ond, hyd yn oed os ydyn nhw, nid yw’n hawdd cael gafael ar lenyddiaeth yn eu hiaith.

Am dros gan mlynedd, mae Tystion Jehofa wedi bod yn cynhyrchu llenyddiaeth ar gyfer y deillion sydd wedi ei seilio ar y Beibl. Er mwyn gwneud cyhoeddiadau Braille yn yr iaith Tsitseweg, iaith a siaradir ym Malawi, cludodd y Tystion beiriannau rhwymo ac argraffu o’r Iseldiroedd i Falawi.

Teithiodd Leo, dyn sydd â phrofiad o gyhoeddi llenyddiaeth Braille, o swyddfa gangen Tystion Jehofa Brasil i Falawi. Roedd Leo yn helpu tîm o bump i ddysgu sut i ddefnyddio’r peiriannau ynghyd â’r rhaglen gyfrifiadurol a ddatblygwyd gan y Tystion i drosi Braille. Mae’r rhaglen yn newid y llythrennau i Braille Tsitseweg. I’r rhaglen wneud hyn, roedd angen i’r defnyddwyr osod tabl trosi yn yr iaith Tsitseweg a oedd yn cynnwys llythrennau arferol a llythrennau Braille. Gall y rhaglen drosi’r llythrennau i Braille a’u gosod mewn modd sy’n ei gwneud hi’n hawdd i bobl ddall eu darllen. Darllenwch yr hyn y mae rhai wedi ei ddweud ynglŷn â’u cyhoeddiadau Braille.

Dynes ifanc ddall sy’n gweithio’n rhan amser yw Munyaradzi ac yn cyflwyno rhaglen radio ei hun. Mae hi hefyd yn treulio 70 awr y mis yn dysgu eraill am y Beibl. Fe ddywedodd: “Yn y gorffennol, cefais i’r llenyddiaeth Braille yn Saesneg, ond mae cael y cyhoeddiadau yn fy mamiaith wedi cyffwrdd â’m calon. Dw i’n gwerthfawrogi’n fawr iawn yr ymdrech a’r drafferth mae fy nghyd Dystion wedi eu gwneud i’n helpu ni i gael y cyhoeddiadau Braille yn ein hiaith ein hunain. Mae hyn yn dangos imi nad yw’r brodyr wedi anghofio amdanon ni, ac ein bod ni’n werthfawr iddyn nhw.”

Mae Tyst o’r enw Francis yn byw yng ngogledd Malawi. Ar un adeg roedd yn dibynnu ar eraill i ddarllen iddo oherwydd ei fod yn ddall. Pan gafodd ef y cyhoeddiadau yn iaith Tsitseweg, dywedodd: “Ai breuddwydio ydw i? Mae hyn yn hyfryd!”

Mae Loyce yn gwasanaethu fel gweinidog llawn amser ac mae hi hefyd yn ddall. Mae wedi helpu 52 o bobl i newid eu bywydau er gwell. Sut? Mae Loyce yn defnyddio’r cyhoeddiadau Braille wrth ddysgu eraill ac mae’r bobl sy’n astudio yn defnyddio’r rhai printiedig, y cwbl wedi eu cyhoeddi gan Dystion Jehofa.

Loyce yn dysgu rhywun am y Beibl

Dywedodd Leo, yr hyfforddwr o Frasil a soniwyd amdano yn gynharach, “Mae’n rhoi boddhad mawr imi i roi llenyddiaeth Braille Feiblaidd i bobl a gweld eu hymateb wrth iddyn nhw sylweddoli eu bod yn eu hiaith. Gan eu bod nhw nawr yn gallu paratoi ar gyfer y cyfarfodydd Cristnogol a’r gwaith pregethu heb gymorth, mae llawer yn dweud pa mor ddiolchgar ydyn nhw i Jehofa a pha mor hapus ydyn nhw. Nid oes angen dibynnu ar eraill i ddarllen iddyn nhw bellach. Nawr, mae eu hastudiaeth bersonol, yn bersonol. Maen nhw’n gallu helpu eu teuluoedd i dyfu’n ysbrydol. Mae’r cyhoeddiadau hyn yn eu helpu nhw i nesáu at Jehofa.”